Rydym yn paratoi i gyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru diweddaraf a hoffem dderbyn sylwadau ac adborth a fydd yn helpu i lunio a chwblhau’r cynllun hwn cyn ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Wrth gynhyrchu’r cynllun hwn mae CNC yn bodloni gofynion Rhan 4 y Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009), mae’r cynllun hwn yn gam olaf yr ail gylch o waith dadansoddi a chynllunio a fandadir gan y ddeddfwriaeth hon.
Mae’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn adeiladu ar ein gwaith o ddadansoddi’r hyn sydd mewn perygl o lifogydd ac yn nodi’r blaenoriaethau a’r mesurau yr ydym yn eu hawgrymu i reoli’r perygl o lifogydd i bobl, i’r amgylchedd ac i weithgarwch economaidd ledled Cymru dros y chwe blynedd nesaf.
Mae’r Cynllun wedi’i rannu mewn i Adran Genedlaethol drosfwaol ochr yn ochr â chwe Adran Leol, seiliedig ar le, sy’n cwmpasu’r gwahanol ardaloedd gweithredol o fewn CNC. Y bwriad felly bydd ei ddefnyddio fel cynllun cenedlaethol ond cynnig manylion lleol hefyd a fydd yn helpu i gefnogi cynlluniau lleol.
Dolenni i gynlluniau drafft am ymgynghoriad:
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru Drafft - Adran Genedlaethol
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru Drafft - Adran Canolbarth Cymru
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru Drafft - Adran Gogledd-Ddwyrain Cymru
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru Drafft - Adran Gogledd-Orllewin Cymru
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru Drafft - Adran Canol De Cymru
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru Drafft - Adran De-Ddwyrain Cymru
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru Drafft - Adran De-Orllewin Cymru
Cynhaliwyd Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd drafft i gefnogi’r ymgynghoriad hwn ac i sicrhau bod effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys rhai cymdeithasol a diwylliannol, yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd:
Asesiad Amgylcheddol Strategol – Crynodeb Annhechnegol
Asesiad Amgylcheddol Strategol – Adroddiad Amgylcheddol (Saesneg yn unig)
Adroddiad Amgylcheddol - Atodiad E Canolbarth Cymru (Saesneg yn unig)
Adroddiad Amgylcheddol - Atodiad F Gogledd-Ddwyrain Cymru (Saesneg yn unig)
Adroddiad Amgylcheddol - Atodiad G Gogledd-Orllewin Cymru (Saesneg yn unig)
Adroddiad Amgylcheddol - Atodiad H Canol De Cymru (Saesneg yn unig)
Adroddiad Amgylcheddol - Atodiad I De-Ddwyrain Cymru (Saesneg yn unig)
Adroddiad Amgylcheddol - Atodiad J De-Orllewin Cymru (Saesneg yn unig)
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Drafft (Saesneg yn unig)
Yn CNC, rydym yn credu ei bod yn bwysig rhannu ein cynlluniau arfaethedig ar gyfer y dyfodol a cheisio adborth gan gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd yn ogystal â’r rhanddeiliaid yr ydym yn gweithio â nhw. Mae angen i ni sicrhau bod ein blaenoriaethau a’n cynlluniau yn cael eu deall a bydd eich ymatebion i’r arolwg yn helpu i lywio sut y byddwn yn cwblhau ein cynllun. Byddwn yn defnyddio’r ymatebion i’r arolwg byr hwn i asesu a oes angen adolygu ein cynllun drafft ymhellach.
Mae'r ymgynghoriad ar ein cynlluniau arfaethedig bellach wedi cau. Diolch am yr adborth a ddarperir drwy'r ymgynghoriad hwn, bydd hyn yn ein helpu i gwblhau a llunio ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru cyn ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Share
Share on Twitter Share on Facebook