Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae'r Ymgynghoriad hwn bellach wedi gorffen, mae'r PDF isod yn nodi'r ymatebion a'n sylwadau.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth (FRP) Ffestiniog yn cynnwys prif flociau coedwig Hafod Fawr, Coed Pengwern a Rhyd-Y-Sarn. Gyda’i gilydd mae gan y coetiroedd hyn gyfanswm arwynebedd o 495 hectar a chymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail.
Mae’r blociau coedwig hyn wedi’u lleoli o fewn ffin Cyngor Sir Gwynedd ac yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, ger pentref Ffestiniog. Mae Hafod Fawr wedi ei lleoli i’r de-ddwyrain o Ffestiniog gyda blociau Coed Pengwern a Rhyd-Y-Sarn wedi’u lleoli i’r gogledd-orllewin o Ffestiniog o boptu’r A496.
Isod mae dolen i'r Cynllun Drafft a Chrynodeb o'r Amcanion
Amcanion Cynllun Adnoddau Ffestiniog
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Map Prif Amcanion Hirdymor
Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigaeth Dangosol
Crynodeb o'r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig:
• Tynnu llarwydd ac arallgyfeirio cyfansoddiad rhywogaethau coedwig i gynyddu gwytnwch plâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
• Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy gyflwyno cadwraeth tymor hir a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus.
• Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchu pren trwy ddylunio dewis rhywogaethau cwympo coed ac ailstocio.
• Mwy o ardaloedd coetir olynol / torlannol ar gyfer gwella gwytnwch cynefinoedd a chysylltiadau cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
• Nodi a gwarchod nodweddion amgylcheddol a threftadaeth pwysig.
• Gwella profiad yr ymwelydd trwy gynnal mynediad cyhoeddus presennol a chymryd cyfleoedd i chwalu ymylon conwydd y coedwigoedd dros amser.
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Ffestiniog er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig
We will look at what you have said and adapt the plans to.......
Bydden ni yn edruch ar be dwedoch chi a newid y cynllyn i....
Share
Share on Twitter Share on Facebook