Ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwig Cwmcarn
Adborth wedi'i ddiweddaru 15 Rhag 2025
Gofynnon ni
Fe wnaethom ni ofyn am eich sylwadau ar Gynllun Adnoddau Coedwig Cwm Carn. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn gynllun lefel uchel sy’n pennu gwaith rheoli cyffredinol y coetiroedd, gan gyflwyno’r amcanion hirdymor ar gyfer pob coetir (er enghraifft adfer coetir hynafol, rheoli coetir brodorol, neu waith rheoli coedwigaeth safonol), a’r ymagwedd gyffredinol at unrhyw ailstocio, er enghraifft o ran rhywogaethau llydanddail brodorol neu goed conwydd. Ond nid yw'r cynllun yn ymdrin â gwaith rheoli penodol yr ystad o ddydd i ddydd. Ein Tîm Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig sy’n gwneud hyn, ac mae eu gwaith yn helpu i lywio’r cynllun.
Dywedoch chi
Lefel gymharol isel o ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad hwn gyda 7 o bobl/sefydliadau yn gwneud amser i ddarparu sylwadau trwy ein porth Citizen Space ar-lein neu'n uniongyrchol trwy e-bost. Daeth 11 aelod o'r cyhoedd neu sefydliad lleol i siarad â ni yn ein digwyddiad galw heibio wyneb yn wyneb . Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb.
Roedd cefnogaeth eang i'r amcanion i barhau i adfer a rheoli coetiroedd hynafol a gwella bioamrywiaeth ac ardaloedd torlannol.
Cawsom rai ymatebion lle’r oedd pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelu nodweddion treftadaeth a chynnal a chadw llwybrau troed. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch cysylltedd ar gyfer bywyd gwyllt drwy'r dirwedd a cholli conwydd cynhyrchiol drwy ein hymdrechion adfer.
Roedd rhywfaint o anfodlonrwydd ynghylch y mapiau a sut i'w gweld a'u dehongli'n glir.
Gwnaethom ni
Rydym wedi rhoi sylw i’r sylwadau a dderbyniwyd ac maent wedi cael eu rhannu â thimau perthnasol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y gellir, lle bo modd, eu gweithredu neu eu cofnodi i’w hystyried ar gyfer gwaith rheoli yn y dyfodol.
Rydym yn gweithio ar opsiynau amgen ar gyfer gweld ein mapiau ar-lein a gwell ffyrdd o ddefnyddio'r system sydd ar gael i ni ar hyn o bryd.
Mae ein Gweledigaeth Hirdymor yn dangos ble rydym yn bwriadu gwella cysylltedd ar gyfer bywyd gwyllt. Ein nod yw gwella ein hardaloedd o goetir torlannol a'u cysylltu â choetiroedd torlannol y tu allan i'n ffin. Byddwn yn parhau i adfer ein safleoedd coetir hynafol yn raddol o fewn amserlen y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn a thu hwnt, er mwyn darparu cysylltedd y cynefin pwysig hwn ar gyfer amrywiaeth o fflora a ffawna. Bydd y cysylltedd hwn o fewn a thu allan i'r ffin lle rydym yn cysylltu â'r coetir a'r gwrychoedd brodorol sydd eisoes yn bodoli. Bydd prosiectau hefyd yn mynd rhagddynt ar raddfa lai lle bydd y timau lleol yn gwella cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau sy'n defnyddio ein coedwig.
Rydym yn sylweddoli bod yna rywfaint o bwysau yn sgil gweithgareddau hamdden sy’n peri pryder, ac rydym yn gweithio'n galed i newid hyn ac i annog gweithgareddau hamdden cyfrifol. Bydd ein tîm Rheoli Tir lleol yn parhau i weithio ar y materion hyn yn unol ag Amcan 2 y cynllun ar gyfer Hamdden a Llesiant.
Rydym yn derbyn y bydd ein cynlluniau hirdymor ar gyfer yr ardal Cynllun Adnoddau Coedwig hon yn gweld dirywiad graddol mewn conwydd cynhyrchiol. Fodd bynnag, ar lefel genedlaethol, rydym yn bwriadu cydbwyso hyn trwy reolaeth fwy dwys mewn ardaloedd priodol ac archwilio cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu pren caled.
Rydym yn ymwybodol bod nifer o nodweddion treftadaeth o fewn y tir sydd yn ein gofal yma ac rydym yn sicrhau bod y rhain yn cael eu diogelu yn ystod gweithrediadau. Rydym mewn cysylltiad cyson â'r Ymddiriedolaeth Archaeolegol a CADW er mwyn diweddaru ein data nodweddion treftadaeth.
Rydym yn gweithio'n galed i gydbwyso'r gofynion ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a'r tri amcan fel y cânt eu nodi yn Coetiroedd i Gymru: Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coetiroedd a Choed (2018), eu bod yn darparu manteision i gymunedau, i fioamrywiaeth a'r amgylchedd, ac i'r economi. Rydym hefyd yn gweithio'n galed i ymdopi â'r heriau a ddaw yn sgil clefydau a stormydd sy'n effeithio ar wydnwch y coetiroedd.
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 10-25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwmcarn 9 coetir yn Sir Caerffili a Sir Torfaen, sy'n cynnwys tua 1,911 hectar.
Dyffrynnoedd serth yw lleoliad y coetiroedd, ynghyd â llwyfandiroedd ucheldirol mwy gwastad, ac mae cyfran fawr yn Blanhigfeydd ar Goetir Hynafol. Mae’r rhan fwyaf o Gynllun Adnoddau Coedwig Cwm Carn yn ymestyn ar hyd dyffrynnoedd serth Sirhywi Isaf ac Ebwy yn agos at gymunedau Rhisga, Crosskeys, Cwm-carn, Aber-carn, Wattsville, Cwmfelin-fach ac Ynys-ddu. Mae dau floc ar wahân ym Machen a Llanbradach, sydd yng Nghwm Rhymni Isaf.
Amcanion Cwmcarn
Isod ceri crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Mapiau
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Map Lleoliad
Map 1 - Amcanion Hirdymor
Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
- Tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd er mwyn ymdrin â Phytophthora ramorum
- Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol
- Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Caeo er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Beth sy'n digwydd nesaf
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon chwe i wyth wythnos wedi'r dyddiad cau.
Digwyddiadau
-
Sesiwn Galw Heibio: Coedwigaeth
O 23 Meh 2025 at 11:30 i 23 Meh 2025 at 18:30Bydd sesiwn galw heibio yng Nghlwb Wattsville ar 23 Mehefin 2025. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwigaeth ar gael i sgwrsio ag unrhyw un am ddyfodol y goedwig yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Carn.
Heol Islwyn, Wattsville, Casnewydd NP11 7QH
Ardaloedd
- Risca East
Cynulleidfaoedd
- DCWW
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook