Ymgynghoriad Cynllun Llifogydd Llanw Aberteifi: Aliniad Wal ac Ardaloedd Cyhoeddus
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn datblygu cynllun i leihau’r risg o lifogydd llanwol yn ardal y Strand yn Aberteifi. Mae’r ardal hon yn cynnwys tua 90 o gartrefi a busnesau ar lan ogleddol afon Teifi sydd mewn perygl mawr yn ystod llanw stormydd – risg y disgwylir iddi gynyddu gyda’r argyfwng hinsawdd.
Rydym eisiau eich barn ar ran o’r cynllun hwn.
Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn?
Rydym yn gofyn am eich adborth ar un rhan o’r mur llifogydd arfaethedig – yn benodol, y rhan orllewinol rhwng Pont Aberteifi a’r ganolfan ystafelloedd ymolchi.
Hoffem wybod y canlynol:
- Pa un o ddau aliniad arfaethedig ar gyfer y mur rydych chi’n ei ffafrio ar gyfer yr ardal hon
- Eich dewis a’ch syniadau ar gyfer mannau cyhoeddus newydd y gellid eu creu yn dilyn adeiladu’r amddiffynfa rhag llifogydd
Opsiwn 1 | Opsiwn 2 |
---|---|
|
![]() |
Pam mae hyn yn bwysig
Mae Aberteifi wedi profi nifer o lifogydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o’r môr (llifogydd llanwol):
- Yn 2007, cyrhaeddodd y dŵr llifogydd uchder o dros hanner metr mewn mannau
- Yn 2014, effeithwyd ar 29 eiddo ar Stryd y Santes Fair a ffyrdd cyfagos gan lifogydd llanwol
- Bu digwyddiadau llifogydd eraill yn 2008, 2012 a 2014 (dŵr wyneb)
Mae llifogydd yn achosi tarfu a phryder gwirioneddol i bobl a busnesau lleol. Ein nod yw lleihau’r risg a chreu mannau sy’n fuddiol i’r gymuned a’r amgylchedd ar yr un pryd.
Rydym yn disgwyl i’r argyfwng hinsawdd achosi amodau tywydd mwy eithafol a chynyddu’r risg o lifogydd llanwol. Oherwydd hyn, rydym yn dylunio’r mur i ddarparu amddiffyniad lefel uchel sy’n cymryd i ystyriaeth 100 mlynedd o hinsawdd sy’n newid.
Beth sy’n cael ei gynllunio
Rydym wedi cynnig adeiladu mur llifogydd newydd sy’n rhedeg o faes parcio Rhes Gloster ar hyd yr afon hyd at Bont Aberteifi. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn canolbwyntio ar y rhan islaw Castell Aberteifi, yn union i fyny’r afon o hen Bont Aberteifi.
Rydym hefyd yn archwilio sut i wella’r ardal gyhoeddus wrth ymyl y mur, yn agos at y bont – lle y gallai gynnig gwerth cymdeithasol neu ddiwylliannol ochr yn ochr ag amddiffyniad.
Beth mae CNC yn gyfrifol amdano
Mae pedair prif ffynhonnell o lifogydd yn Aberteifi:
- Llifogydd llanwol – o’r môr
- Llifogydd dŵr wyneb – glaw na all ddraenio i ffwrdd
- Llifogydd dŵr budr – o garthffosydd wedi’u rhwystro
- Llifogydd afonydd (afonol) – pan fydd yr afon yn gorlifo
Mae CNC yn gyfrifol am lifogydd llanwol a llifogydd o brif afonydd, felly mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar y risg a berir gan y llanw yn unig yn ardal y Strand gan nad yw’r risg llifogydd afonol yn yr ardal hon mor uchel. Mae asiantaethau eraill yn gyfrifol am y mathau eraill o lifogydd:
- Dŵr Cymru: dŵr budr
- Cyngor Sir Ceredigion: dŵr wyneb ac afonydd llai
Yr hyn rydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn
- Yn 2020, dechreuon ni weithio ar gynllun risg llifogydd llanwol ar gyfer Aberteifi
- Gwnaethon ni nodi tair ardal risg allweddol: y Strand, Mwldan, a’r farchnad wartheg
- Dewiswyd ardal y Strand ar gyfer datblygiad cychwynnol, gan mai dyna lle mae’r risg uchaf
- Gwnaethom gynnal ymgysylltiad cymunedol cynnar yn 2022 a helpodd i lunio’r dyluniad
- Rydym wedi cwblhau dyluniad amlinellol ac rydym nawr yn gweithio ar gynlluniau manwl gyda’r ymgynghorwyr Binnies
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o gwblhau’r dyluniad manwl hwnnw. Bydd eich mewnbwn yn ein helpu i sicrhau bod y cynllun yn gweithio i’r gymuned yn ogystal â lleihau’r risg o lifogydd.
Amserlen:
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’r cyfnod dylunio manwl. Rydym yn disgwyl y bydd y cam hwn wedi’i gwblhau yn gynnar yn 2026.
Gan fod y prosiect hwn wedi’i ddosbarthu fel datblygiad mawr, byddwn hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio statudol cyn cyflwyno cais cynllunio.
Gallwch ddysgu mwy am y broses hon drwy fynd i: Cynllunio datblygiadau mawr: canllawiau ar ymgynghori cyn cyflwyno cais | LLYW.CYMRU
Unwaith y bydd y dyluniad wedi’i gwblhau a’n bod wedi ymgynghori arno, byddwn yn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Ceredigion. Os caiff y cais ei gymeradwyo, byddwn wedyn yn gwneud cais am gyllid i adeiladu’r cynllun.
Os bydd yr holl ganiatadau a chyllid yn cael eu sicrhau fel y cynlluniwyd, gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach yn 2026. Mae’r amserlen hon yn amodol ar newid, yn dibynnu ar gyflymder y broses o sicrhau cymeradwyaethau cynllunio a chyllido.
Dysgwch yn fwy a rhannwch eich barn
Ardaloedd
- Aberteifi/Cardigan-Teifi
Cynulleidfaoedd
- Flooding
Diddordebau
- Flooding
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook