Ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwig Caeo
Adborth wedi'i ddiweddaru 20 Tach 2025
Gofynnon ni
Gofynnon ni am eich sylwadau chi ar Gynllun Adnoddau Coedwig Caio. Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn gynllun lefel uchel sy’n pennu rheolaeth gyffredinol y coetiroedd, gan nodi’r amcanion hirdymor ar gyfer pob coetir (adfer coetir hynafol, rheoli coetir brodorol, neu reoli coedwigaeth safonol, er enghraifft), a’r dull cyffredinol o ailstocio, megis gyda rhywogaethau llydanddail neu gonifferaidd brodorol. Fodd bynnag, nid yw’r cynllun yn nodi’r rheolaeth ddyddiol benodol ar yr ystad. Darperir hyn gan ein Tîm Rheoli Tir a’n Tîm Gweithrediadau Coedwigoedd. Mae’r cynllun yn llywio gwaith y timau hynny.
Dywedoch chi
Cawsom lefel gymedrol o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn gydag 11 o bobl / sefydliadau yn cymryd yr amser i ddarparu sylwadau trwy ein porth Citizen Space ar-lein neu’n uniongyrchol trwy e-bost. Bu ein digwyddiad galw heibio wyneb yn wyneb yn boblogaidd iawn gyda thros 20 aelod o’r cyhoedd yn dod i siarad â ni. Mae hyn yn dangos faint y mae pobl yn gwerthfawrogi Coedwig Caio a’r blociau cyfagos sy’n ffurfio Cynllun Adnoddau Coedwig Caio. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb.
Roedd cefnogaeth eang i’r nodau i barhau i adfer a rheoli coetiroedd a mawndiroedd hynafol ar yr ystad, a gwella bioamrywiaeth ac ardaloedd glannau afonydd.
Cawsom rai ymatebion yn nodi pryderon ynghylch cynnal a chadw llwybrau troed a darparu llwybrau marchogaeth o fewn Cynllun Adnoddau Coedwig Caio. Codwyd pryderon hefyd ynghylch enwau lleoedd hanesyddol a diffyg manylion yn yr amcanion.
Roedd rhywfaint o anfodlonrwydd ynghylch faint o faeddu gan gŵn a oedd yn digwydd ar rai o’r safleoedd, a phroblemau gyda ffensys ffiniau.
Gwnaethom ni
Rydym wedi ystyried y sylwadau a ddaeth i law ac maent wedi cael eu rhannu â thimau perthnasol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y gellir gweithredu arnynt neu eu cofnodi, lle bo modd, i’w hystyried ar gyfer rheolaeth yn y dyfodol. Mae lefel y diddordeb yn y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yn dangos faint mae’r coetiroedd yn cael eu gwerthfawrogi yn lleol, a gan ymwelwyr, ar gyfer hamdden ac iechyd a llesiant, sy’n rhywbeth yr ydym am ei gynnal a’i annog.
Lle nad yw geiriad yn yr amcanion wedi bod yn glir, rydym wedi ceisio newid hyn, er enghraifft gan gynnwys cyfeirio at y wiwer goch a’r bele, sy’n rhywogaethau pwysig i’w hystyried yn y cynllun hwn. Rydym wedi diwygio ein hamcan o amgylch hamdden a mynediad i gynnwys dilyn y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy i ddangos ymrwymiad i weithio gyda’r awdurdod lleol a’r fforwm mynediad lleol ar fynediad yn ein coedwigoedd.
Rydym yn sylweddoli bod pwysau hamdden penodol sy’n destun pryder, ac rydym yn gweithio’n galed i newid hyn ac annog gweithgareddau hamdden cyfrifol. Bydd ein tîm rheoli tir lleol yn edrych ar ble y gallwn wella arwyddion o amgylch y cod cefn gwlad a baw cŵn.
Rydym yn derbyn y dylai teitlau ein mapiau adlewyrchu enwau hanesyddol y goedwig a’r ardal gyfagos, felly byddwn yn sicrhau bod ein mapiau terfynol yn adlewyrchu hyn.
Rydym yn ymwybodol bod problemau gyda rhai ffensys ffiniau, yn enwedig ar ôl stormydd gaeaf 2024 ac ar ddechrau 2025, ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i gysylltu â thirfeddianwyr a chael y rhain wedi’u trwsio lle mae’n dod o fewn ein cylch gwaith.
Rydym yn gweithio’n galed i gydbwyso’r gofynion ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a’r tri amcan, fel y’u nodir yn Coetiroedd i Gymru: Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Coetiroedd a Choed (2018), eu bod yn darparu manteision i gymunedau, i fioamrywiaeth a’r amgylchedd, ac i’r economi. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i ymdopi â’r heriau a ddaw yn sgil clefydau a stormydd sy’n effeithio ar wytnwch y coetiroedd.
Trosolwg
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 10-25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Caeo 10 coetir yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys tua 1,877 hectar.
Mae lleoliad y rhan fwyaf o’r coetiroedd yn gymysgedd o dir comin ucheldirol a brithwaith o gaeau amaethyddol wedi’u gwella a choetiroedd preifat ysbeidiol. Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Caio yn cynnwys rhai coetiroedd da iawn ar gyfer cynhyrchu pren. Mae’r coedwigoedd hefyd yn cael eu defnyddio’n fynych gan y gymuned leol at ddibenion hamdden anffurfiol gan fwyaf, ond mae yna rai llwybrau beicio mynydd ffurfiol poblogaidd ym Mloc Cwm Rhaeadr.
Amcanion Caeo
Mapiau
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Map Lleoliad
Map 1 - Amcanion Hirdymor
Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map 2 Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd
Map 3 Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
- Tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd er mwyn ymdrin â Phytophthora ramorum
- Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol
- Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed
-
Clirio ardaloedd sydd wedi’u chwythu gan y gwynt
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Caeo er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Beth sy'n digwydd nesaf
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon chwe i wyth wythnos wedi'r dyddiad cau.
Digwyddiadau
-
Sesiwn Galw Heibio: Coedwigaeth
O 1 Gorff 2025 at 11:30 i 1 Gorff 2025 at 18:30Bydd sesiwn galw heibio yn Neuadd y Coroniad, Pumsaint ar 1 Gorffennaf 2025. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwigaeth ar gael i sgwrsio ag unrhyw un am ddyfodol y goedwig yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Caio.
Pumsaint, Llanwrda SA19 8UW
Ardaloedd
- Llandovery
Cynulleidfaoedd
- DCWW
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook