Ymgynghoriad ar newidiadau i fap prif afonydd Cymru
Trosolwg
Mae prif afon yn gwrs dŵr sydd wedi'i farcio'n swyddogol ar y map statudol o brif afonydd yng Nghymru. Er bod prif afonydd fel arfer yn afonydd a nentydd mwy, mae rhai cyrsiau dŵr llai hefyd wedi'u cynnwys. Mae afonydd neu nentydd eraill nad ydynt yn brif afonydd yn cael eu dosbarthu fel 'cyrsiau dŵr cyffredin'.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb am gynnal a diweddaru map prif afonydd Cymru, y gellir ei weld yma: Mapiau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Weithiau, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i’r map prif afonydd. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori ag Awdurdodau Rheoli Risg eraill a'r cyhoedd cyn gwneud unrhyw newidiadau i'r map prif afonydd.
Efallai y bydd dynodiad afon yn effeithio arnoch yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Os ydych yn berchen ar dir neu eiddo sy'n ffinio ag afon
- Os oes angen i chi wneud unrhyw waith mewn afon neu ger afon
Mae'r newidiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn rhai bach; sef diwygio aliniad y brif afon sydd wedi'i fapio i adlewyrchu llwybr gwirioneddol yr afon. Drwy’r ymgynghoriad hwn rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau arfaethedig i’r map o brif afonydd Cymru mewn tri dalgylch.
Mapiau trosolwg
- Afon Fach, y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
- Afon Tefeidiad, Canolbarth Powys Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
- Dalgylch Efyrnwy, Gogledd-ddwyrain Powys Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.
Darperir mapiau manwl sy'n dangos y newidiadau arfaethedig yn yr arolwg pan gliciwch ar Rhannwch eich barn isod.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig bod y cyhoedd yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i brif linell yr afon a allai effeithio arnynt.
Er mai ein nod yw darparu'r wybodaeth fwyaf cywir sydd ar gael i ni, efallai nad oes gennym yr un lefel o wybodaeth â chymunedau lleol. Felly, mae'n bwysig "rhannu eich barn" a'ch gwybodaeth gyda ni. Os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae angen ei hystyried, ewch ati i lenwi arolwg yr ymgynghoriad. Mae adran ar ddiwedd yr arolwg i ychwanegu sylwadau ychwanegol am y newidiadau arfaethedig i brif afonydd, os nad yw’r cwestiynau’n eu cwmpasu.
Beth sy’n digwydd nesaf
Gall unrhyw berson neu sefydliad wrthwynebu penderfyniad.
Dyfynnwch rif y map e.e. Map 4, i nodi pa fap rydych chi'n gwneud sylwadau arno. Os na fyddwch yn dyfynnu rhif y map, efallai na fyddwn yn gallu ystyried eich sylw. Mae croeso i chi ychwanegu disgrifiadau o’r lleoliad neu gyfesurynnau daearyddol ychwanegol os oes angen.
Dylai unrhyw wrthwynebiad o'r fath gyrraedd erbyn y dyddiad cau a nodwyd fan bellaf.
Ni ellir trin gwrthwynebiadau na sylwadau yn gyfrinachol.
Gellir anfon unrhyw ymholiadau i'r cyfeiriad e-bost cyswllt.
Ardaloedd
- Knighton
- Llansanffraid
- Meifod
- Pyle
- Severn
Cynulleidfaoedd
- Citizens
- Flooding
- Llifogydd
Diddordebau
- Flooding
- Llifogydd
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook