Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman

Closed 31 Jan 2021

Opened 10 Dec 2020

Overview

Rydym yn bwrw ymlaen gyda chynllun yn Rhydaman i reoli perygl llifogydd o afonydd Llwchwr, Marlas a Lash. Rhagwelwn fod yn fwy na 250 eiddo yn y dref yn wynebu perygl llifogydd ar hyn o bryd. Mae yna siawns o 1% y bydd hyn yn digwydd bob blwyddyn yn ystod digwyddiad llifogydd eithafol. Yn sgil effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, bydd y nifer hwn yn cynyddu yn fwy na 450 eiddo. Yr ardaloedd sy’n wynebu’r perygl mwyaf o fewn y dref yw Bonllwyn, Heol Aberlash, Tir-y-dail, Gwyn Fryn a Heol Shands.

Rydym wedi edrych yn ofalus ar y materion, yr achosion ac atebion posibl i lifogydd yn Rhydaman.

Mae ein hymchwiliadau wedi dangos fod achos y llifogydd yn Rhydaman yn gymhleth, a bod y dŵr yn llifo i’r dref mewn sawl lleoliad.

Mae angen cyfuniad o fesurau i leihau’r risg o lifogydd. Rydym yn credu mai’r dewis gorau yw adeiladau cyfres o argloddiau a muriau llifogydd mewn sawl ardal yn y dref i gynnwys y llifddwr yn Afon Llwchwr, a gosod mesurau Gallu Eiddo i Wrthsefyll Llifogydd (PLP) yn achos rhai tai ar Heol Aberlash.

Ystad Gwyn Fryn, Coleg Sir Gâr, Melin Cwmllwchwr a Heol Shands

I fyny ac i lawr yr afon o Bont y Dyffryn, mewn digwyddiadau llifogydd eithafol mae dŵr yn llifo trwy’r bwnd gan achosi llifogydd mewn adeiladau cyfagos. Gellir lleihau’r perygl llifogydd hwn trwy adeiladu muriau llifogydd gerllaw’r Coleg, Ystad Gwyn Fryn ac unedau diwydiannol Melin Cwmllwchwr a Heol Shands.

Ystad Gwyn Fryn

Cynigiwn adeiladu mur concrit wrth ymyl Afon Llwchwr ar Ystad Gwyn Fryn, gan ddechrau yn Heol Dyffryn a gorffen ger yr afon, gan wyro o gwmpas y tai i’r gogledd. Ni fydd hyn yn effeithio ar y llwybr troed. Bydd uchder y mur yn amrywio rhwng 0.5m ac 1m o uchder a bydd yn cael ei orchuddio â brics i gyd-fynd â’r tai.

Bydd yn ofynnol cwympo coed mawr ar gyfer yr opsiwn hwn (pinwydd Awstria yn bennaf ar dir Ystad Tŷ Dyffryn) rhwng y tai a’r afon ar Ystad Gwyn Fryn. Rydym wedi edrych yn ofalus ar opsiynau amgen lle byddai modd cadw’r coed; ond gan fod y lle rhwng y tai a’r afon mor fach, a chan fod gwreiddiau‘r coed yn ymestyn dros ardal mor fawr, nid oes unrhyw opsiwn ymarferol arall ar gael lle gellid osgoi niweidio’r gwreiddiau neu’r coed.

Mae’r llun yn dangos y coed rydym yn bwriadu eu plannu i wneud iawn am gwympo’r coed mawr a gwella tirwedd Ystad Gwyn Fryn. Bydd y coed a ddewisir yn cynnig gwell cynefin a bwyd i fywyd gwyllt. Bydd y coed brodorol a’r llystyfiant ar lan yr afon yn cael eu cadw ar y cyfan, yn ogystal â’r Pinwydd Awstria i’r gogledd o’r tai. Hefyd, rydym yn cynnig ychwanegu nodweddion ar gyfer y gymuned, fel meinciau, gwrychoedd gerddi a gwelliannau eraill i’r dirwedd.

Heol Shands

Delwedd gyfredol yn Ystad Gwyn Fryn o’r gogledd yn edrych tuag at Heol Dyffryn.

Llun artist o’r mur llifogydd yn Ystad Gwyn Fryn, o’r gogledd yn edrych tuag at Heol Dyffryn.

Mae’r unedau diwydiannol ar Heol Shands wedi’u hadeiladu ar dir sy’n is na’r ardal o’u hamgylch. Yr opsiwn a ffefrir yn y fan hon yw adeiladu amddiffynfa rhag llifogydd rhwng yr unedau diwydiannol sy’n berchen i’r Cyngor a’r afon. Bydd y mur rhwng 1.5m a 0.5m o uchder. Bydd yn cysylltu â nifer o’r unedau diwydiannol tua’r gogledd, a hefyd bydd mesurau Gwrthsefyll Llifogydd i Eiddo yn cael eu gosod, er mwyn cynyddu eu gallu i wrthsefyll llifogydd. Bydd coed yn cael eu plannu yn yr ardal tu ôl i’r unedau diwydiannol er mwyn gwella’r dirwedd, cynyddu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a helpu i liniaru colled coed mewn mannau eraill sy’n rhan o’r cynllun.

Coleg sir Gar

Ar dir Coleg Sir Gâr, bydd y mur llifogydd yn ymestyn i’r de o Heol Dyffryn am 80 metr ar hyd glan yr afon, gan ostwng ei uchder yn raddol tan iddo gyrraedd lefel y ddaear. Rydym wedi llwyddo i gynllunio llwybr y mur mewn modd a fydd yn osgoi dwy goeden fawr (Categori A) – sef ffawydden wrth y ffordd a derwen fawr ar y safle. Hefyd, rydym yn bwriadu plannu llystyfiant a choed brodorol ar lecyn wrth ymyl y ffordd er mwyn ehangu’r cynefin i fywyd gwyllt.

Melin Cwmllwchwr

Ar yr ochr arall i'r coleg ym Melin Cwmllwchwr, bydd mur llifogydd a chodiad yn y tir yn cael eu hadeiladu rhwng yr unedau diwydiannol a'r afon. Bydd y wal hon yn parhau i'r de ac yn cysylltu â gwelliannau rydym ni’n eu gwneud i'r gored yn sianel yr afon. Bydd y gwelliannau hyn yn lleihau'r perygl o lifogydd a hefyd yn caniatáu i bysgod basio dros y gored am y tro cyntaf ers iddi gael ei hadeiladu. Bydd hyn yn agor yr afon i'r gogledd ar gyfer pysgod gan roi mynediad iddynt i 20km o gynefin er mwyn silio.

Bwnd Cae Tir y Dail

Yn ystod llifogydd eithafol, pan fydd Afon Llwchwr yn torri ei glannau ac yn gorlifo i’r cae hwn, mae modd i’r dŵr lifo i lawr y cae ac ar hyd y rheilffordd. Mae hyn yn arwain at lifogydd mewn adeiladau ar Heol Shands, Heol yr Orsaf a Stryd Harold. Cynigiwn y dylid adeiladu bwnd pridd mawr ar draws y cae rhwng Heol Shands a’r rheilffordd er mwyn atal llif y dŵr. Bydd yr bwnd tua 130m o hyd a bydd yn 2.5m o uchder ar y mwyaf yn Heol Shands, a bydd yn goleddu’n raddol i lawr i lefel y ddaear yn y cae. Bydd yr bwnd yn cael ei osod ymhellach yn ôl na’r afon er mwyn i’r cae barhau i weithio fel gorlifdir pan fydd yna lifogydd. Mae’r bwnd wedi cael ei gynllunio mewn modd a fydd yn peri iddo ymdoddi i’r cefndir cymaint â phosibl. Bydd yn rhaid cael gwared â nifer fechan o goed er mwyn gallu adeiladu’r bwnd, ond byddwn yn plannu coed eraill yn lle’r rhain ar hyd a lled safle’r prosiect er mwyn sicrhau y bydd mwy o goed nag o’r blaen i’w cael yno ar ddiwedd y prosiect.

Ffordd yr Avon, Bonllwyn

Cynigiwn adeiladu amddiffynfa isel rhag llifogydd ar hyd glan ddeheuol Afon Llwchwr yn ardal Bonllwyn, oddi ar Ffordd yr Afon. Bydd oddeutu 90cm o uchder a bydd yn dilyn y llwybr troed presennol (yr un ochr â’r afon). Ymhellach, mae graean yn hel dan bont Heol Llandybïe, a gall hwn atal y llif dan y bont yn ystod digwyddiad eithafol. Rydym yn ystyried ffyrdd o rwystro’r graean rhag hel a sicrhau y gall y dŵr lifo’n rhwydd. Bydd ramp i gerbydau’n cael ei adeiladu i lawr yr afon wrth y bont hon ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol. Bydd yn rhaid cwympo ambell goeden ar hyd yr afon er mwyn adeiladu’r ramp hwn, ond byddwn yn plannu coed newydd yn yr ardal hon ac mewn mannau eraill yn Rhydaman i wneud iawn am unrhyw goed a gaiff eu torri i lawr.

Lôn Parc Henry

Yn rhan uchaf Lôn Parc Henry, y tu ôl i’r datblygiad tai newydd, cynigiwn adeiladu bwnd i leihau’r perygl llifogydd i eiddo yn ardal Llwyn y Bryn. Yn ystod llifogydd eithafol, mae dŵr yn llifo o’r afon uwchlaw’r datblygiad tai newydd ac yn rhedeg trwy’r ystad, gan beri i’r tai fynd dan ddŵr. Bydd y gwaith codi tir a gynigir gennym yn cael gwared â’r llwybr llifogydd hwn ac yn lleihau’r perygl llifogydd.

Heol Aberlash

Mae gan ambell eiddo yn Heol Aberlash siawns o 20% o ddioddef llifogydd bob blwyddyn. Rydym wedi ystyried gwneud yr agoriad dan bont Heol Aberlash yn fwy er mwyn cynyddu faint o ddŵr a all lifo dan y bont a lleihau’r llifogydd a ddaw i ran y tai. Er i ddyfnder y dŵr leihau, ni chafwyd lleihad yn amlder y llifogydd. Hefyd, ystyriwyd opsiynau i storio llifddwr yn uwch i fyny na Heol Aberlash ac adeiladu argloddiau i amddiffyn tai. Fodd bynnag, nid oedd yr opsiynau hyn yn ymarferol oherwydd diffyg lle a chan fod y llifddwr yn mynd heibio’r amddiffynfeydd.

Daethpwyd i’r casgliad mai mesurau a fyddai’n galluogi eiddo i wrthsefyll llifogydd oedd yr opsiwn mwyaf addas ar gyfer lleihau’r perygl llifogydd i 13 o dai yn Heol Aberlash, gan eu cynorthwyo i wrthsefyll llifogydd yn well. Gall mesurau o’r fath gynnwys gosod “drysau llifogydd”, ynghyd â rhwystrau dros dro a phethau o’r fath. Gall y pethau hyn ddarparu rhwystr dros dro i lifddwr yn ystod digwyddiadau llifogydd byr. Ym mis Mawrth 2020 aethom ati i arolygu’r tai er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer mesurau o’r fath i wrthsefyll llifogydd. Byddwn yn chwilio am gynhyrchion addas i’w gosod wrth adeiladu’r cynllun llifogydd, ar gyfer y perchnogion tai hynny sydd wedi cytuno i’w defnyddio.

Effeithiau amgylcheddol posibl a sut y byddwn yn eu rheoli

Mae Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) wedi'i integreiddio i ddatblygiad dyluniad y cynllun. Mae'r AEA yn ffordd systematig a thryloyw o reoli'r risgiau amgylcheddol. Mae'n sicrhau ein bod yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru effeithiau amgylcheddol ac yn nodi cyfleoedd i sicrhau manteision niferus. Effaith bosibl ar goed, rhywogaethau a warchodir (e.e. ystlumod, dyfrgwn), pobl (e.e. sŵn), nodweddion hanesyddol, tirwedd leol yw rhai o'r effeithiau niferus sydd wedi'u hasesu. Cynhyrchwyd Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol i ddogfennu'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, a fydd ar gael i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i'w ystyried fel rhan o'r Ymgynghoriad cyn Ymgeisio ar Ganiatâd Cynllunio.

Gwelliannau amgylcheddol

O dan Ddeddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae'n ofynnol i CNC fynd ar drywydd Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) a dangos bod egwyddorion SMNR a Datblygu Cynaliadwy yn cael eu cymhwyso. Cyflawnir rhan o hyn drwy ddarparu gwelliannau amgylcheddol a lles yn ardal Rhydaman, o amgylch dalgylch Afon Llwchwr. Ymhlith y gwelliannau y byddwn yn eu cyflawni fel rhan o'r cynllun mae:

  • Gwelliannau i ymfudiad pysgod dros gored Tir y Dail ym Mhont Dyffryn, a fydd yn agor 20km o gynefin i Eog, Brithyll Môr, Brithyll Brown, Llyswennod, Lamprey
  • Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu gwaith plannu coetir brodorol gyda mynediad cyhoeddus (mae hyn yn ychwanegol i’r plannu sydd ei angen i gymryd lle coed a dorrwyd i lawr fel rhan o'r cynllun)
  • Gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau fel dyfrgwn, adar ac ystlumod, gan gynnwys blychau ystlumod ac adar ar hyd yr afon;
  • Gwelliannau i ffiniau gerddi a lleoedd eistedd yn Ystad Gwyn Fryn
  • Byrddau gwybodaeth i roi gwybodaeth i'r gymuned ac ymwelwyr am nodweddion lleol a allai aros yn gudd fel arall – e.e. castell mwnt a beili Tir y Dail
  • Trin rhywogaethau planhigion estron goresgynnol fel Clymog Japan

Dyma fanylion ein cynigion penodol ar gyfer pob maes yr hoffem gael eich barn arno.

Er mwyn cael manylion pob cais unigol, darllenwch ein cylchlythyr sydd wedi’i atodi.

 

 

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Why we are consulting

Bydd y cynllun a ffefrir gennym yn lleihau’r perygl llifogydd ar gyfer oddeutu 380 eiddo yn Rhydaman yn ystod digwyddiad llifogydd eithafol (llifogydd gyda thebygolrwydd o 1% y bydd yn digwydd bob blwyddyn), o ystyried yr effeithiau a ddaw yn y dyfodol yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

Dyma eich cyfle chi i wneud sylwadau yn uniongyrchol i ni ar ein cynigion.

Byddwch hefyd yn cael cyfle arall i wneud sylwadau yn ystod yr Ymgynghoriad Cyn-Ymgeisio am Ganiatâd Cynllunio, cyn inni gyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Bydd copi drafft o’r cais cynllunio, yn cynnwys y Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol, ar gael ar-lein ar we-dudalen y prosiect.

Bydd yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn dechrau ganol mis Ionawr 2021 am 28 diwrnod.

 

What happens next

Bydd eich adborth yn ein helpu i lunio ein cynigion terfynol cyn i ni gyflwyno ein cais cynllunio i Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Os ydych wedi dweud yr hoffech gael gwybod am y prosiect hwn, byddwn yn cysylltu â chi naill ai drwy e-bost neu drwy'r post gydag adborth ar yr arolwg hwn a'n camau nesaf.

Events

  • Digwyddiad 1 - Gwybodaeth Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman.

    From 8 Jan 2021 at 14:00 to 8 Jan 2021 at 15:30

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ymunwch â ni ar-lein i gael cyflwyniad.

    E-bost ammanford@naturalresources.wales i ofyn am ragor o fanylion.

  • Digwyddiad 2 - Gwybodaeth Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Rhydaman.

    From 12 Jan 2021 at 17:30 to 12 Jan 2021 at 19:00

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ymunwch â ni ar-lein i gael cyflwyniad.

    E-bost ammanford@naturalresources.wales i ofyn am ragor o fanylion.

Areas

  • Ammanford

Audiences

  • Flooding

Interests

  • Flooding