Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth (CAC) Coed Sarnau’n cynnwys prif flociau coedwig Abaty Cwm Hir, Bwlch y Sarnau, Red Lion, the Barnes a Threflyn. Gyda’i gilydd, mae gan y coetiroedd hyn arwynebedd o 2,334 ha ac mae ganddynt gymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail.
Mae prif flociau coedwig Abaty Cwm Hir, Bwlch y Sarnau a Red Lion wedi’u lleoli y tu fewn i ffin Cyngor Sir Powys ac yn nyffrynnoedd Abaty Cwm Hir a Bwlch y Sarnau. Mae’r goedwig fwyaf gogleddol, o’r enw the Barnes, wedi’i lleoli ar fryn Garn Fach 4km i’r gorllewin o’r A483 ger pentref Crochran. Cyfeirir at floc coedwig mwyaf deheuol y CAC hwn fel Treflyn ac mae wedi’i leoli ar lethrau Rhiw Gwraidd, 3.5km i’r dwyrain o Lanwrthwl ar yr A470.
Mae’r amgylchedd o gwmpas blociau CAC Coed Sarnau’n cynnwys tir amaeth caeedig wedi’i bori, blociau coedwig masnachol o goed conwydd, sy’n dominyddu’r tir uwch a choetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau is a glannau’r afonydd. Nodwedd arall amlwg yn yr ardal hon yw’r nifer o ffermydd ynni gwynt, yn enwedig ffermydd gwynt Dethenydd a Waun Lluestowain.
Mae blociau coedwig Abaty Cwm Hir yn gymysgedd o goed conwydd a llydanddail ac fe’u rheolir gyda chydbwysedd o amcanion masnachol a chadwraethol. Mae sawl enghraifft dda o goed derw hynafol sydd wedi goroesi ar yr ardaloedd o goetir hynafol yn y coetiroedd hyn. Er bod cymysgedd o goed llydanddail brodorol hefyd yn bodoli yng nghoedwigoedd Bwlch y Sarnau, coed conwydd sy’n fwyaf cyffredin yn yr ardaloedd hyn.
Mae’r CAC hwn o fewn dalgylch ACA Afon Gwy. Mae’r afon hon yn bwysig ar gyfer y poblogaethau lleol o lysywod pendoll yr afon a’r nant, eogiaid, pennau lletwad a dyfrgwn.
Isod mae dolen i gopi y gellir ei lawrlwytho o'r 'Crynodeb o Amcanion' ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Coed Sarnau
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Abbey Cwm Hir)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Bwlch y Sarnau)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Red Lion)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (The Barnes)
Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Treflyn)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Abbey Cwm Hir)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Bwlch y Sarnau)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Red Lion)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (The Barnes)
Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Treflyn)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Abbey Cwm Hir)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Bwlch y Sarnau)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Red Lion)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (The Barnes)
Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Treflyn)
Crynodeb o’r Amcanion (Cyfleoedd a Blaenoriaethau):
Crynodeb o’r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coed Sarnau er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook