Cynllun Adnoddau Coedwig Ardal Taf Isaf a’r Fro
Overview
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Ardal Taf Isaf a’r Fro yn cwmpasu 12 coetir yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd, sy’n tua 877 hectar gyda’i gilydd. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yn sefyll o fewn glaswelltir amaethyddol wedi’i wella, coetir llydanddail brodorol, a chanolfannau trefol. Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) neu Goetiroedd Lled Naturiol Hynafol (ASNW) yw’r rhan fwyaf o’r coetiroedd, er mai dim ond ardaloedd bach o’r math hwn o goetir sydd gan Hensol a Llantrisant. Mae’r coetiroedd hefyd yn cael eu defnyddio’n fynych gan y gymuned leol ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Ardal Taf Isaf a’r Fro
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Mapiau
Map 1 - amcanion hirdymor
Map 2 - systemau rheoli coedwigoedd
Map 3 – dangosol o'r mathau o goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
- Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol
- Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed
Why your views matter
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer ardal Taf Isaf a’r Fro er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y coedwigoedd.
What happens next
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Areas
- Cowbridge
- Creigiau/St. Fagans
- Llantrisant Town
- Pentyrch
- Pont-y-clun
- Taffs Well
- Talbot Green
- Whitchurch and Tongwynlais
Audiences
- Management
- DCWW
Interests
- Forest Management
Share
Share on Twitter Share on Facebook