Cynllun Adnoddau Coedwig Crychan

Ar gau 20 Mai 2021

Wedi'i agor 22 Ebr 2021

Trosolwg

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

 

 

 

Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:

Esboniad o allweddi’r map            

Cyfleoedd oddi mewn i goedwig Crychan

Cynhyrchu Pren

Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren a chynyddu ardaloedd cynhyrchiol trwy gyfrwng dewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwig.

Amrywiaeth y Rhywogaethau

Parhau i wella gwytnwch y coetir trwy gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau ailstocio pan fo pridd addas i’w gael, er mwyn amddiffyn rhag plâu a chlefydau a lleihau effeithiau newid hinsawdd. Mae cyfleoedd yn bodoli lle mae gwaith cwympo llarwydd yn sgil Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol wedi’i gwblhau.

Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS)

Parhau i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS) i gyflwr lled-naturiol trwy blannu coed llydanddail a defnyddio System Goedamaeth Fach ei Heffaith (LISS) mewn ardaloedd sydd â photensial canolig i uchel o allu cael eu hadfer, gan gynorthwyo i gynyddu amrywiaeth y goedwig o ran dosbarth oed a strwythur. Parhau i wella’r cysylltiad rhwng coetiroedd lled-naturiol trwy’r broses hon.

Gwarchod nodweddion ACA a SoDdGA

Ymestyn a datblygu rhwydwaith coetir torlannol er mwyn creu budd o ran ansawdd dŵr a’r cyfanswm ohono, a hynny i sicrhau bod gwaith coedwigaeth yn cael yr effaith leiaf ar ACA Afon Gwy. Datblygu strategaeth cynnal a chadw ar gyfer SoDdGA llwybrau Coedwig Crychan / Crychan Forest Tracks.

Rhywogaethau a warchodir

Parhau i reoli’r goedwig gan ffafrio pathewod pan fônt yn bresennol.

Iechyd a Lles

Hyrwyddo mynediad at y goedwig a defnydd ohoni ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, er budd lles ac iechyd meddyliol a chorfforol yn unol â’r cynlluniau gwella hawliau tramwy perthnasol.

Gwella’r Cysylltiad Rhwng Cynefinoedd

Parhau i geisio gwella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd mewn ardaloedd addas wrth ymyl parthau torlannol, ffyrdd coedwig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r Llwybr Cenedlaethol, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhywbeth oddi mewn ac oddi allan i adnodd y goedwig (er enghraifft, cysylltu gwrychoedd, cysylltu mawndiroedd a gweddillion coetiroedd hynafol).

Nodweddion Treftadaeth

Nodi parthau effeithiau a lleoliadau nodweddion treftadaeth er mwyn osgoi eu niweidio neu eu cuddio.

Rheoli Ceirw

Rhoi seilwaith ar waith i reoli ceirw er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau cynyddol y gwaith ailstocio ledled Cymru.

Estheteg a’r Dirwedd

Cynnal cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd amgylchynol ac ystyried canfyddiad gweledol er budd ymwelwyr a phreswylwyr

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Hoffem glywed eich barn am y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Crychan i’n cynorthwyo wrth wella’r ffordd y rheolir y goedwig ac adferiad y mawndir yn y tymor hir.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.

Ardaloedd

  • Llandovery
  • Llanwrtyd Wells

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management