Cynllun Adnoddau Coedwig Coetiroedd Llanandras

Ar gau 27 Chwef 2022

Wedi'i agor 24 Ion 2022

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Saif Coetiroedd Llanandras ar 443 hectar dros saith bloc o goetir arwahanol yn nalgylch afon Llugwy ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr:

  • Coed Nash, 215 hectar
  • Coedwig y Gogledd, 30 hectar
  • Coedwig Benbow, 24.9 hectar
  • Burfa Bank, 50.7 hectar
  • Coedwig Navages, 58.2 hectar
  • Coedwig Worsell, 29.4 hectar
  • Coedwig Bradnor, 35 hectar

Mae’r cynllun adnoddau coedwig yn cynrychioli llai nag 1% o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gyda gwaith cynaeafu/cludo coed yn bennaf, a lle i deneuo cnydau i gynhyrchu cynhyrchion boncyff â gwerth uchel. Mae’r coetiroedd sy’n gyfagos i’r goedwig yn rhai cymysg, clòs o gymeriad tebyg, ar raddfa ganolig. Sefydlwyd llawer o'r goedwig ar briddoedd gwlypach ar dir uwch mewn ardaloedd lle mae’n parhau i fod yn bosibl tyfu amrediad eang o rywogaethau coed, a hynny er gwaethaf cystadleuaeth frwd gan chwyn a risg gymedrol o wyntyllu.

Mae'r cynllun adnoddau coedwig hwn yn anelu at amrywiaethu rhywogaethau coed lle bo modd, yn enwedig drwy deneuo â theneuon hadu er mwyn creu amodau golau sy'n hybu aildyfiant naturiol o amrywiaeth o rywogaethau coed.  Mae'r dirwedd yn dir fferm caeedig yn bennaf, fel cefndir i dwristiaeth a menter ar gyrion trefi. Mae Phytophthora ramorum wedi osgoi’r cnydau llarwydd hyd yn hyn, ond mae’r gwaith o lwyrgwympo coed llarwydd er mwyn hybu amrywiaeth o rywogaethau wedibod yn yr arfaeth ers blynyddoedd lawer.  Mae angen ymyriadau teneuo blynyddol ar bob un o'r saith coetir, gyda gwaith llwyrgwympo  cyhoeddedig sydd wedi'i amseru'n .

Ceir cynhyrchiant uchel o bren ar raddfa fach i ganolig yn y coetiroedd yn y cynllun adnoddau coedwig hwn , gan ychwanegu at warchod ansawdddŵr, y dirwedd a gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Isod mae dolen i gopi y gellir ei lawrlwytho o'r 'Crynodeb o Amcanion' ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:

Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Coetiroedd Llanandras

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

Esboniad o allweddi’r map

Map 1: Gweledigaeth hirdymor 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Drwy gydol cyfnod y cynllun sydd ar y gweill, bydd Coetiroedd Llanandras yn parhau i fod yn goetir cynhyrchiol pwysig, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gefnogi cyflogaeth ac economi Cymru.
  • Bydd rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol yn cael eu gwella'n sylweddol, gan ddarparu mwy o wytnwch i blâu, clefydau a newidiadau hinsoddol.
  • Bydd ardaloedd o ‘Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol’ yn cael eu trosi'n ôl yn araf ac yn bwyllog yn goetir llydanddail brodorol, gyda chysylltedd rhwng y nodweddion gweddilliol hyn yn cael ei gynnal a'i wella drwy reoli cnydau cyfagos. 
  • Bydd ehangu coridorau glannau afon o goed llydanddail brodorol a choetir olynol yn gwella cysylltedd cynefinoedd ymhellach ac yn darparu dull clustogi gwell yn erbyn safleoedd dynodedig cyfagos.
  • Bydd dull ‘Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith’ graddol yn cael ei ffafrio lle bynnag y bydd hynny’n bosibl o ystyried cyfyngiadau ffisegol o ran mynediad at gnydau presennol, pa mor agored yr ydynt, a’r hanes o’u rheoli.
  • Bydd lledaeniad cyflym Phytophthora ramorum yn gofyn am symud yr holl gnydau llarwydd o'r dyffryn yn gyflym o fewn y deng mlynedd nesaf.
  • Bydd cynnal lleoliad tirwedd priodol o amgylch y gwahanol Henebion Cofrestredig sydd i'w gweld yn y cwm, nodi a diogelu nodweddion cadwraeth eraill a darparu cyfleoedd mynediad iach ar gyfer y gymuned yn parhau i fod yn amcanion pwysig.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coetiroedd Llanandras  er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Ardaloedd

  • Presteigne

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig