Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli’r coetiroedd a’r coedwigoedd yng Nghymru sy’n eiddo i’r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy’n ymweld â hwy a’r rheiny sy’n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llanymddyfri yn cwmpasu tua 765 hectar ar draws un prif floc ym Mhen Arthur a sawl bloc llai.
- Pen Arthur
- Talyllychau
- Felindre
- Monument
- Llwynywermod
Cyfleoedd o fewn coedwig Llanymddyfri
Mae ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yn greiddiol i’r Cynllun Adnoddau Coedwigoedd arfaethedig. Bydd adfer coetir hynafol a datblygu coetir glannau brodorol dros amser nid yn unig yn helpu i gloi carbon ond hefyd yn darparu lloches i lawer o rywogaethau, yn fflora a ffawna a dyfrol a daearol. Bydd y ffocws o’r newydd ar dyfu pren o ansawdd uchel a newid i systemau rheoli coedwigoedd gorchudd di-dor hefyd yn cynnal diwydiant cynhyrchion coedwig gwerth uchel sy’n cloi carbon am gyfnod hwy ac yn lleihau dŵr ffo mewn tywydd eithafol. Bydd datblygu Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail Ardal yn un o’r coetiroedd a chynnwys coetiroedd Llanymddyfri mewn rhwydwaith ecolegol gwydn ehangach o ran cynefin coediog yn helpu i gyflawni ein huchelgais i gynyddu gwydnwch ecosystemau yn wyneb yr argyfyngau a grybwyllwyd uchod.
Adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol
Parhau â’n cynllun i adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol i gyflwr coetir lled-naturiol trwy blannu rhywogaethau llydanddail a defnyddio rheolaeth systemau coedamaeth bach eu heffaith mewn ardaloedd sydd wedi’u hamlygu â photensial adfer canolig i uchel, tra’n cefnogi’r gwaith o amrywio dosbarth oedran a strwythur y goedwig. Parhau i wella cysylltedd cynefinoedd coetir hynafol a lled-naturiol yn ystod y broses hon.
Gwarchod nodweddion ardaloedd cadwraeth arbennig a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
Ymestyn a datblygu rhwydwaith o goetiroedd glannau afon er budd ansawdd a chyfaint dŵr er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith gan weithrediadau coedwigoedd ar ardaloedd cadwraeth arbennig y Teifi.
Iechyd a llesiant
Hyrwyddo mynediad a defnydd coedwig ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr er budd llesiant a iechyd meddyliol a chorfforol yn unol â’r cynlluniau gwella hawliau tramwy perthnasol. Cynnal y ddarpariaeth bresennol ar gyfer diddordebau cerdded, marchogaeth, beicio mynydd a chrwydro.
Amrywiaeth y rhywogaethau
Parhau i wella gwydnwch coetir trwy amrywio’r rhywogaethau ailstocio mewn ardaloedd lle ceir amodau pridd addas er mwyn eu hamddiffyn rhag plâu a chlefydau ac i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae cyfle ar gael lle mae Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol o ran gwaith cwympo coed llarwydd wedi’i gwblhau.
Cysylltedd cynefinoedd
Parhau i gefnogi’r gwaith o gysylltu cynefinoedd a chysylltedd mewn ardaloedd addas ochr yn ochr â pharthau glannau afon, ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol. Bydd hyn yn cael ei ystyried o safbwynt y tu mewn a’r tu allan i adnodd y goedwig (er enghraifft, cloddiau cysylltu a gweddillion coetir hynafol).
Cynhyrchu pren
Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren a gwneud y mwyaf o ardaloedd cynhyrchiol trwy ddewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwigoedd.
Nodweddion treftadaeth
Nodi lleoliadau sydd â nodweddion treftadaeth a pharthau effaith er mwyn osgoi difrod neu eu gorchuddio.
Rheoli ceirw
Datblygu seilwaith rheoli ceirw i frwydro yn erbyn yr effaith gynyddol ar ailstocio ac adfywio naturiol ledled Cymru.
Estheteg a thirwedd
Cadw cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd gyfagos ac ystyried y canfyddiad gweledol er budd yr ymwelwyr a’r trigolion. Gweithio gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Map 1 - Amcanion Hirdymor
Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Llanymddyfri er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Rhowch Eich Barn i Ni
Ardaloedd
- Llandovery
Cynulleidfaoedd
- Rheoli coedwigoedd
Diddordebau
- Rheoli Coedwig
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook