Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben, gwelch isod gopi copi o'r newidiadau a wnaed i'r cynllun yn dilyn y ymgynghoriad.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Eryri yn cwmpasu'r ardaloedd coetir sy'n amgylchynu Mynyddoedd yr Wyddfa ac yn disgyn yn agos at bentrefi Waunfawr, Beddgelert, Nantmor a Nant Gwynant. Mae'r coetiroedd yn gorchuddio newid mawr mewn tirweddau a defnyddiau, o'r coedwigoedd cynhyrchiol uchel yn Beddgelert i safleoedd y Coetir Hynafol yn Dolfiog.
Isod mae pdf i'r Cynllun Drafft a Chrynodeb o'r Amcanion
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Prif Amcanion Hirdymor
Systemau Rheoli Coedwigoedd
Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol
Crynodeb o'r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig:
Darganfyddwch fwy am canllaw arfer da yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Canllaw arfer da 1 ar reoli amrywiaeth genetig coetiroedd Cymru er mwyn sicrhau gwydnwch coedwigoedd
Canllaw arfer da 3 ra reoli amrywiaeth genetig coedtiroedd Cymru er mwyn sichau gwydnwch coedwigoedd
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Eryri er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
We will look at what you have said and adapt the plans to.......
Bydden ni yn edruch ar be dwedoch chi a newid y cynllyn i....
Share
Share on Twitter Share on Facebook