Cynllun Adnoddau Coedwig Harlech
Trosolwg
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae cynllun Adnoddau Coedwig Harlech yn cwmpasu cyfanswm o 136 Ha, wedi’i leoli ychydig i’r gogledd o dref Harlech. Gellir cyrraedd y goedwig o’r A496 rhwng Ynys a Harlech. Mae’n gorwedd wrth geg aber afonydd Dwyryd a Glaslyn. Mae hefyd yn gorgyffwrdd ag Ardal Cadwraeth Arbennig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech a Morfa Dyffryn, sy’n cwmpasu’n bennaf nodweddion o ddiddordeb twyni tywod. Mae’r goedwig yn llwyr o fewn Awdurdod Cynllunio lleol Gwynedd. Mae hefyd wedi’i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.
Crynodeb o’r Blaenoriaethau a’r Amcanion
- Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio pa rywogaethau i’w dewis ar gyfer cwympo ac ailstocio. Ystyried graddfa, maint ac amseriad unrhyw waith llwyrgwympo, gan osgoi cwympo unrhyw lennyrch nesaf at ei gilydd.
- Cynyddu’r amrywiaeth strwythurol drwy ddefnyddio System Coedamaeth Effaith Isel mewn cnydau pinwydd a hyd yn oed gnydau llydanddail hŷn. Dros amser bydd llawer mwy o waith rheoli coedwigoedd yn cael ei wneud drwy Systemau Coedamaeth Effaith Isel a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus, gan leihau’r effeithiau ar y dirwedd a gwella’r amrywiaeth strwythurol.
- Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau coedwig drwy roi ystyriaeth ofalus i’r rhywogaethau ar gyfer ail-stocio a thanblannu, yn enwedig ble mae coed Pinwydd Corsica wedi’u heffeithio gan Dothistroma septosporum (malltod nodwyddau bandiau coch) ac er mwyn gwella cyfansoddiad oedran drwy fondocio a chwympo llennyrch bychain i’w galluogi i wrthsefyll plâu a chlefydau yn well.
- Adfer y nodweddion o ddiddordeb yn ACA Morfa Harlech a Morfa Dyffryn yn unol â Chynllun Rheoli Craidd yr ACA a’r Cynllun Rheoli Tir. Bydd yr ardal o’r ACA sydd o fewn ffin y goedwig yn cael ei rheoli i gynnal a gwella nodweddion yr ACA sydd o ddiddordeb twyni tywod.
- Datblygu’r goedwig dros amser yn gyfres o gynefinoedd, gyda blaen y goedwig yn cael ei blaenoriaethu fel cynefin twyni agored, a hynny’n troi’n goetir olynol y twyni, yna’n goetir llydanddail cymysg, ac yn olaf yn goedwig pinwydd gynhyrchiol yn y rhan o’r goedwig sydd fwyaf tua’r tir.
- Gwella cysylltedd cynefinoedd drwy gynnal a gwella coridorau cynefin.
- Tynnu coed llarwydd yn sgil Phytophthora ac er mwyn ailstocio’r ardal â rhywogaethau brodorol i gynnal gorchudd y goedwig.
- Cynnal a gwella cyfleusterau hamdden a sicrhau nad yw gweithrediadau coedwigaeth yn tarfu ar Lwybr Arfordir Cymru, ac os oes angen, dargyfeirio’r llwybr er mwyn gallu cynnal gweithrediadau.
- Ymgysylltu â chymunedau lleol i helpu i ddatblygu cyfleusterau hamdden yn lleol o fewn ac o amgylch ardal y goedwig.
- Nodi nodweddion treftadaeth a diwylliannol er mwyn osgoi eu difrodi, a’u rheoli i gynnal eu cyflwr.
- Ymchwilio i gyfleoedd i hyrwyddo nodweddion hanesyddol y safle ac addysgu’r cyhoedd amdanynt.
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Yn ogystal â’r arolwg ar-lein hwn, cynhelir sesiwn galw heibio yn ‘Hwb Harlech’ yn Hen Lyfrgell ac Institiwt Harlech, Stryd Fawr, Harlech, LL46 2YB, ddydd Iau 1 Chwefror 2024 rhwng 3pm a 7pm er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid drafod Cynllun Adnoddau Coedwig Harlech wyneb yn wyneb gyda chynllunwyr coedwig CNC.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Harlech er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Beth sy'n digwydd nesaf
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Ardaloedd
- Aberbargoed
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook