Cynllun Adnoddau Coedwig Abergynolwyn

Ar gau 22 Tach 2022

Wedi'i agor 25 Hyd 2022

Canlyniadau wedi'u diweddaru 31 Mai 2024

Crynodeb o’r Ymgynghoriad ar Gynllun Coedwig Abergynolwyn (Tachwedd 2022)

Yn gyffredinol cafwyd:

4 ymateb ar hwb yr ymgynghoriad

9 ymateb gan drigolion lleol

4 ymateb gan randdeiliaid/sefydliadau

18 ymwelydd yn y sesiwn galw heibio ar 1 Tachwedd 2022

 

Yr hyn yr oedd pobl yn ei hoffi am y cynllun:

Bywyd gwyllt a bioamrywiaeth

Coetir llydanddail (x2)

Gwarchod bywyd gwyllt

Systemau coedamaeth bach eu heffaith ar gyfer bywyd gwyllt (x2)

Adfer Coetir Hynafol

Twristiaeth a darpariaeth swyddi

Twristiaeth, llwybrau troed a darpariaeth mynediad ar gyfer amrywiaeth o ymwelwyr

 

Yr hyn nad oedd pobl yn ei hoffi am y cynllun:

Cwympo coed

Cwympo coed ar raddfa fawr

Llanast ar ôl cwympo coed

Cyfyngiadau mynediad oherwydd cwympo coed

Coed marw yn Nant Gwernol

Dim sôn am dreftadaeth, safle treftadaeth y byd UNESCO

Mae’r cynlluniau terfynol wedi newid yn aruthrol ers y cynigion drafft a gyflwynwyd yn 2022. Mae’r newidiadau mawr yn cynnwys torri llarwydd oherwydd haint Phytophthora ac adlinio llawer o’r llanerchau a gynigiwyd yn flaenorol ynghyd â mwy o systemau coedamaeth bach eu heffaith yn y cnydau ifanc. Mae’r mathau o goedwigoedd yn y dyfodol hefyd wedi’u newid i gynyddu coed llydanddail ar hyd afonydd a nentydd a’r ardaloedd coetir hynafol a choetir mwy cymysg yn yr uchderau isaf. Mae’r cynlluniau nawr hefyd yn ystyried y rheolaeth o amgylch safle treftadaeth y byd UNESCO ac ymgynghorwyd yn eu gylch â CADW.

O ran rheolaeth ymarferol o ddydd i ddydd, mae CNC yn ceisio cyfyngu ar gyfyngiadau lle bo modd pan fo gweithrediadau coedwigol yn digwydd ac mae clirio safleoedd cwympo coed hefyd yn flaenoriaeth. Mae coed marw mewn nentydd fel Nant Gwernol yn cael eu monitro a’u symud pan fo angen.

 

Materion/pryderon eraill a godwyd yn yr ymgynghoriad:

Byddwch yn sensitif i dreftadaeth; cynyddwch fynediad i safle treftadaeth y byd; a chliriwch ardaloedd o amgylch nodweddion treftadaeth.

Mae’r cynllun diweddaru terfynol bellach wedi bod yn destun ymgynghori â CADW. O ran pryderon ynglŷn â chlirio’r llwybrau ac o amgylch adeiladau/strwythurau, mae ein rhaglen cynnal a chadw flynyddol yn mynd rhagddi yn hyn o beth. Mae gwaith wedi’i wneud eleni yn llwyddiannus wrth ddefnyddio ceffylau cob bach (Ceffylau Gwaith Carnog) i glirio ardaloedd yn sensitif, fel y llwybrau, y dramffordd a’r draphont ddŵr, a’r bwriad yw clirio o amgylch yr adeiladau/strwythurau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Peidiwch â cholli llwybrau ar ôl plannu coed gan eu bod yn bwysig ar gyfer cerdded a thwristiaeth; sicrhewch fod hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu cynnal.

O ran pryderon ynghylch clirio’r llwybrau, mae’r rhain yn cael eu harchwilio’n rheolaidd ac mae gwaith yn cael ei wneud i’w cynnal a’u cadw.

Mae llifogydd rheolaidd yn y cwm. A oes unrhyw wiriadau a gwelliannau y gellir eu gwneud o ran yr afon? Cliriwch goed sydd wedi disgyn yn yr afon i atal llifogydd.

O ran y perygl o lifogydd, mae CNC yn monitro’r perygl o lifogydd yn rheolaidd ar ein safleoedd a reolir a’r camau gweithredu lle mae perygl llifogydd yn cael ei gydnabod, ond dim ond ar gyfer cyrsiau dŵr ar dir a reolir gan CNC y gallwn wneud hyn.

Mae perygl o goed yn disgyn ar hyd ffordd y B4405 – mae angen llwyrgwympo coed yn gynt.

Mewn perthynas â’r risg o goed/canghennau’n cwympo ar ffordd y B4405, gwnaed gwaith tocio helaeth eleni ar y rhan fwyaf o ardal Coed-y-fedw wrth ymyl y B4405 i foddhad yr awdurdod lleol, ond byddwn yn parhau i fonitro’r ardal hon.

Pwysigrwydd rheolaeth arfer gorau ar gyfer adar sy’n bridio gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn ystod gweithrediadau coedwigaeth.

Mae CNC yn dilyn arfer gorau yn unol â chanllawiau Safonau Coedwigaeth y DU i ddiogelu pob aderyn cofrestredig a rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.

Mae angen cael gwared ar gerbydau sydd wedi’u gadael.

Mae tîm Ystadau CNC ar hyn o bryd yn gweithio ar gael gwared ar y cerbydau gadawedig.

Rhowch fynediad i fforwyr mwyngloddiau.

Bellach mae proses ganiatáu mynediad Cymru gyfan ar y gweill i ganiatáu mynediad i fwyngloddiau ledled Cymru.

Mae ffensys ar hyd ffin y goedwig mewn cyflwr gwael.

Mae’r mater hwn bellach wedi’i ddatrys o dan gontractau newydd ar gyfer atgyweirio ac ailosod.

 

Awgrymiadau cyffredinol i wella’r cynllun/coedwig:

Awgrymwyd gwell mynediad a pharcio gyda llwybrau cysylltiedig ar gyfer marchogaeth.

Creu mwy o gyflogaeth leol trwy dwristiaeth

Creu llwybr beicio ar gyfer beicwyr mynydd

Darparu seddi mwy gwledig

Sôn mwy am hamdden

Mwy o gyfathrebu â CNC

Mae CNC yn ymdrechu i hyrwyddo hamdden anffurfiol a mynediad i’r goedwig ar gyfer amryfal ddefnyddwyr a gwella cyfleusterau lle bynnag y bo modd. Mae’r awgrymiadau wedi’u nodi a byddant yn cael eu hystyried gan y tîm lleol pan fydd arian a phrosiectau ar gael. Nid yw’r meinciau y cyfeirir atynt yn yr ymgynghoriad yn eiddo i CNC ac nid oeddent wedi’u lleoli ar dir a reolir gan CNC ond ar dir Coed Cadw.

 

Creu ‘ynysoedd cynefin’ ar gyfer ystlumod a bioamrywiaeth

Cysylltu coetiroedd hynafol â nentydd ac yn ddyfnach i’r coetir

Torri ar natur flociog y goedwig yn y dirwedd

Ffafrio systemau coedamaeth bach eu heffaith ar safleoedd Coed-y-graig a choetiroedd hynafol

Yn gyffredinol, mwy o goed llydanddail a choetir cymysg a systemau coedamaeth bach eu heffaith

Mae’r fersiynau diweddaraf o’r mapiau (gweler isod) yn dangos mwy o goed llydanddail a mwy o ardaloedd coetir cymysg na’r cynnig drafft gwreiddiol. Mae systemau coedamaeth bach eu heffaith wedi’u cynnig yn yr ardaloedd coetir cymysg hyn ar gyfer cnydau iau’r ail gylchdro. Bydd llawer o natur flociog y goedwig yn diflannu’n araf bach wrth i’r cnydau hŷn gael eu tynnu ac wrth i ragor o goed llydanddail a chymysgeddau ymddangos yn y goedwig dros amser. Nid yw’r cnydau cylchdro cyntaf yn briodol ar gyfer rheolaeth systemau coedamaeth bach eu heffaith oherwydd diffyg teneuo blaenorol a risg bosibl o wynt yn chwythu. Yn anffodus, mae’r cnydau llarwydd wedi cael hysbysiad iechyd planhigion statudol ar gyfer haint Phytophthora ac mae angen eu tynnu ymaith, a fydd yn arwain at lwyrgwympo’r cnydau llarwydd ar ochr y goedwig sy’n wynebu’r pentref yn y dyfodol agos.

 

Mae fersiwn derfynol y mapiau isod:

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Trosolwg

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Lleoliad

Mae Cynllun Adnodd Coedwig Abergynolwyn wedi’i leoli o fewn dyffrynnoedd Tal-y-llyn a Dysynni, wrth droed Cadair Idris ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri. Nodweddir y dyffrynnoedd rhewlifol hyn gan olygfeydd mynyddig dramatig, gydag aneddiadau wedi'u gwasgaru yma ac acw ar hyd gwastatir y dyffryn. Y mwyaf o'r aneddiadau hyn yw pentref Abergynolwyn, ar ochr ogleddol prif floc coedwig Cynllun Adnodd Coedwig Abergynolwyn. Mae ffordd B4405 yn rhedeg i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd gwaelod dyffryn Tal-y-llyn, gan gysylltu'r cynllun adnodd coedwig â Thywyn, ar yr arfordir gorllewinol, a Dolgellau a ffyrdd A487 a A470 yn y Dwyrain.

Mae'r cynllun adnodd coedwig yn cynnwys prif floc coedwig Abergynolwyn (596 ha), bloc y fynwent (10 ha) a bloc Coed y Graig (35 ha), sy'n rhoi cyfanswm o 641 hectar o dir i gyd. Mae bloc y fynwent ac wyneb gogledd-ddwyreiniol prif floc Abergynolwyn yn rhedeg ar hyd wyneb deheuol y dyffryn rhewlifol serth ac wedi’u lleoli'n amlwg uwchben pentref Abergynolwyn. O'r fan hon mae prif floc Abergynolwyn yn dilyn cwrs Nant Gwernol a Nant Llaeron, ar hyd wynebau gogleddol Foel Fawr, Tarrenhendre a Foel y Geifr, sy’n sefyll uwchben hen chwarel lechi Bryneglwys. Mae bloc Coed y Graig tua 3 km i'r gogledd-orllewin o'r blociau eraill, ar wyneb gogleddol Dyffryn Dysynni.

Lleolir y cynllun adnodd coedwig ym mhen gorllewinol coedwig enfawr Dyfi, ac fel sy'n nodweddiadol yn ardal y Ddyfi, conwydd yn bennaf yw blociau cynllun adnodd coedwig Abergynolwyn. Er bod prif floc Abergynolwyn wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â choedwig ehangach Dyfi, mae pen dwyreiniol y bloc rheoli hwn wedi'i ddiffinio gan grib Foel y Geifr, sy'n sefyll yn y tir mynyddig rhwng pentrefi Abergynolwyn a Phantperthog. Mae Biosffer Dyfi hefyd yn ffinio â phen deheuol prif floc Abergynolwyn ar hyd y griblinell hon. Safleoedd eraill sydd wedi’u gwarchod gan Ewrop yng nghyffiniau'r Cynllun Adnodd Coedwig yw ACA Cadair Idris ac AGA Craig yr Aderyn. Mae cynefin cyfagos y blociau Cynllun Adnodd Coedwig yn cynnwys tir pori amaethyddol amgaeedig a mynydd agored, blociau coedwigoedd conwydd masnachol, ac ardaloedd llai o goetiroedd conwydd/llydanddail cymysg ar y llethrau isaf a’r glannau afonydd. Mae'r rhan fwyaf o dir y Cynllun Adnodd Coedwig wedi'i neilltuo ar gyfer mynediad agored ar droed o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ac mae hefyd yn caniatáu mynediad i geffylau a beiciau drwy ganiatâd.

Mae 97.9% o gynllun adnodd coedwig Abergynolwyn yn perthyn i ddalgylchoedd afonydd 'Dysynni - uchaf ac 'Dysynni – isaf', gyda'r gweddill o fewn dalgylchoedd 'Fathew', 'Pennal' a 'Gogledd Dulas'. Mae'r holl ddalgylchoedd hyn yn cael eu categoreiddio fel 'Cymedrol' neu 'Dda' yn ôl asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, er bod pedwar o'r pump hefyd yn cael eu categoreiddio fel rhai sy’n methu cyrraedd trothwyon sensitifrwydd i asid.

Map i ddangos lleoliad

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 

Cyfleoedd a Blaenoriaethau

  1. Cael gwared o larwydd ac amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig i gynyddu’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau gan ddatblygu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  2. Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy ddewis y cynlluniau cwympo a’r rhywogaethau sy’n cael eu hailstocio.
  3. Mwy o ardaloedd o goetir olynol/torlannol ar gyfer gwella gwytnwch y cynefin a chysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
  4. Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig, gan gynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.
  5. Parhau i nodi ac adfer nodweddion safleoedd coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol.
  6. Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd amrywiol diogel a phleserus.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y Cynllun Adnodd Coedwig:

  1. Adfer safleoedd coetir hynafol (67ha) drwy gael gwared o gonwydd a chreu cynefin llydanddail brodorol. Y weledigaeth yw y bydd 12% o ardal y goedwig yn cael ei hadfer yn Goetir Hynafol Lled-Naturiol erbyn diwedd cyfnod y Cynllun Adnodd Coedwig.
  2. Cynnydd mewn cynefin coetir llydanddail o 9% i 21% o ardal y goedwig.
  3. Lleihau gorchudd sbriws Sitca o 54% i 42% erbyn diwedd cyfnod y Cynllun Adnodd Coedwig.
  4. Cynyddu Systemau Coedamaeth Effaith Isel i 21% o ardal y goedwig.
  5. Cael gwared o goed llarwydd (42 ha neu 6.5% o ardal y Cynllun Adnodd Coedwig).

  

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
  
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 

 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coedwigoedd Abergele er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y coedwigoedd.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.

Ardaloedd

  • Tywyn

Cynulleidfaoedd

  • Management
  • Citizens
  • National Access Forum
  • Anglers

Diddordebau

  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig
  • National Access Forum