Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi

Closed 22 Dec 2022

Opened 11 Nov 2022

Overview

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn datblygu cynllun rheoli perygl llifogydd i leihau’r perygl o lifogydd llanwol yn ardal Y Strand yn Aberteifi.

Nod y cynllun fydd lleihau’r perygl o lifogydd llanwol i tua 90 eiddo ar lan ogleddol afon Teifi yn ardal Y Strand a bydd yn ystyried effaith ddisgwyliedig y newid yn yr hinsawdd.

Rydym wedi llunio tri opsiwn yr ydym yn eu hystyried yn ddichonadwy, ac mae gennym ddyluniadau amlinellol ar gyfer pob un o’r opsiynau hynny.

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym am gasglu barn pobl Aberteifi ar bob opsiwn. Bydd eich adborth yn llywio ein penderfyniad ar ba ddyluniad i'w symud ymlaen i'w ddylunio'n fanwl, ac yna ei adeiladu.

Rydym hefyd eisiau eich syniadau ar fuddion ehangach y gallai'r cynllun hwn eu darparu i'r dref, ac i elwa ar eich gwybodaeth leol er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth lawn o'r ardal.

Llifogydd diweddar yn Aberteifi

Mae gan Aberteifi hanes o lifogydd yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd ei effeithio gan achos o lifogi arwyddocaol pan welwyd dyfnderoedd o fwy na hanner metr yn 2007, gydag achosion o lifogydd llanwol arall yn digwydd yn 2008, 2012 ac yn 2014.

Bu digwyddiad arall o lifogydd yn 2014, ond fe ddigwyddodd hynny ar adeg o lanw isel, felly nid y llanw achosodd y llifogydd hynny.

Digwyddodd y llifogydd llanwol sylweddol mwyaf diweddar ar 3 Ionawr 2014, pan fu 29 eiddo ar Stryd y Santes Fair a strydoedd cyfagos o dan ddŵr o ganlyniad i'r llanw. Yn ogystal, bu llifogydd yn ardaloedd y cei isaf yn 2007.

Mathau o lifogydd

Mae pedair prif ffynhonnell o lifogydd yn Aberteifi: llanwol, dŵr budr, dŵr wyneb ac afonydd.

  • Mae llifogydd llanwol yn digwydd pan fydd y llanw yn cyrraedd lefel sy'n rhy uchel ac yn gorlifo ar y tir.
  • Mae llifogydd dŵr budr yn digwydd pan fydd y rhwydwaith o bibellau sy'n dod o adeiladau yn cael ei lethu ac yn gorfodi dŵr budr i ddod yn ôl drwy'r pibellau i gartrefi.
  • Mae llifogydd dŵr wyneb yn digwydd pan na all y tir amsugno dŵr glaw – naill ai oherwydd bod y tir eisoes yn ddirlawn (yn llawn dŵr), neu oherwydd bod glaw yn disgyn ar arwynebau anathraidd, e.e. concrit.
  • Mae llifogydd o afonydd (llifogydd afonol) yn digwydd pan fo lefelau afonydd yn rhy uchel ac yn uwch na'u glannau.

Er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd yn Aberteifi, mae angen mynd i'r afael â phob un o'r ffynonellau llifogydd hyn. O dan y gyfraith, mae sefydliadau gwahanol yn gyfrifol am gwahanol fathau o o lifogydd.

Mae CNC yn gyfrifol am reoli llifogydd llanwol; mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am reoli llifogydd dŵr budr; ac mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli llifogydd dŵr wyneb. Cyngor Sir Ceredigion yw'r awdurdod lleol yn achos Aberteifi.

Mae CNC yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o brif afonydd, ac mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o afonydd nad ydynt yn brif afonydd. Mae'r Afon Teifi yn brif afon.

Oherwydd hyn, rydym ni yn CNC yn datblygu cynllun rheoli perygl llifogydd i leihau’r perygl o lifogydd llanwol yn ardal Y Strand yn Aberteifi. Mae hyn yn golygu nad yw'r prosiect hwn a'r ymgynghoriad arno yn ceisio mynd i'r afael â llifogydd dŵr budr neu ddŵr wyneb yn Aberteifi.

Beth rydyn ni wedi ei wneud hyd yn hyn?

Sefydlwyd tîm yn CNC yn gynnar yn 2020 ac mae’n cael ei arwain gan arbenigwyr ym maes cyflawni prosiectau sydd â llawer iawn o brofiad o gynllunio ac adeiladu prosiectau mawr. Eu ffocws cyntaf oedd rhoi Achos Busnes Amlinellol at ei gilydd ar gyfer cynllun llifogydd llanwol yn Aberteifi.

Hefyd, gwnaethpwyd gwaith i asesu pa ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd llanwol yn Aberteifi. Nodwyd tri maes gwahanol: Y Strand a Stryd y Santes Fair; Mwldan, a'r Farchnad Wartheg.

Gwnaethpwyd penderfyniad i fynd i’r afael â pherygl llifogydd yn Y Strand gan fod yr ardal honno sydd â'r nifer fwyaf o eiddo sydd â’r perygl mwyaf o lifogydd.

Mae ardal Mwldan, gan gynnwys maes parcio'r cyngor yn Stryd y Cei a'r eiddo cyfagos, yn cael ei harfarnu ar wahân oherwydd y perygl llifogydd a achosir gan afon Mwldan hefyd. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ar wahân i'r tîm sy'n canolbwyntio ar Y Strand.

Yn ystod y gwanwyn yn 2021, cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol gan Fwrdd Busnes Rheoli Perygl Llifogydd CNC. Caniataodd y gymeradwyaeth hon i dîm y prosiect greu'r dyluniad amlinellol ar gyfer y cynllun.

Penododd CNC yr ymgynghorydd Binnies i symud ymlaen gyda’r asesiad o leoliad amddiffynfa The Strand, sydd wedi cynnwys ymchwiliad tir, arolygon topograffig ac arolygon eraill.

Asesu amgylcheddol

Er mwyn cefnogi datblygiad y dyluniadau, rydym yn ystyried ac yn asesu effeithiau posib a chyfleoedd y gall y cynllun gael ar yr ardal.

Rydym wedi dechrau casglu gwybodaeth amgylcheddol ar gyfer yr ardal ac rydym yn ystyried effaith amgylcheddol bosibl pob un o'r opsiynau dylunio. Lle mae potensial am effeithiau amgylcheddol negyddol, byddwn ni'n anelu at osgoi, lleihau neu ddigolledu'r effeithiau hynny.

Drwy'r ymgynghoriad, hoffem glywed eich meddyliau ynghylch a ydych yn teimlo bod ein dealltwriaeth o'r amgylchedd lleol yn gywir ac yn ogystal â'ch barn am effeithiau a chyfleoedd amgylcheddol posibl.

 

Rhestr hir o opsiynau

Cafodd rhestr hir o opsiynau i leihau llifogydd yn Y Strand ei chynhyrchu a'i gwerthuso. Cafodd pob opsiwn ei graffu, gyda dim ond yr opsiynau mwy ymarferol yn cael eu cymryd ymlaen i restr fer o opsiynau. Dyma'r opsiynnau yr ydym bellach yn ymgynghori arnynt.

Cafodd rhai opsiynau eu diystyru yn ystod cyfnod gwerthuso'r rhestr hir, megis plannu coed yn uwch i fyny yn nalgylch Teifi, a mesurau rheoli llifogydd naturiol eraill.

Er bod plannu coed yn arf pwerus wrth ddal dŵr a lleihau llifogydd mewn nifer o amgylchiadau, byddai'n aneffeithiol o ran lleihau llifogydd yn ardal Y Strand gan fod y llifogydd yn cael eu dylanwadu'n bennaf gan y llanw.

Rhowch wybod os hoffech gael mwy o wybodaeth am y broses arfarnu.

What happens next

Mae'r cyfnod ymgynghori ar Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi bellach wedi cau. Hoffem ddiolch i bawb a rannodd eu barn am y cynllun.

Byddwn nawr yn defnyddio'r adborth i hysbysu ein penderfyniad ynghylch pa un o'r tri opsiwn wnaethon ni rannu yn yr ymgynghoriad fynd ymlaen i'r cyfnod dylunio manwl. Mae'n bosib y bydd cyfuniad o'r opsiynnau yn cael ei ddefnyddio hefyd.

Byddwn hefyd yn ymgynghori ar y cynllun wedi i'r opsiwn dewisol fynd drwy'r broses ddylunio fanwl.

Events

  • Digwyddiad galw-heibio

    From 23 Nov 2022 at 13:00 to 23 Nov 2022 at 19:00

    Dewch i Gastell Aberteifi i ddysgu mwy am y cynllun ac i ofyn eich cwestiynau i staff CNC.

    Galw heibio ar unrhyw adeg rhwng 1pm a 7pm

Areas

  • Aberteifi/Cardigan-Teifi

Audiences

  • Flooding

Interests

  • Flooding