Cynllun Adnoddau Coedwig Brechfa
Trosolwg
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Brechfa yn cwmpasu ardal fawr o goedwig i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin. Mae’n cynnwys yn bennaf cnydau gconwydd cynhyrchiol gydag elfen o goetir llydanddail y de.
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Map 1 Gweledigaeth Hirdymor
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
Map 2 Y Straegaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed
Map 3 Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu
Cyfleoedd yng nghoedwig Brechfa
Yn greiddiol i’r Cynllun Adnoddau Coedwig arfaethedig mae ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Bydd adfer coetir hynafol a datblygu coetir torlannol brodorol dros amser nid yn unig yn helpu i ddal a storio carbon ond bydd hefyd yn darparu lloches i lawer o rywogaethau – fflora a ffawna a rhai dyfrol a daearol. Bydd canolbwyntio o'r newydd ar dyfu pren o ansawdd uchel a newid i systemau rheoli coedwig gorchudd di-dor hefyd yn cefnogi diwydiant cynhyrchion coedwigaeth gwerth uchel sy'n storio carbon am gyfnod hirach ac yn lleihau dŵr ffo mewn tywydd eithafol. Mae CNC wedi ymrwymo i gynnal mynediad a hamdden yng nghoedwig Brechfa gan gynnwys crwydro, beicio mynydd a marchogaeth.
Cynhyrchu Pren
Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren ac uchafu’r ardaloedd cynhyrchiol trwy gyfrwng dewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwig.
Amrywiaeth y Rhywogaethau
Parhau i wella gwytnwch y coetir trwy gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau ailstocio pan fo pridd addas i’w gael, er mwyn amddiffyn rhag plâu a chlefydau a lleihau effeithiau newid hinsawdd. Mae cyfleoedd yn bodoli lle mae gwaith cwympo llarwydd yn sgil Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol wedi’i gwblhau.
Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS)
Parhau i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS) i gyflwr coetir lled-naturiol trwy blannu coed llydanddail a defnyddio System Goedamaeth Fach ei Heffaith (LISS) mewn ardaloedd sydd â photensial canolig i uchel o allu cael eu hadfer, gan gynorthwyo i gynyddu amrywiaeth y goedwig o ran dosbarth oed a strwythur. Parhau i wella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd o ran coetiroedd lled-naturiol hynafol trwy’r broses hon.
Gwarchod nodweddion ACA a SoDdGA
Ymestyn a datblygu rhwydwaith o goetiroedd torlannol er mwyn creu budd o ran ansawdd a chyfanswm y dŵr, a hynny i sicrhau bod gwaith coedwigaeth yn cael yr effaith leiaf posib ar ACAau Teifi a Thywi. Cyflwyno cynlluniau rheoli pwrpasol i gefnogi'r SoDdGA sydd wedi ei ddynodi o fewn dalgylch Marlais.
Rhywogaethau a warchodir
Gweithio mewn partneriaeth â grŵp llywio ecolegol Fferm Wynt Gorllewin Brechfa i hyrwyddo'r gwaith sydd ei angen o ran cadwraeth a chreu cynefinoedd ar gyfer y boblogaeth bwysig o droellwyr.
Iechyd a Lles
Hyrwyddo mynediad at y goedwig a defnydd ohoni ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, er budd lles ac iechyd meddyliol a chorfforol yn unol â’r cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy perthnasol. Cynnal y ddarpariaeth bresennol ar gyfer marchogaeth, beicio mynydd a chrwydro.
Y Cysylltiad Rhwng Cynefinoedd
Parhau i geisio gwella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd mewn ardaloedd addas wrth ymyl parthau torlannol, ffyrdd coedwig, a Hawliau Tramwy Cyhoeddus, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhywbeth oddi mewn ac oddi allan i adnodd y goedwig (er enghraifft, cysylltu gwrychoedd a gweddillion coetiroedd hynafol).
Nodweddion Treftadaeth
Nodi parthau effeithiau a lleoliadau nodweddion treftadaeth er mwyn osgoi eu niweidio neu eu cuddio.
Rheoli Ceirw
Rhoi seilwaith ar waith i reoli ceirw er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau cynyddol ar waith ailstocio ac adfywio naturiol ledled Cymru.
Estheteg a’r Dirwedd
Cynnal cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd amgylchynol ac ystyried canfyddiad gweledol er budd ymwelwyr a phreswylwyr.
Cyswllt â’r Fferm Wynt
Parhau i ddatblygu strategaethau rheoli i ategu’r asedau ynni sy'n cael eu datblygu ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem glywed eich barn am y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Brechfa i’n cynorthwyo wrth wella’r ffordd y rheolir y goedwig ac adferiad y mawndir yn y tymor hir.
Beth sy'n digwydd nesaf
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Ardaloedd
- Llanybydder
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook