Cynllun Adnoddau Coedwig Clocaenog

Closed 25 Feb 2022

Opened 24 Jan 2022

Results updated 9 Aug 2022

Cafwyd 8 ymateb i’r ymgynghoriad.

Mynegodd nifer o’r ymatebwyr beth roeddent yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi am y cynlluniau:

Roedd 5 o’r ymatebion yn gadarnhaol ar y cyfan

Roedd 2 o’r ymatebion yn negyddol ar y cyfan

Roedd 1 ymateb yn mynegi barn gymysg

 

Gwnaed y Sylwadau a’r Awgrymiadau canlynol, er mwyn helpu i wella’r cynlluniau:

Peidiwch â phlannu yn agos at gyrsiau dŵr – gadewch ymyl er mwyn caniatáu i beiriannau fynd at y cyrsiau dŵr i wneud gwaith cynnal a chadw.

Peidiwch ag ailblannu dros gyrsiau dŵr, a fydd yn rhwystro mynediad ar gyfer cynnal a chadw.

Peidiwch â phlannu yn agos at ffiniau â chaeau – gadewch stribed i gynnal cyflwr waliau a ffensys rhwystro da byw heb fod difrod cyson gan eich coed.

Peidiwch ag ailblannu yn agos at ffiniau â chaeau – storm arall, milltiroedd eto o ffensys wedi’u difrodi. Bob tro mae’n rhaid i CNC drwsio’r ffensys ar y ffiniau, ac unwaith yn rhagor mae coed CNC yn cwympo arnynt wythnos yn ddiweddarach.

Peidiwch â phlannu ar hyd llinellau ffôn neu drydan – eto, mae difrod gan eich coed yn arwain at ddinistrio cyfleustodau allweddol i ffermydd a phreswylwyr cefn gwlad.

Peidiwch ag ailblannu ar hyd llinellau ffôn neu drydan – unwaith yn rhagor buom heb drydan am 3 diwrnod ar ôl storm, ond yr unig reswm mae’r cyflenwad wedi torri yw am fod coed CNC yn cwympo dros y llinellau trydan.

Peidiwch ag ailblannu dros ddalgylchoedd tarddelli dŵr i ffermydd a chartrefi. Mae plannu dros y dalgylchoedd yn rhwystro mynediad, yn newid natur y cyflenwad dŵr i’r ffynhonnau, ac mae cynaeafu â pheiriannau yn dinistrio’r dalgylchoedd.

Mae canllawiau dŵr a pholisi ailstocio presennol CNC yn caniatáu ar gyfer parthau clustogi afonol lleiafsymiol at ddibenion ansawdd dŵr. Mae’r rhain yn caniatáu ar gyfer rheoli afonol gwell ac yn atal llygredd. Mae’r ardaloedd o amgylch tarddelli dŵr ar ddechrau cyrsiau dŵr a chorsydd yr ucheldir, ble maent wedi’u nodi, hefyd yn aml yn cael eu gadael yn glir wrth blannu coed conwydd newydd.

Yn aml, plannwyd y cnydau cylchdro cyntaf o ffens i ffens ac ar hyd ardaloedd afonol, a dyma’r prif ffactor sy’n achosi rhai o’r problemau a amlygwyd yn yr ymgynghoriad â’r cyhoedd. Yn raddol, wrth i’r cnydau hyn gael eu cwympo neu eu rheoli dros amser, rhoddir sylw i’r problemau hyn wrth ailstocio. Bellach mae parthau clustogi afonol a dulliau rheoli ymylon, gan gynnwys coetiroedd olynol, yn rhan o’r datrysiad hirdymor ar gyfer y problemau hanesyddol hyn ar ymylon coedwigoedd.

 

Mynediad i’r goedwig

Byddai cynyddu mynediad i’r cyhoedd drwy gyfrwng hawliau tramwy neu lwybrau mynediad caniataol yn wasanaeth gwerthfawr i lawer sy’n gwerthfawrogi cefn gwlad.

Mae hwn yn gyfle perffaith i alluogi rhai datblygiadau/gwelliannau i alluogi’r cyhoedd i gael mynediad at y goedwig ac i’w defnyddio’n ddiogel at nifer o ddibenion hamdden. Gwnaed nifer o gynigion ar gyfer marchogaeth yn y goedwig, gan gynnwys cyfleusterau parcio gwell i drelars ceffylau, rhwystrau ceffyl-gyfeillgar, llwybrau marchogaeth wedi’u harwyddo’n glir, a system drwyddedu wedi’i phrisio’n deg.

Plîs gwnewch ddarpariaeth ar gyfer y rhai sy’n marchogaeth – parcio diogel, gatiau ceffyl-gyfeillgar, llwybrau cylchol a llwybrau sy’n cysylltu â llwybrau ceffyl eraill. Mae pobl sy’n marchogaeth yn aml yn cael eu hanghofio mewn gwaith cynllunio, ond maent yn sector sydd ar i fyny mewn twristiaeth. Byddai rhywbeth tebyg i’r Llwybrau Enfys yng Nghoedwig Dyfnant yn wych.

Er nad oes cyfleusterau ffurfiol wedi’u darparu ar gyfer y rhai sy’n marchogaeth yng Nghlocaenog, mae yna nifer o safleoedd sy’n gallu cynnig lle i ddefnyddwyr faniau ceffylau, ac yn wir, sy’n gwneud hynny. Mae mynediad agored yn caniatáu i’r rhai sy’n marchogaeth ddefnyddio rhwydwaith ffyrdd y goedwig sy’n cysylltu â rhwydwaith o lwybrau ceffylau y tu allan i’r goedwig. Mae CNC yn croesawu ac yn cefnogi’r syniad am safle penodedig tebyg i’r ‘Llwybrau Enfys’ yng Nghoedwig Dyfnant.

 

Rheoli’r Goedwig

Mae cyfanswm y toriadau teneuo presennol yn isel am goedwig mor fawr, 9723.47 m3. Mae angen i’r Cynllun Adnoddau Coedwig sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy, a bydd cynhyrchiant mor isel yn golygu na chaiff y nodau eu cyrraedd. Mae’r goedwig a ffurf y tir yn gwbl addas ar gyfer cynaeafu modern, ac roedd rhwydwaith y ffyrdd yn rhagorol yn 1985 i sicrhau coetiroedd wedi’u teneuo’n dda. Mae angen cynyddu’r defnydd o Ddynameg Clystyrau Coedwig yn y cynllun. Mae angen cynyddu’r gymysgedd o rywogaethau yn ddybryd.

Mae angen cynyddu’r cyfanswm sy’n cael ei deneuo, cyfoethogi’r clystyrau wedi’u teneuo â rhywogaethau priodol o goed, a chynyddu’r gorchudd o goed llydanddail o fewn y clystyrau.

Mae’r cynllun newydd yn dangos y bydd dwy ran o dair o’r goedwig yn cael ei rheoli o dan Systemau Coedamaeth Effaith Isel, a bydd y rhan fwyaf o hyn yn cael ei deneuo yn y 10 mlynedd nesaf, a fydd yn arwain at tua 12,500m3 o bren y flwyddyn.

 

Mae’r RSPB wedi croesawu’r ymrwymiadau i ymestyn coetir afonol, adfer Safleoedd Coetir Hynafol o Flaenoriaeth a chynnal gwaith rheoli i hybu’r Wiwer Goch.

Fodd bynnag, maent o’r farn nad yw’r blaenoriaethau y mae CNC wedi’u rhestru yn adlewyrchu gwerth Coedwig Clocaenog o ran bioamrywiaeth yn ddigonol a/neu y camau gweithredu y mae eu hangen i warchod, adfer a chynnal y goedwig.

Yn benodol, cododd yr RSPB bryderon ynghylch:

Rheoli llefydd agored ar gyfer y Rugiar Ddu o fewn y goedwig a’r tu allan iddi

Gwaith rheoli coedwig yn effeithio ar bwysau ysglyfaethwyr ar y Rugiar Ddu a’r Gylfinir

Gwaith rheoli afonol ar gyfer poblogaethau Titw’r Helyg

Methiant i gyfeirio at rywogaethau Atodlen 1 fel y Troellwr Mawr a’r Gwalch Marth


Ymatebwyd yn uniongyrchol i’r RSPB mewn perthynas â’r pryderon a’r materion a godwyd. Mae’r prif bryderon a godwyd ynghylch poblogaethau adar, er nad oeddent wedi’u hamlygu’n benodol yn nogfennaeth yr ymgynghoriad, wedi cael sylw yn y Cynllun Rheoli Cynefinoedd sy’n gysylltiedig â Fferm Wynt Clocaenog. Mae’r gwaith rheoli, gan gynnwys pori, torri uniongyrchol a rheoli ysglyfaethwyr o amgylch cynefinoedd penodol ar gyfer poblogaethau adar, wedi’i gynllunio ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.

Yn ogystal, rhoddwyd gwybodaeth bellach ynghylch arolygon mawn a gwaith adfer ar ardaloedd o gors agored sy’n bwydo i’r Cynllun Adnoddau Coedwig, yn ogystal â gweithdrefnau cynllunio coupes sy’n cynnwys arolygon arbenigol a darpariaethau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith o amgylch adar Atodlen 1.

Overview

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Lleoliad Clocaenog

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Clocaenog yn cynnwys bloc coedwig Clocaenog sy’n cwmpasu ardal o 4,126 ha ac yn cynnwys coed conifferaidd yn bennaf. Mae coedwig Clocaenog wedi’i lleoli o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Hiraethog, rhwng ffyrdd B4501 a B5105 Cerrigydrudion i Ruthun. Mae Llyn Brenig, cronfa ddŵr a chyrchfan ymwelwyr Dŵr Cymru, wedi’i leoli i orllewin ffin coedwig Clocaenog.

Mae’r cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Clocaenog yn cynnwys tir pori caeedig a rhostir agored, blociau coedwig conifferaidd masnachol, sy’n dominyddu’r tir uchaf a choetiroedd conifferaidd/llydanddail ar y llethrau isaf a glannau’r afonydd. Erbyn hyn, ceir fferm wynt ar raddfa fawr o fewn coedwig Clocaenog. Mae coedwig Clocaenog wedi’i ddynodi ar gyfer mynediad agored ar droed dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ac mae hefyd yn caniatáu mynediad i geffylau a beiciau gyda chaniatâd. Ceir rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y goedwig ac mae rhan Cyffylliog i Lanfihangel Glyn Myfyr o lwybr hir Hiraethog yn mynd drwy’r goedwig.

Mae Coedwig Clocaenog wedi’i lleoli o fewn dalgylchoedd yr afonydd canlynol:

  • Clywedog – Corris i Ryd Galed
  • Brenig – cronfa ddŵr a’r dalgylch dwyreiniol
  • Alwen – Ceirw i’r Brenig a Chlwyd Clywedog uchaf (Corris)
  • Clwyd – i fyny’r afon Hesbin

Mae pob un o’r dalgylchoedd hyn wedi cael eu graddio’n “Gymedrol” o dan asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, heblaw’r Afon Clwyd – i fyny’r afon Hesbin, sydd wedi cael ei raddio’n “Dda”.

Map Coed Clocaenog

Cyfleoedd a Blaenoriaethau

  • Tynnu coed llarwydd ac arallgyfeirio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig i wella’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau gan hefyd adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol a chadwraeth Gwiwerod Coch trwy gronfeydd naturiol, cadwraeth hirdymor a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynnyrch pren trwy ddylunio gweithgareddau cwympo coed a’r dewis o rywogaethau i’w hail stocio.
  • Mwy o ardaloedd coetir olynol/glannau afon er mwyn gwella gwydnwch cynefinoedd a chysylltu cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.
  • Adnabod a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  • Parhau i adnabod ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth.
  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd amrywiol sy’n ddiogel ac yn braf.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn cael eu gwneud yn y goedwig

  • Tynnu coed llarwydd o’r coetiroedd (150ha) er mwyn rheoli bygythiad y clefyd Phytophthora ramorum.
  • Gwella ardaloedd o werth cadwraeth uwch trwy reoli mannau agored, ehangu parthau glannau afon a choetiroedd olynol (440ha).
  • Cynyddu’r ardaloedd sy’n cael eu rheoli gyda chadwraeth y Wiwer Goch mewn golwg.
  • Cynyddu’r ardaloedd sy’n cael eu clustnodi ar gyfer cadwraeth hirdymor (45ha).
  • Cynyddu’r ardaloedd sydd wedi’u nodi gyda statws Gwarchodfa Genedlaethol (117ha)
  • Cynyddu’r ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel coed llydanddail brodorol (330ha)
  • Adfer ardaloedd coetir hynafol (29ha) trwy dynnu coed conwydd a chreu cynefin o goed llydanddail brodorol.
  • Ehangu systemau coedamaeth effaith isel i gwmpasu 58% o ardal y goedwig.
  • Cynyddu rhywogaethau conifferaidd a llydanddail eraill er mwyn gwella gallu’r coetir i wrthsefyll plâu a chlefydau.

Map 1: Gweledigaeth hirdymor

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2: Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3: Mathau o goedwigoedd ac ailstocio

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:

Esboniad o allweddi’r map

Why your views matter

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coed Clocaenog er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Management
  • Cymraeg

Interests

  • Rheoli Coedwig