Derbyniwyd 2 ymateb drwy’r ‘Hwb Ymgynghori’ yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Mynegwyd pryderon gwrthwynebol ynghylch y cydbwysedd rhwng conwydd a choed llydanddail yn y cynigion. Mae’r cynllun newydd yn bwriadu mynd i’r afael â’r cydbwysedd hwn drwy gynnal rhywfaint o goedwigaeth fasnachol gyda chonwydd a chynyddu coetiroedd brodorol a chynefinoedd agored ar yr un pryd.
Materion eraill a godwyd oedd adfywio conwydd mewn ardaloedd glannau afon, gwersylla gwyllt, pori yn y goedwig a chyflwr ffyrdd sy’n arwain at eiddo. Cafodd y rhain i gyd eu nodi a chânt sylw yn y gwaith o reoli’r goedwig o ddydd i ddydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwigoedd Cwrt a Brynteg yn cynnwys dwy goedwig i’r de o Drawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae Coedwig Cwrt yn goedwig planhigfa fwy y mae cerddwyr yn ymweld â hi yn aml ac maen nhw’n croesi’r goedwig er mwyn cyrraedd mynyddoedd y Rhinogydd i’r gorllewin. Mae Coedwig Brynteg yn goedwig lai sy’n agosach at Drawsfynydd, ac yma mae’r coetir brodorol a’r cynefinoedd agored wedi’u hadfer.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o'r amcanion ar gyfer coedwig Cwrt a Brynteg
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Dyma grynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Cwrt a Brynteg er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig
We will look at what you have said and adapt the plans to.......
Share
Share on Twitter Share on Facebook