Diwygio diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru

Yn cau 31 Maw 2028

Wedi agor 4 Tach 2024

Trosolwg

Cliciwch yma i weld y dudalen yn Saesneg / Click here to view this page in English

Yng Nghymru, mae tua 400 o gronfeydd dŵr cofrestredig sy’n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 - y gyfraith sy’n pennu’r safonau diogelwch gofynnol. Rydym wedi dynodi dros hanner y rhain yn “gronfeydd risg uchel”, lle credwn y gallai methiant ac unrhyw ollyngiadau dŵr heb reolaeth dilynol achosi perygl i fywyd.

Llun o gronfa Llyn Clywedog

Mae diogelwch cronfeydd dŵr yn ymwneud â sicrhau bod adeiledd ffisegol cronfa ddŵr, ei hargaeau a’i hargloddiau yn ddiogel.

Mae gan Gymru hanes ardderchog o ran diogelwch cronfeydd dŵr. Fodd bynnag, mae'r adolygiad annibynnol a'r adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Balmforth yn dilyn digwyddiad cronfa ddŵr Toddbrook yn 2019 yn ein hatgoffa na allwn fod yn hunanfodlon. Mae argaeau sy’n heneiddio, galwadau cynyddol ar gyflenwadau dŵr, ac effeithiau hinsawdd sy’n newid i gyd yn broc i’r angen i barhau i adolygu ein dull rheoleiddio.

Mae hanes diogelwch Cymru wedi’i chyflawni drwy’r egwyddorion sylfaenol o weithredu ar gyngor ac argymhellion peirianwyr sifil cymwys sy’n arbenigo mewn diogelwch cronfeydd dŵr, wedi’i ategu gan gydymffurfedd â’r gyfraith.

Cyflwyniad

Ym mis Tachwedd 2024, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig fwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio arferion rheoli diogelwch cronfeydd dŵr a moderneiddio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Fel rhan o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac Asiantaeth yr Amgylchedd, rydym yn datblygu ac yn darparu Rhaglen Diwygio Diogelwch Cronfeydd Dŵr, i fynd i’r afael â’r argymhellion a osodir yn yr Adroddiad Adolygu Diogelwch Cronfeydd Dŵr Annibynnol. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros nifer o flynyddoedd a bydd y dudalen wybodaeth hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau a’n cynnydd.

Gweledigaeth a nodau'r rhaglen

Ein gweledigaeth yw moderneiddio’r broses o reoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru, lleihau’r risg i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau i lawr yr afon a’r amgylchedd naturiol, a sicrhau bod cronfeydd dŵr yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Byddwn yn gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol:

  • ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio ein dull
  • cryfhau rolau a chyfrifoldebau perchnogion a gweithredwyr i reoli eu cronfeydd dŵr yn unol â’r risg a berir ganddynt
  • rhoi’r dyletswyddau a’r pwerau i beirianwyr sy’n gymesur â’u cyfrifoldeb i argymell camau gweithredu ac i allu cynyddu ymyrraeth lle bo angen
  • meithrin diwylliant o welliant parhaus, a datblygu sgiliau ar draws y gymuned cronfeydd dŵr
  • gweithio gyda’r llywodraeth i foderneiddio’r ddeddfwriaeth sy’n sail i’r safonau rydym yn eu gosod, er mwyn caniatáu i arferion diogelwch presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg sicrhau trefn ddiogelwch gadarn a chymesur sy’n ystwyth ac yn addas ar gyfer y dyfodol

Yr angen am ddiwygio

Y prif sbardunau ar gyfer gwella system diogelwch cronfeydd dŵr yw fel a ganlyn:

  • yr angen am ddeddfwriaeth sy'n cyd-fynd yn well ag arferion a disgwyliadau rheoli risg cyfoes
  • yr argymhellion sy’n deillio o adolygiad annibynnol o ddiogelwch cronfeydd dŵr yr Athro David Balmforth
  • newid hinsawdd – sy’n cynyddu’r pwysau ar seilwaith cronfeydd dŵr a’r galw am gronfeydd dŵr ac adnoddau dŵr
  • y galw cynyddol am beirianwyr cronfeydd dŵr arbenigol yn y dyfodol, ac i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn niferoedd y peirianwyr hyn

Gweinyddiaethau datganoledig

Mae polisi diogelwch cronfeydd dŵr wedi’i ddatganoli. Mae ein rhaglen ddiwygio’n canolbwyntio ar Gymru, ond rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau a rheoleiddwyr datganoledig eraill i rannu gwybodaeth a chefnogi dull gweithredu cydlynol ledled y DU.

Gallwch ddarllen dudalen gwybodaeth Asiantaeth Amgylchedd Lloegr yma.

Llun o gronfa Alwen ar ddiwrnod heulog

Ffocws diwygio

Mae’r cyfrifoldeb am ddiogelwch cronfeydd dŵr yn cael ei ysgwyddo gan dair cymuned darged benodol:

  1. Perchnogion a gweithredwyr cronfeydd dŵr sy'n gyfrifol yn y pen draw am ddiogelwch eu cronfeydd dŵr. Rhaid iddynt benodi peirianwyr sifil arbenigol i adeiladu, archwilio a goruchwylio eu cronfeydd dŵr ac i weithredu ar argymhellion y peiriannydd. Dylai perchnogion a gweithredwyr reoli eu cronfa ddŵr yn ddiogel gan ddefnyddio staff hyfforddedig a chymwys yn ôl yr angen.
  2. Mae peirianwyr sifil cymwysedig / “peirianwyr panel” yn cael eu penodi i baneli arbenigol gan y llywodraeth i sicrhau bod perchnogion yn gallu cael gafael ar bobl sy’n gymwys i oruchwylio ac archwilio adeiladwaith a gweithrediad cronfeydd dŵr.
  3. Awdurdodau gorfodi – yng Nghymru, mae CNC yn rheoleiddio ac yn gorfodi diogelwch cronfeydd dŵr.

Ni fydd y rhaglen ddiwygio yn newid y dull tair ffordd cyffredinol hwn, ond rydym yn rhagweld y bydd newidiadau ar gyfer pob un o’r cymunedau hyn.

Rhaglen o ddiwygiadau

Bydd ein rhaglen ddiwygio yng Nghymru yn gwneud y canlynol:

  • adrodd am ddiweddariadau drwy'r tudalennau hyn yn rheolaidd

  • sefydlu’r arferion diogelwch cronfeydd dŵr sydd i’w hategu gan y gyfraith a’r rhai lle y gellir ystyried bod canllawiau yn ddigonol

  • gweithredu newid drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgynghori, darparu canllawiau, a chyflwyno deddfwriaeth newydd i gyd-fynd ag amserlenni sy’n briodol i’r Senedd.

Cysylltwch â ni

Drwy e-bostRSR_Cymru@naturalresourceswales.gov.uk

Dros y ffôn: 03000 65 3000 (8am i 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Dyma ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid – gofynnwch am gael siarad ag aelod o'r Tîm Rheoleiddio Cronfeydd Dŵr.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Flooding
  • Llifogydd
  • Management
  • Citizens
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority

Diddordebau

  • Regulatory Voice
  • Permits
  • Trwyddedau
  • Llais Rheoleiddio
  • Climate change adaptation measures
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Landscapes
  • Tirweddau