Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'n gynaliadwy yr coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin yn ymestyn dros 663 hectar, ac yn cynnwys nifer o fân goetiroedd ar gyrion tref Llanbedr Pont Steffan, i'r gogledd ac i'r gorllewin, ynghyd ag amryw o flociau mwy helaeth ymhellach i'r gogledd, sydd wedi'u lleoli ar draws yr ardal o amgylch Cross Inn, Bethania a Chilcennin.
Mae coetiroedd Llanbedr Pont Steffan o fewn tirwedd isel ac amrywiol, y tu allan i gyrion y dref ac maen nhw’n rhan annatod o’r dirwedd amaethyddol gyfoethog a’r coetir cymysg sy’n amgylchynu’r dref.
Er eu bod yn gymharol isel, mae’r blociau o goetir amrywiol o amgylch Cilcennin a Cross Inn i’r gogledd, yn gorwedd o fewn tirwedd eithaf gwastad ac eithriadol o agored, wedi’u hamgylchynu gan ardaloedd nodedig o rostir a chorsydd. Mae’r nodweddion hyn yn rhoi cymeriad llawer mwy ucheldirol i’r coetiroedd nag y byddai eu huchder yn ei awgrymu, ac yn hanesyddol, mae hyn wedi dylanwadu’n sylweddol ar yr opsiynau a ddefnyddiwyd i reoli’r coetiroedd hyn.
Mae ardal gyfan y cynllun adnoddau coedwig o fewn Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion.
Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Llanbedr Pont Steffan)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Cilcennin - Gogledd)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Cilcennin - De)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Llanbedr Pont Steffan)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Cilcennin - Gogledd)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Cilcennin - De)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Llanbedr Pont Steffan)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Cilcennin - Gogledd)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Cilcennin - De)
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin i'n helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook