Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am reoli coetiroedd a choedwigoedd cyhoeddus Cymru, sef Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, mewn ffordd gynaliadwy. Mae’r Ystad yn darparu adnoddau pren gwerthfawr a chânt eu rheoli hefyd er budd a llesiant pobl a’r cymunedau lleol sy’n ymweld â nhw, yn ogystal â’r bobl sy’n dibynnu arnynt i wneud bywoliaeth. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys sicrhau eu bod yn gydnerth yn y tymor hir, mewn perthynas â’r argyfyngau natur a hinsawdd, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol hefyd allu mwynhau’r buddion maent yn eu cynnig. Bob deng mlynedd, mae CNC yn adolygu’r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig, y Cynllun Adnoddau Coedwig.
Lleoliad Alwen
Mae gan Gynllun Adnodd Coedwig Alwen arwynebedd o 1,382 ha i gyd, sy’n cynnwys conwydd yn bennaf. Mae coedwig Alwen yn rhannol o fewn SoDdGA Mynydd Hiraethog ac mae’r rhan fwyaf ohoni yn swatio rhwng ffordd B4501 a ffordd A543 (Pentrefoelas i Ddinbych). Mae cronfa ddŵr Alwen yn ffurfio nodwedd amlwg ar y dirwedd ac wedi’i lleoli ym mhen deheuol y goedwig gyda Llyn Brenig, (cronfa ddŵr ac atyniad i ymwelwyr) yn union i’r dwyrain o derfyn y Cynllun Adnodd Coedwig. Mae’r ddau gorff dŵr a’r seilwaith cysylltiedig yn eiddo i Dŵr Cymru, sydd hefyd yn eu rheoli.
Mae cynefin o amgylch blociau Cynllun Adnodd Coedwig Alwen yn cynnwys tir pori amaethyddol a rhostir agored, blociau o goedwigoedd conwydd masnachol, sy’n dominyddu’r tiroedd uchaf a choetiroedd conwydd/llydanddail ar y llethrau isaf ac ar lannau’r afonydd.
Mae rhannau o goedwig Alwen wedi’u neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, ac mae’r goedwig hefyd yn cynnwys cyfres o lwybrau troed, llwybrau cerdded a llwybr beicio. Caniateir mynediad i geffylau a beiciau ar ffyrdd y goedwig gyda chaniatâd.
Mae Coedwig Alwen yn perthyn i saith dalgylch afon gwahanol fel sy’n cael ei ddiffinio gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sydd, yn ei dro, o fewn dalgylchoedd mwy Dyfrdwy, Clwyd a Chonwy.
Cyfleoedd a Blaenoriaethau
Mae'r ddogfen hon yn helpu i esbonio'r categorïau a ddangosir ar y mapiau isod:
Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn cael eu gwneud yn y goedwig
Bydd yna sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Addysg Uwchaled, Cerrigydrudion, o 3.30-7.30yh ddydd Mercher 7 Rhagfyr 2022 i roi cyfle i aelodau’r cyhoedd drafod yn bersonol â chynllunwyr coedwigaeth CNC.
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Alwen er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Share
Share on Twitter Share on Facebook