Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Ystwyth

Ar gau 21 Tach 2021

Wedi'i agor 18 Hyd 2021

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Ystwyth yn cynrychioli 1,218 hectar, gan ymgorffori llawer o'r blociau coetir annibynnol sy'n rhedeg ar hyd y cwm, o gyrion gorllewin Aberystwyth, i Bont Rhyd-y-groes, ar ochrau Mynyddoedd Cambria, i'r dwyrain.

Mae'r coetiroedd yn trawsnewid trwy sawl parth gwahanol, gyda'r Ystwyth Isaf yn cynnwys nifer o flociau llai, sy'n ffurfio rhan annatod o'r dirwedd amaethyddol a choediog gyfoethog. Gan symud ymhellach i fyny'r cwm, mae tirwedd ddramatig gorlifdir a cheunant Ystwyth yn ffinio ag ardaloedd sylweddol o goetir serth ar ochr y cwm sy'n amrywiol ond cynhyrchiol. Yn ei rhannau canolog a dwyreiniol, mae'r llethrau serth hyn yn codi i rannau mwy agored o lwyfandir ucheldir Ceredigion, lle mae ardaloedd mwy helaeth o goedwigaeth gynhyrchiol wedi'u rheoli yn hanesyddol.

Mae holl ardal y cynllun adnoddau coedwig yn rhan o Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:

Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Ystwyth

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

Esboniad o allweddi’r map

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Dwyrain)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Gorllewin)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Dwyrain)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Gorllewin)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Dwyrain)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Gorllewin)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:            

  • Drwy gydol cyfnod y cynllun sydd ar y gweill, bydd Cwm Ystwyth yn dal yn goetir cynhyrchiol pwysig, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gefnogi cyflogaeth ac economi Cymru.
  • Bydd rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol yn cael eu gwella'n sylweddol, gan ddarparu mwy o wytnwch i blâu, clefydau a newidiadau hinsoddol.
  • Bydd ardaloedd 'Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol' yn cael eu trosi'n gyson yn ôl yn goetir llydanddail brodorol, gyda chysylltedd rhwng y nodweddion gweddilliol hyn yn cael eu cadw a'u gwella drwy reoli cnydau cyfagos.
  • Bydd ehangu coridorau glannau afon cadarn o goed llydanddail brodorol a choetir olynol yn gwella cysylltedd cynefinoedd ymhellach ac yn darparu dull clustogi gwell yn erbyn safleoedd dynodedig cyfagos.
  • Ffefrir dull 'Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith' cynyddrannol lle bynnag y bydd cyfyngiadau ffisegol mynediad, datguddiad a hanes rheoli cnydau cyfagos yn caniatáu, gan ddod â 518 hectar (43%) o goetir yn rhyw ffurf o reolaeth gorchudd parhaus. Wrth i gnydau ifanc y dyfodol gael eu cynnwys mewn cylchred o deneuo rheolaidd, bydd y gyfran hon yn cynyddu ymhellach dros amser.
  • Bydd lledaeniad cyflym Phytophthora ramorum yn ei gwneud yn ofynnol i gyflymu'r broses o dynnu'r cnydau llarwydd o'r cwm yn ystod y 10 i 15 mlynedd nesaf, gydag ardal sylweddol eisoes o dan hysbysiad i gael ei gwaredu o fewn y tair blynedd nesaf. Y gofyniad hwn fydd y prif yrrwr a fydd yn llywio'r rhaglen llwyrdorri dros gyfnod y cynllun arfaethedig.
  • Bydd cynnal lleoliad tirwedd priodol o amgylch y gwahanol Henebion Cofrestredig sydd i'w gweld yn y cwm, nodi a diogelu nodweddion cadwraeth eraill a darparu cyfleoedd mynediad iach ar gyfer y gymuned yn parhau i fod yn amcanion pwysig.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Cwm Ystwyth er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Ardaloedd

  • Aberystwyth Bronglais
  • Aberystwyth Canol/Central
  • Aberystwyth Gogledd/North
  • Aberystwyth Penparcau
  • Aberystwyth Rheidol
  • Ystwyth

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig