Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Arfordir Gogledd Ceredigion yn cynnwys nifer o goetiroedd llai sydd wedi'u lleoli ar hyd coridor yr A487 i'r gogledd o Aberystwyth::
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o'r amcanion ar gyfer Coedwig Arfordir Gogledd Ceredigion
At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, mae'r cynllun wedi'i rannu'n bedwar coetir sydd wedi'u lleoli'n agos at eu cymunedau. Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Allt Gogerddan - Penrhyn-coch a Bow Street Lluniau
Allt-y-crib – Talybont Lluniau
Lodge Park – Tre’r-ddol Lluniau
Coed Tyn-y-garth - Ffwrnais Lluniau
Crynodeb o'r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y coetiroedd:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Arfordir Gogledd Ceredigion er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
We will look at what you have said and adapt the plans to.......
Share
Share on Twitter Share on Facebook