Cynllun Adnoddau Coedwig Carno
Trosolwg
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd, sy’n nodi’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd hyn ac yn sail i’r rhaglenni gwaith coedwriaeth 25 mlynedd (rheoli’r coed) a lunnir i gyflawni’r weledigaeth hon.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Carno yn cynnwys 6 choetir ym Mhowys sy'n cynnwys tua 324 hectar. Ar y cyfan, glaswelltir heb ei wella yw’r coetiroedd ar gopaon y bryniau, a choetir brodorol ar hyd gwaelod y dyffrynnoedd. Mae cyfran fawr o'r coetiroedd yn blanhigfeydd conwydd, gyda thros 56% yn goetir sbriws, gyda rhywfaint o ffynidwydd, pinwydd, a llarwydd. Mae 17 hectar yn Blanhigfa ar Safleoedd Coetir Hynafol neu Goetiroedd Lled-Naturiol Hynafol.
Isod ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Carno
Mae'r ddogfen hon yn helpu i egluro rhai o'r categorïau sydd i’w gweld ar y mapiau isod:
Mapiau
Map 1 - amcanion hirdymor
Map 2 - systemau rheoli coedwigoedd
Map 3 – dangosol o'r mathau o goedwigoedd
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
- Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd a llethrau dyffrynnoedd
- Tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd er mwyn ymdrin â Phytophthora ramorum
- Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol
- Cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer Carno er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y coedwigoedd.
Beth sy'n digwydd nesaf
Bydd crynodeb o ymatebion a chanlyniadau'r ymgynghoriad ar gael ar y wefan hon bedair i chwe wythnos wedi'r dyddiad cau.
Ardaloedd
- Caersws
Cynulleidfaoedd
- Management
- DCWW
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook