Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llangollen yn cynnwys saith bloc coedwig wahanol; Corwen, Cynwyd, Carrog, Nantyr (coedwig Ceiriog), Coed Foel, Craig-y-Dduallt a Choedwig Halton, sydd wedi'u lleoli yn Nyffryn Dyfrdwy a Dyffryn Ceiriog. Mae gan y coetiroedd hyn gyda'i gilydd arwynebedd cyfan o 1,400 hectar ac yn cynnwys cymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail:
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Share
Share on Twitter Share on Facebook