Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi – Ymgynghoriad Cyn Cynllunio

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal ymgynghoriad cyn cynllunio cyhoeddus ar y dyluniadau drafft ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi, a fydd yn rhedeg o 7 Ebrill tan 18 Mai 2026.

Mae llifogydd llanwol wedi effeithio ar y rhan hon o Aberteifi yn y gorffennol, gan effeithio ar gartrefi, busnesau a llwybrau trafnidiaeth ar hyd glan ogleddol Afon Teifi.

Mae tua 90 eiddo mewn perygl arbennig, ac mae cynnydd yn lefelau'r môr, ynghyd â newid hinsawdd, yn golygu bod y bygythiad yn debygol o gynyddu.

Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys wal llifogydd llanwol newydd, gwelliannau ar hyd y Strand, ac ardaloedd newydd o gynefin rhynglanwol. Nod y cynlluniau hyn yw amddiffyn y dref yn y dyfodol wrth wella rhannau o lan yr afon.

Bydd gwella amddiffyniad rhag llifogydd yn helpu i ddiogelu cartrefi, busnesau, mannau cymunedol a gwasanaethau hanfodol, gan hefyd gefnogi gwydnwch hirdymor y dref.

Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle i weld y cynigion cynnar a helpu i lunio'r dyluniad terfynol.

Dyma ddogfennau'r cais cynllunio drafft rydyn ni'n bwriadu eu cyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion i'w cymeradwyo.

  1. Ffurflen gais
  2. Datganiad Cynllunio – Cymraeg
  3. Datganiad Dylunio a Mynediad - Cymraeg
  4. Hysbysiad Safle
  5. Lluniadau Dylunio
  6. Datganiad Seilwaith Gwyrdd ac Uwchgynllun Tirwedd
  7. Datganiad Dull Coedyddiaeth 
  8. Asesiad Canlyniadau Llifogydd
  9. Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
  10. Datganiad Amgylcheddol
  11. Uwchgynllun Amgylcheddol
  12. Ffotogyfosodiadau
  13. Darluniau

Darllenwch a rhowch eich adborth gan ddefnyddio'r ddolen i’r arolwg ar-lein isod neu drwy anfon e-bost atom yn uniongyrchol yn cynllunllanwaberteifi@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae copïau papur o'r dogfennau ar gael yn Llyfrgell Aberteifi, Stryd Morgan
Aberteifi, SA43 1DG.

Sesiwn galw heibio

Bydd sesiwn galw heibio i’r cyhoedd yn Ystafell y Tŵr, Castell Aberteifi, ddydd Mercher 13 Mai, 1-7pm.

Dyma gyfle i gwrdd â thîm y prosiect, gofyn cwestiynau a rhoi adborth ar y gwaith arfaethedig.

Pam y mae eich barn chi yn bwysig

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi'r cyfle i chi helpu i lunio'r cynnig ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanwol Aberteifi. Drwy rannu eich adborth, gallwch ddylanwadu ar sut mae'r prosiect yn cael ei gynllunio a'i gyflwyno i sicrhau ei fod yn amddiffyn y gymuned leol a'r amgylchedd. Bydd eich ymatebion yn cael eu hystyried cyn i gais cynllunio ffurfiol gael ei ystyried gan Gyngor Sir Ceredigion.

Yn cau 18 Mai 2026

Wedi agor 7 Ebr 2026

Digwyddiadau

  • Sesiwn galw heibio

    O 13 Mai 2026 at 13:00 i 13 Mai 2026 at 19:00

    Join us at our public drop-inn session on Wednesday 13 May 2026 to meet the project team, ask questions and provide feedback. The session will be open 1-7pm at Tower Room, Cardigan Castle.
    Your views will help shape the final design.

Ardaloedd

  • Aberteifi/Cardigan-Mwldan
  • Aberteifi/Cardigan-Rhyd-y-Fuwch
  • Aberteifi/Cardigan-Teifi

Cynulleidfaoedd

  • Llifogydd

Diddordebau

  • Llifogydd