Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Gwydyr
Trosolwg
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Ar hyn o bryd, mae CNC yn adolygu'r Cynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer Coedwig Gwydyr. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu Gogledd Gwydyr, sef oddeutu 3,377 o hectarau o dir yn Nyffryn Conwy rhwng Dolgarrog yn y gogledd a Dyffryn Lledr yn y de. Mae'r ardal o fewn dalgylch dwy afon, afon Crafnant ac afon Llugwy, ac yn rhannu ffin ag afon Lledr i'r de. I'r gogledd mae'r goedwig yn rhannu ffin ag Ardal Cadwraeth Arbennig Eryri. Mae yna lawer o safleoedd mwyngloddio (SoDdGA) sydd o ddiddordeb cadwraethol oherwydd eu casgliadau o blanhigion is a safleoedd ystlumod yn yr ardal hon o'r goedwig.
Mae gan Ogledd Gwydyr amrywiaeth eang o rywogaethau coed conwydd a llydanddail, ond conwydd yn bennaf (68%). Mae gan yr ardal hefyd leiniau helaeth o goetir hynafol a choed llydanddail (25%), y mae'r mwyafrif ohonynt wedi'u lleoli mewn dyffrynnoedd afonydd a'r rhannau mwyaf gweladwy o'r goedwig.
Mae'n hawdd cyrraedd y goedwig o nifer o ffyrdd a hawliau tramwy a chymunedau Trefriw, Betws-y-coed, Dolwyddelan, Penmachno a Chapel Curig. Mae'r ardal yn boblogaidd iawn, oherwydd ei lleoliad ychydig i'r dwyrain o holl gopaon enwog ac adnabyddus Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r goedwig ei hun yn cael ei defnyddio llawer ar gyfer heicio, beicio a marchogaeth. Mae nifer o feysydd parcio llai yn y goedwig ac o'i chwmpas sy'n darparu mynediad hawdd i'r ardal helaeth o goedwig, ynghyd â’r nifer fawr o lynnoedd a chronfeydd dŵr sydd i’w cael yn y goedwig.
Mae ardal gyfan y cynllun adnoddau coedwig yn awdurdod cynllunio lleol Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Crynodeb o’r Blaenoriaethau a’r Amcanion
- Gwella adeiladwaith mewnol y goedwig drwy ddatblygu amrywiaeth o ddosbarthiadau oedran, coed o faint amrywiol a chymysgeddau o rywogaethau pan fo modd. Pan fo modd, gellir cyflawni hyn drwy barhau i reoli coedwigoedd gan ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith. Gall y rhain gynnwys systemau coed cysgodol amrywiol, cwympo coed mewn stribedi, cwympo coed mewn grwpiau bach, a theneuo cnydau conwydd a chnydau llydanddail estron yn barhaus.
- Amrywio’r cyfansoddiad o rywogaethau'r goedwig drwy hyrwyddo strategaeth ailstocio fwy amrywiol, a fydd yn cynnwys rhagor o amrywiadau o goed llydanddail a brodorol yn ogystal â chonwydd, fel pinwydd, ffynidwydd a phyrwydd, gan leihau nifer y rhywogaethau estron goresgynnol o fewn y safleoedd coetir lled-naturiol hynafol ac o’u hamgylch.
- Cael gwared ar unrhyw goed larwydd sydd wedi’u heintio gan Phytophthora ramorum a chynllunio ar gyfer gwaredu yn y pen draw yr ardaloedd â nifer sylweddol o goed llarwydd sy'n weddill o dan y Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd.
- Creu adeiladwaith coedwig ac ecosystem barhaol ac amrywiol sy'n cynnwys coetir torlannol a brodorol, gyda gwarchodfeydd naturiol a rhagor o goetiroedd olynol a chynefinoedd agored ar hyd ffyrdd a rhodfeydd coedwig. Gwella ecosystem y coetir i gynyddu nifer y cynefinoedd ar gyfer nifer o rywogaethau adar, mamaliaid ac infertebratau, gan gynnwys pathewod ac ystlumod yn ogystal ag amrywiaeth eang o fflora. Mae Coedwig Gwydyr hefyd yn gynefin pwysig i lawer o safleoedd ar gyfer rhywogaethau prin o gennau.
- Cynyddu swm y prennau marw yn y goedwig, sy'n cefnogi bywyd amrywiol yn ecosystem y goedwig.
- Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol fel rhododendron, jac y neidiwr, clymog Japan, y goeden lawrgeirios a’r asalea melyn.
- Parhau i ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith a chynllunio llennyrch cwympo coed llai pan fo modd, er mwyn helpu i leihau'r effaith ar ansawdd dŵr yn nalgylch ehangach afon Conwy, trwy leihau'r risg o waddodi, asideiddio, llifau brig a’r perygl o lifogydd i eiddo, yn ogystal â lleihau'r effeithiau gweledol yn nhirwedd goedwig yr ucheldir, y mae cannoedd o filoedd o ymwelwyr yn ymweld â hi bob blwyddyn.
- Rheoli ymyl y goedwig ucheldirol gerllaw ACA Eryri ac ACA Migneint-Arenig-Dduallt yn briodol er budd a chyflwr ffafriol rhostir sych a gwlyb, cynefinoedd gorgors ac adar ysglyfaethus. Ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer rheoli megis clustogfeydd coetir olynol brodorol i leihau effaith hadau conwydd a darparu lloches i adar sy'n nythu ar y ddaear fel y boda tinwyn a'r grugiar ddu o amgylch yr AGA.
- ACA Mwyngloddiau Coedwig Gwydyr. Rheoli'r goedwig i gynnal a gwella amodau o amgylch casgliadau o blanhigion metelaidd prin. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen o glirio prysgwydd a chonwydd, wedi'i gydbwyso â phlannu coed llydanddail parhaol o amgylch siafftiau mwyngloddiau ystlumod a ffensys i amddiffyn ardaloedd o feteloffytau.
- Ehangu'r rhwydwaith coetir torlannol sy’n bodoli eisoes i ddarparu gwell dull clustogi yn erbyn gweithrediadau cynaeafu ac i helpu i wella ansawdd dŵr mewn ecosystemau dŵr croyw.
- Sicrhau cydymffurfedd â gofynion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017 wrth gynnal gweithgareddau gweithredol trwy ddilyn yr arfer gorau fel y'i nodir yn ‘Safon Coedwigaeth y DU – Canllawiau Coedwigaeth a Dŵr’ i warchod ansawdd y dŵr a'r ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.
- Adfer safleoedd coetir hynafol a gwella cyflwr ecolegol y safleoedd. Mae teneuo o amgylch coed brodorol hynafol, rheoli rhywogaethau estron goresgynnol a phori i gyd yn cyfrannu at wella cyflwr ecolegol y safleoedd hyn.
- Pan fo modd, defnyddio teneuo a dull rheoli systemau coedamaeth bach eu heffaith i helpu i gyflawni targedau adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol trwy gael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol fel hemlog y gorllewin. Hyrwyddo ymdrechion adfywio naturiol o rywogaethau brodorol pan fo modd.
- Gwella cysylltedd coetiroedd brodorol yn rhwydwaith coetiroedd ehangach Dyffryn Conwy, trwy adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ar hyd coridorau torlannol ac mewn SoDdGAau ac ACAau ar gyfer planhigion is, sydd yn amlwg iawn yng Nghoedwig Gwydyr.
- Bydd ardaloedd o fawn dwfn wedi'i goedwigo sydd â photensial da i'w hadfer a chnydau cynnyrch isel o ddosbarth 10 neu lai yn cael eu hadfer. Bydd y rhain yn helpu i gloi dyddodion carbon hanesyddol ac yn helpu i ‘arafu'r llif’ a chynorthwyo ymdrechion rheoli’r perygl o lifogydd mewn ffordd naturiol yn ogystal â darparu cynefin ucheldir gwerthfawr.
- Cynnal hyfywedd masnachol hirdymor y goedwig, drwy gynllunio cyflenwad cynaliadwy o bren a darparu ar gyfer rhagor o farchnadoedd pren lleol a llai yn y dyfodol wrth gyflawni'r holl amcanion a blaenoriaethau eraill.
- Buddsoddi mewn seilwaith a systemau tracio yn y goedwig, gan gynnwys cynnal a chadw ffyrdd a rhodfeydd y goedwig yn well i ddarparu mynediad gwell i helpu i gyflawni'r cynllun a rhagor o systemau coedamaeth bach eu heffaith mewn rheolaeth yn y dyfodol.
- Parhau i ddarparu'r ddarpariaeth mynediad a hamdden helaeth fel rhan o'r Goedwig Genedlaethol, trwy gynnal a gwella cyfleoedd i barhau i ddefnyddio ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys llwybrau a thraciau eraill o fewn y goedwig.
- Rheoli'r goedwig yn unol â hynny i helpu i ddarparu mynediad agored a mynediad lleiaf cyfyngol a phrofiad rhyngweithiol a boddhaus i ymwelwyr o amgylch mannau poblogaidd fel Ffos Noddyn a Betws-y-coed.
- Ystyried yr effaith weledol ar ymwelwyr o weithrediadau rheoli coedwigoedd a newidiadau hirdymor o fewn y goedwig. Ystyried defnyddio llennyrch llai, gwneud mwy o deneuo a defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith yn fwy.
- Gwarchod pob heneb a nodwedd hanesyddol wrth gynnal gweithrediadau rheoli coedwigoedd.Mae angen ymgynghori ychwanegol mewn ardaloedd sy'n sensitif yn archaeolegol a nodwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
- Gwella gwerth cynefin gweledol a synhwyraidd y goedwig, a gwerth ei thirwedd, drwy gynyddu planhigion brodorol ac amrywio'r coetir.
- Gweithio’n gydgynhyrchiol gyda chymunedau a rhanddeiliaid a phartneriaid cyflawni i helpu i ddatblygu a chyflawni ‘Cynllun Pobl’ cynaliadwy hirdymor ar gyfer defnydd safle yn y dyfodol, yr economi leol, trafnidiaeth a mynediad, a hamdden ar gyfer y goedwig a’r ardal gyfagos. Ymgysylltu â chymunedau i nodi anghenion cymunedol a chymdeithasol a rheoli asedau coedwigaeth mewn ymateb i effeithiau cymunedol a chymdeithasol, e.e. COVID-19, argyfwng gofal iechyd.
- Ymgysylltu â chymunedau, perchnogion tir a rhanddeiliaid sydd â diddordeb drwy ‘Llifo Conwy’, dull cydweithredol ar raddfa dalgylch o weithio gyda’r amgylchedd, natur, diwylliant, treftadaeth a thirweddau, y mae Coedwig Gwydyr yn rhan fawr ohono.
- Parhau i weithio mewn partneriaeth drwy ‘Gweledigaeth Coedwig y Dyfodol’ gyda grŵp cymunedol Golygfa Gwydyr a chaniatáu ar gyfer cytundebau rheoli pellach a allai gwmpasu ardal goedwig fwy.
- Cynnal gorchudd coetir/coedwig cyn belled ag y bo modd wrth gyflawni amcanion eraill, sef nodweddion diddordeb ACA/SoDdGA ac adfer mawn dwfn.
- Archwilio cyfleoedd newydd i blannu ar dir agored o fewn Coedwig Gwydyr heb beryglu cynefinoedd agored pwysig eraill.
- Parhau i archwilio'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, gan gynnwys prosiectau trydan dŵr.
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Yn ogystal â'r arolwg ar-lein hwn, cynhelir dwy sesiwn galw heibio ar:
Dydd Mawrth, 16 Medi 2025, rhwng 2pm a 7pm yn Swyddfa CNC, Gwydyr Uchaf, Llanrwst LL26 0PN
Dydd Iau, 18 Medi 2025, rhwng 2pm a 7pm yn Neuadd Goffa Betws-y-coed, Pentre Felin, Betws-y-coed LL24 0BB
...er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid drafod Cynllun Adnoddau Coedwig Gogledd Gwydyr wyneb yn wyneb gyda chynllunwyr coedwig CNC.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Gogledd Gwydyr er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Ardaloedd
- Aberbargoed
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook