Cynllun Adnoddau Coedwig Coed Sarnau

Ar gau 20 Chwef 2022

Wedi'i agor 17 Ion 2022

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth (CAC) Coed Sarnau’n cynnwys prif flociau coedwig Abaty Cwm Hir, Bwlch y Sarnau, Red Lion, the Barnes a Threflyn. Gyda’i gilydd, mae gan y coetiroedd hyn arwynebedd o 2,334 ha ac mae ganddynt gymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail.  

Mae prif flociau coedwig Abaty Cwm Hir, Bwlch y Sarnau a Red Lion wedi’u lleoli y tu fewn i ffin Cyngor Sir Powys ac yn nyffrynnoedd Abaty Cwm Hir a Bwlch y Sarnau. Mae’r goedwig fwyaf gogleddol, o’r enw the Barnes, wedi’i lleoli ar fryn Garn Fach 4km i’r gorllewin o’r A483 ger pentref Crochran. Cyfeirir at floc coedwig mwyaf deheuol y CAC hwn fel Treflyn ac mae wedi’i leoli ar lethrau Rhiw Gwraidd, 3.5km i’r dwyrain o Lanwrthwl ar yr A470.

Mae’r amgylchedd o gwmpas blociau CAC Coed Sarnau’n cynnwys tir amaeth caeedig wedi’i bori, blociau coedwig masnachol o goed conwydd, sy’n dominyddu’r tir uwch a choetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau is a glannau’r afonydd. Nodwedd arall amlwg yn yr ardal hon yw’r nifer o ffermydd ynni gwynt, yn enwedig ffermydd gwynt Dethenydd a Waun Lluestowain. 

Mae blociau coedwig Abaty Cwm Hir yn gymysgedd o goed conwydd a llydanddail ac fe’u rheolir gyda chydbwysedd o amcanion masnachol a chadwraethol. Mae sawl enghraifft dda o goed derw hynafol sydd wedi goroesi ar yr ardaloedd o goetir hynafol yn y coetiroedd hyn. Er bod cymysgedd o goed llydanddail brodorol hefyd yn bodoli yng nghoedwigoedd Bwlch y Sarnau, coed conwydd sy’n fwyaf cyffredin yn yr ardaloedd hyn.

Mae’r CAC hwn o fewn dalgylch ACA Afon Gwy. Mae’r afon hon yn bwysig ar gyfer y poblogaethau lleol o lysywod pendoll yr afon a’r nant, eogiaid, pennau lletwad a dyfrgwn.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Isod mae dolen i gopi y gellir ei lawrlwytho o'r 'Crynodeb o Amcanion' ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:

Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Coed Sarnau

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

Esboniad o allweddi’r map

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Abbey Cwm Hir)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Bwlch y Sarnau)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Red Lion)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (The Barnes)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor (Treflyn)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Abbey Cwm Hir)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Bwlch y Sarnau)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Red Lion)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (The Barnes)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo (Treflyn)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Abbey Cwm Hir)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Bwlch y Sarnau)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Red Lion)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (The Barnes)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio (Treflyn)

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o’r Amcanion (Cyfleoedd a Blaenoriaethau):

  • Tynnu coed llarwydd ac amrywio rhywogaethau’r coedwigoedd er mwyn cynyddu’u gwytnwch yn erbyn plâu, gan greu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy warchodfeydd naturiol, cadw clystyrau dros y tymor hir a Choedwigaeth Gorchudd Parhaol.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio’r dewis o rywogaethau i’w cwympo a’u hailstocio.
  • Mwy o ardaloedd coetir olynol / torlannol i wella gwytnwch y dirwedd a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.
  • Nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  • Parhau i nodi ac adfer nodweddion safle coetir hynafol.
  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel ac yn ddymunol.

Crynodeb o’r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Tynnu coed llarwydd o’r coetiroedd (175ha) er mwyn rheoli bygythiad clefyd Phytophthora ramorum.
  • Gwella ardaloedd sydd o werth cadwraeth uwch drwy reoli ac ehangu’r parthau torlannol a’r coetir olynol (210ha).
  • Neilltuo mwy o ardaloedd i’w cadw dros y tymor hir (9ha).
  • Neilltuo mwy o ardaloedd ar gyfer statws Gwarchodfa Naturiol (19ha).
  • Rheoli mwy o ardaloedd fel ardaloedd o goed llydanddail brodorol (670ha).
  • Adfer safleoedd coetir hynafol (50ha) drwy dynnu coed conwydd a chreu cynefin coed llydanddail brodorol.
  • Lleihau effaith weledol yr ymylon coed conwydd ar y dirwedd.
  • Lleihau nifer sbriws Sitca a chynyddu nifer rhywogaethau coed conwydd a llydanddail eraill er mwyn cynyddu gwytnwch y coetiroedd yn erbyn plâu a chlefydau. 

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coed Sarnau er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Ardaloedd

  • Llanidloes
  • Rhayader

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig