Datblygiad Bonllwyn Green

Closed 30 Sep 2022

Opened 8 Aug 2022

Overview

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn symud ymlaen gyda chynllun yn Rhydaman i reoli perygl llifogydd o afonydd Llwchwr, Marlas a Lash. Rydym yn rhagweld bod 223 eiddo yn y dref mewn perygl o lifogydd ar hyn o bryd. Mae siawns o 1% o hyn yn digwydd bob blwyddyn yn ystod digwyddiad llifogydd eithafol. Mae effeithiau newid hinsawdd yn gweld y nifer hwn yn codi i dros 380 o eiddo sydd mewn perygl o lifogydd. Yr ardaloedd o'r dref sydd fwyaf mewn perygl yw Bonllwyn, Heol Aberlash, Tir-y-dail, Gwyn Fryn a Heol Shands.

Mae Cyngor Sir Gâr wedi gofyn i ni ymgynghori â'r gymuned leol ar gynllun y dirwedd a'r plannu coed rydym yn eu cynnig ym Monllwyn Green, oddi ar yr Henffordd, fel rhan o'r cynllun llifogydd. Dyma eich cyfle i roi sylwadau uniongyrchol i ni ar ein cynigion cyn i'r gwaith ddechrau ym Monllwyn Green.

Rydym wedi tynnu coed mewn mannau eraill ar y cynllun i ganiatáu adeiladu'r waliau llifogydd a'r argloddiau, ac i ddarparu mynediad mewn rhai mannau ar gyfer cynnal a chadw'r afon yn y dyfodol. Gwnaethon ni gynllunio'r cynllun i gadw coed lle bynnag ag y bo modd. Am bob coeden sy’n cael ei thynnu’n anochel neu ei phrysgoedio (techneg tocio lle mae coeden neu lwyn yn cael ei dorri i lefel y ddaear, gan arwain at aildyfiant coesynnau newydd o’r gwaelod) er mwyn caniatáu i’r cynllun llifogydd gael ei adeiladu, byddwn yn plannu dwy neu dair coeden newydd yn yr ardal. Cafodd Bonllwyn Green ei hadnabod gan y cyngor fel ardal bosibl ar gyfer plannu rhai o'r coed hyn, felly rydyn ni wedi gofyn i gynllunydd tirlun lunio gweledigaeth ar gyfer y parc cyfan sy'n cynnwys y coed ychwanegol hyn.

Y Dyluniad ar gyfer Bonllwyn Green

* Er mwyn cael fersiwn fwy o’r ddelwedd hon de-gliciwch ar y ddelwedd ac agorwch mewn tab newydd.*

Y weledigaeth ar gyfer Bonllwyn Green yw creu man gwyrdd hynod werthfawr yng nghanol yr ardal breswyl. Parc lle gall trigolion lleol gamu allan o'u drysau ffrynt a phrofi noddfa, sy’n gyforiog o fywyd gwyllt.

Mae cythrwfl diweddar Covid-19 wedi ein dysgu bod pobl yn gwerthfawrogi byd natur nawr yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae mynediad at fyd natur o fewn lleoliad trefol yn bwysig i iechyd a lles pobl. Mae'n lleihau straen, yn annog gweithgarwch corfforol ac yn gwella'r gymuned drwy ddarparu man lle gall pobl gyfarfod, gorffwys a rhyngweithio â'i gilydd.

Byddwn yn cadw nodweddion presennol y llwybrau cerdded drwy'r parc a bydd meinciau yn cael eu hychwanegu i annog pobl i orffwys a mwynhau'r lle gwyrdd. Bydd yr ardaloedd presennol o laswelltir a grwpiau o goed yn cael eu hategu gan blannu ychwanegol, i greu tair ardal allweddol:

* Er mwyn cael fersiwn fwy o’r ddelwedd hon de-gliciwch ar y ddelwedd ac agorwch mewn tab newydd.*

1. Plannu coed rhodfa ar hyd y llwybr presennol o'r safle bws yn y de trwy ganol y parc.

Bydd y maes glaswellt agored wrth ymyl yr Henffordd yn aros yr un fath, gan fod llai o draffig yn yr ardal hon a bydd yn helpu i ddarparu lle diogel i blant ifanc oddi wrth Ffordd Llandybie sy’n fwy prysur.

2. Ardal ar hyd Ffordd Llandybie wedi'i hysbrydoli gan berllannau.

Bydd coed ffrwythau addurnol yn cynnig manteision i adar a pheillwyr, fel gwenyn, yn ogystal â chreu ardal ddeniadol o fewn y parc. Bydd llu o fylbiau blodeuo'r gwanwyn wedi’u plannu o amgylch gwaelod y coed gyda llwybrau glaswellt sydd wedi’u torri yn helpu i ail-greu golwg a theimlad perllan. Bydd yn darparu mannau anffurfiol i bobl orffwys a threulio amser wedi'u hamgylchynu gan natur yn y parc. Bydd clawdd newydd wedi’i blannu ar hyd Ffordd Llandybie yn helpu i hidlo llygryddion o'r ffyrdd cyfagos ac yn creu lle diogel ar gyfer chwarae.

3. Ardal i'r gogledd o'r parc wedi’i hysbrydoli gan goedwig drefol.

Bydd yr ardal hon yn cael ei llenwi â choed a phlanhigion sy'n cynnig gofod tawel lle gall pobl ailgysylltu â natur. O dan y coed bydd cymysgedd o weiriau tal, rhedyn a phlanhigion lluosflwydd hirhoedlog. Bydd y planhigion yn rhoi diddordeb gweledol drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â bod o fudd i fywyd gwyllt.

Areas

  • Ammanford

Audiences

  • Flooding

Interests

  • Flooding