Cynllun Adnoddau Coedwig Abergele

Ar gau 12 Rhag 2022

Wedi'i agor 15 Tach 2022

Trosolwg

Lleoliad

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Abergele yn amlinellu’r dulliau at y dyfodol ar gyfer rheoli pum coetir o fewn y bryniau sy’n amgylchynu tref arfordirol Abergele: Coedwig Castell Gwrych, Coed y Geufron, Coed Bron-haul, Coed Tan-y-gaer a Choed Pen-y-gribin. Mae’r coetiroedd yn gorchuddio 122.6 ha i gyd ac maent wedi’u nodweddu gan ardaloedd o goetir llydanddail hynafol wedi’u hadfer yn ogystal ag ardaloedd o goed conwydd sydd wedi’u dosbarthu’n Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol.

Mae coetiroedd Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Abergele i gyd wedi’u lleoli o fewn Bwrdeistref Sirol Conwy ac maent oll o fewn pum milltir i arfordir Gogledd Cymru. Er eu bod yn agos at nifer o ganolfannau poblogaeth a threfi twristiaeth, mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd o fewn y Cynllun wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig, ac wedi’u hamgylchynu gan dir âr a phori cymysg sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ffermio defaid. Yr eithriad ydy Coedwig Castell Gwrych, sef y coetir agosaf at yr arfordir poblog a safle carafannau lleol. Yn ogystal â’r dirwedd hon sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer ffermio, mae yna frithwaith o goetiroedd a choedwigoedd cymharol fach o amgylch ardal y Cynllun. Mae’r rhain yn cynnwys coedwigoedd pennaf llydanddail a phennaf gonwydd, ac mae rhai o’r rhain ar safleoedd coetir hynafol. Mae coetiroedd y Cynllun wedi’u cysylltu â’r rhain, ac â’r dirwedd ehangach, drwy rwydwaith o wrychoedd fferm.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rheoli’r rhan fwyaf o Goedwig Castell Gwrych, ond mae’r ardal sy’n uniongyrchol y tu ôl i’r castell (ardal tua 5 ha) yn cael ei rheoli’n breifat. Yn achos y rhan fwy i’r gorllewin sy’n cael ei rheoli gan CNC, mae ychydig dros hanner wedi’i ddynodi’n rhan o SoDdGA Calchfaen Llanddulas a Choedwig Castell Gwrych . Mae SoDdGA Coed y Gopa hefyd yn gorwedd tua 190m o ymyl ddwyreiniol y rhan lai o Goedwig Castell Gwrych sydd o dan reolaeth CNC. SoDdGA Traeth Pensarn ac AGA Bae Lerpwl yw’r safleoedd dynodedig eraill o fewn 1km i ffin y Cynllun. Ac eithrio darn o lwybr troed tua 150m o hyd sy’n rhedeg ar hyd Afon Elwy yng Nghoed Tan-y-gaer, nid oes mynediad i’r cyhoedd wedi’i ddynodi o fewn coetiroedd y Cynllun. Mae ardal y Cynllun cyfan yn gorwedd o fewn Ardal Weithrediadol Gogledd-orllewin Cymru CNC. Mae’r coetiroedd yn dod o fewn rhannau o ddalgylchoedd afonydd Elwy, Gele a Dulas. Mae’r holl rannau o’r dalgylchoedd hyn, ac eithrio’r Dulas Isaf, wedi’u nodi’n rhai ‘Cymedrol’ neu ‘Da’ yn ôl asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr; mae’r Dulas Isaf wedi’i nodi fel ‘Gwael’.

Map i ddangos lleoliad

 

Cyfleoedd a Blaenoriaethau

Adfer cynefin Coetir Hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraethol, drwy gyfuniad o Goedamaeth Bach ei Heffaith graddol a, ble nad yw hyn yn bosib, llwyrgwympo ac ailstocio gyda choed llydanddail brodorol.

Defnyddio cyfuniad o waith adfer naturiol ac ailstocio gofalus i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau coedwig er mwyn cryfhau yn erbyn plâu ac afiechydon ar yr un pryd â datblygu coedwig gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cynyddu’r amrywiaeth strwythurol drwy roi Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith ar waith.

Cynyddu’r amrywiaeth o gasgliadau o gynefinoedd o fewn ardal y Cynllun. Lle bo’n briodol, bydd hyn yn cynnwys gwarchod a gwella nodweddion cymwys SoDdGA Calchfaen Llanddulas a Choedwig Castell Gwrych. Bydd hyn yn cynnwys adfer 6.1 ha o laswelltir calchfaen a rhostir sych (cynefin o flaenoriaeth).

Cynnydd yn yr ardaloedd o goetir afonol ar gyfer gwella cydnerthedd cynefinoedd, cysylltiadau rhwng cynefinoedd ar raddfa tirwedd, a lliniaru perygl llifogydd dros y tymor hir.

Llunio Cynllun Adnoddau Coedwigaeth sy’n lleihau perygl mwy o goed wedi’u chwythu gan y gwynt gan leihau maint coupes cwympo i’r graddau sy’n ymarferol.

Cynhyrchu cyflenwad o bren cynaliadwy wedi’i dyfu yng Nghymru yn y tymor byr i ganolig drwy barhau i dynnu coed conwydd anfrodorol o Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ac ardaloedd ategol eraill a fyddai’n fwy addas ar gyfer adfer coed llydanddail a/neu gynefin agored.

Cydweddu ymhellach effeithiau gweledol y coetiroedd â’r dirwedd ehangach, gan helpu i wella Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol yr Ardaloedd y maent yn gorwedd o’u mewn. Nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth pwysg, gan gynnwys Adeiladau Rhestredig o fewn ffiniau’r Cynllun ac o’u hamgylch.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
 
Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

Gwella gwerth cadwraeth y coedwigoedd drwy

  • Adfer safleoedd coetir hynafol (41.5ha) drwy dynnu coed conwydd a chreu cynefinoedd llydanddail brodorol. Y weledigaeth yw y bydd 73.4% o ardal y goedwig yn Goetir Lled-Naturiol Hynafol neu wedi’i Adfer erbyn diwedd cyfnod y Cynllun.
  • Cynnydd yn y cynefin coetir afonol (8.4ha).
  • Cynnydd yn yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli fel cynefin agored o flaenoriaeth (6.1ha), gan warchod a gwella nodweddion cymwys SoDdGA Calchfaen Llanddulas a Choedwig Castell Gwrych.
  • Cynyddu Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith i 58% o ardal y goedwig.
  • Tynnu clystyrau o’r rhywogaethau anfrodorol sbriws Norwy (6.7ha) a phinwydd Corsica (13.6ha) sy’n anaddas ar gyfer eu rheoli gyda Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith yn sgil perygl cael eu dadwreiddio gan y gwynt.
  • Cynnydd yn yr amrywiaeth o goed llydanddail - o ran rhywogaethau ac oedran - er mwyn gwellacydnerthedd coetiroedd yn erbyn plau ac afiechydon.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Coedwigoedd Abergele er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y coedwigoedd.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.

Ardaloedd

  • Abergele Pensarn
  • Llanddulas

Cynulleidfaoedd

  • Management
  • Citizens
  • National Access Forum
  • Anglers

Diddordebau

  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig
  • National Access Forum