Ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwig Caeo

Yn cau 17 Gorff 2025

Wedi agor 17 Meh 2025

Trosolwg

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 10-25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Caeo 10 coetir yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys tua 1,877 hectar. 

Mae lleoliad y rhan fwyaf o’r coetiroedd yn gymysgedd o dir comin ucheldirol a brithwaith o gaeau amaethyddol wedi’u gwella a choetiroedd preifat ysbeidiol. Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Caio yn cynnwys rhai coetiroedd da iawn ar gyfer cynhyrchu pren. Mae’r coedwigoedd hefyd yn cael eu defnyddio’n fynych gan y gymuned leol at ddibenion hamdden anffurfiol gan fwyaf, ond mae yna rai llwybrau beicio mynydd ffurfiol poblogaidd ym Mloc Cwm Rhaeadr.

Amcanion Caeo

Isod ceri crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:

Read the Caio FRP Objectives

 

Mapiau

Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:

Esboniad o allweddi’r map

Map Lleoliad

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1 - Amcanion Hirdymor

Map 1 Gweledigaeth Hirdymor

Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd

Map 2 Systemau Rheoli Coedwigoedd

Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd

Map 3 Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu

Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
  • Tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd er mwyn ymdrin â Phytophthora ramorum
  • Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol
  • Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed
  • Clirio ardaloedd sydd wedi’u chwythu gan y gwynt

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Caeo er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Rhowch eich barn i ni

Digwyddiadau

  • Sesiwn Galw Heibio: Coedwigaeth

    O 1 Gorff 2025 at 11:30 i 1 Gorff 2025 at 18:30

    Bydd sesiwn galw heibio yn Neuadd y Coroniad, Pumsaint ar 1 Gorffennaf 2025. Bydd y Cynllunydd Adnoddau Coedwig a staff Gweithrediadau Coedwigaeth ar gael i sgwrsio ag unrhyw un am ddyfodol y goedwig yn ardal Cynllun Adnoddau Coedwig Caio.

    Pumsaint, Llanwrda SA19 8UW

Ardaloedd

  • Llandovery

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management
  • DCWW

Diddordebau

  • Forest Management