Ymgynghoriad ar Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren

Tudalen 1 o 9

Yn cau 21 Mai 2024

Y broses ymgynghori

Rydym yn ymgynghori ynghylch Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a Dogfen Weledigaeth Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren (SVWMS).

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn am chwe wythnos o 9 Ebrill 2024 tan 21 Mai 2024. Ni fydd unrhyw ymatebion a gawn ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu cynnwys yn ein dadansoddiad.

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb arbennig i’r canlynol:

  • Partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau sydd â diddordeb yng Nghynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren
  • Unrhyw un y gallai dulliau rholi dŵr yr Afon Hafren effeithio arno

Dyma’ch cyfle i wneud yn siŵr bod ein Hadroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r ddogfen Weledigaeth yn gweithio i chi. Hoffem glywed unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar y dull a ffefrir, dogfennau i'w cynnwys a newidiadau eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â ni yn: CynllunRheoliDwrDyffrynHafren@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio'r llinell pwnc canlynol “Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd a Dogfen Weledigaeth Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren”

Yr egwyddorion ymgynghori

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn yn unol â'r canllawiau a nodir yn Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth y DU (dolen ar gael yn Saesneg yn unig).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwynion am y ffordd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn, e-bostiwch CynllunRheoliDwrDyffrynHafren@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio “Ymgynghoriad ar Adroddiad Cwmpasu’r Arfarniad o Gynaliadwyedd Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren” fel llinell pwnc y neges.

Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn sicrhau bod yr holl ymatebion ar gael i'r cyhoedd ar ôl yr ymgynghoriad, oni fyddwch wedi gofyn yn benodol i ni gadw eich ymateb yn gyfrinachol.

Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion sy'n ymateb.

Ar ôl yr ymgynghoriad byddwn yn sicrhau bod yr holl sylwadau (ac eithrio gwybodaeth bersonol) ar gael i'r cyhoedd ar ein gwefan Citizen Space. Mae hyn yn cynnwys sylwadau a gafwyd ar-lein a thrwy e-bost, oni fyddwch wedi gofyn yn benodol i ni gadw eich ymateb yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion na data personol, ond byddwn yn cyhoeddi enw’r sefydliad ar gyfer yr ymatebion hynny a wneir ar ran sefydliadau.