Rheoli Perygl Llifogydd Aberdulais
Trosolwg
Wrth i’r hinsawdd newid, byddwn yn wynebu stormydd a glaw trwm yn amlach, a bydd lefelau’r môr yn codi. Bydd hyn ond yn cynyddu’r perygl o lifogydd afonol ac yn amharu ar gymuned Aberdulais, sydd wedi dioddef llifogydd sawl gwaith yn y 40 mlynedd diwethaf. Roedd yr achlysur diweddaraf yn ystod Storm Dennis yn 2020 pan ddioddefodd 27 o gartrefi a busnesau lifogydd mewnol.
Graddau llifogydd presennol y byd sydd ohoni:
Mesurau lliniaru a ddarperir
Ers digwyddiad 2020, mae rhan o’r llwybr troed ar hyd Afon Nedd wedi’i chodi i leihau’r perygl o lifogydd i’r llwybr ac mae 30 eiddo preswyl wedi cael gosodiadau goddefol i helpu eiddo i wrthsefyll llifogydd.
Model hydrolig newydd
Mae model hydrolig Aberdulais yn edrych yn fanwl ar y perygl llifogydd hirdymor yn yr ardal. Yn ystod 2023 mae’r model wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’n gywir llif a llwybr yr afon yn y gymuned yn ystod llifogydd. Mae’r model wedi’i raddnodi gan ddefnyddio stormydd diweddar.
Asesiad Perygl Llifogydd Cymru:
Deall risg
Mae perygl llifogydd yn gyfuniad o debygolrwydd a chanlyniadau posibl llifogydd. Diben prosiect Aberdulais yw dangos llai o risg i gymuned Aberdulais trwy newid effaith llifogydd afonol o risg uchel i risg ganolig neu o risg ganolig i risg isel.
Fel arfer disgrifir digwyddiad risg uchel fel tebygolrwydd 1% o rywbeth yn digwydd mewn unrhyw un flwyddyn; hynny yw, tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%. Prin yw’r digwyddiad hwn ond ceir cyfraddau llif a lefelau dŵr uchel.
Fel arfer disgrifir digwyddiad risg ganolig fel tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 3.33%. Mae’n bosibl y bydd hwn yn ddigwyddiad llai prin ond lle ceir cyfraddau llif a lefelau dŵr is.
Deall llwybrau llifogydd
Mae’r model newydd yn dangos llwybr y llifogydd a wynebwyd gan y gymuned yn ystod Storm Dennis ac a ystyriwyd yn ddigwyddiad risg isel-canolig (digwyddiad â thebygolrwydd gormodiant blynyddol o 2%). Mae’r detholiad canlynol yn dangos y dilyniant ar gyfer llwybr y llifddwr.
1. Pen y Banc – Afon Nedd
Yn ystod storm, mae’r achosion o dorri’r glannau yn digwydd i fyny’r afon yn Afon Nedd ar y lan ar y chwith ger Camlas Castell-nedd. Mae Afon Dulais yn cyrraedd pen y glannau yn y gweithfeydd tun ger ffordd yr A4109, ac i lawr yr afon mae cwrs golff Castell-nedd yn dechrau llifo o amgylch yr arglawdd ger y maes ymarfer golff.
2. Y gollyngiadau cyntaf o Afon Nedd
Os bydd lefel y dŵr yn parhau i godi yn ystod yr awr a hanner nesaf mae basn Camlas Castell-nedd yn gorlifo tuag at y draphont ddŵr ac mae lefel Afon Dulais yn dechrau gorlifo dros ddec ffordd yr A4109.
Mae Afon Nedd yn gorlifo dros y lan ar y dde tra bod y lan ar y chwith yn gollwng i fyny’r afon i Heol Dulais Fach. Ar y pwynt hwn mae Afon Nedd hefyd yn gollwng yn Calor Gas ac mae’r maes ymarfer golff bron yn gyfan gwbl dan ddŵr.
3. Y llif cyntaf i Gamlas Tennant
Yn ystod digwyddiad risg ganolig, rhyw ddwy awr ar ôl dechrau’r digwyddiad mae’r eiddo cyntaf yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan lifddwr ger y gweithfeydd tun wrth i lefel y dŵr fod yn uwch na ffordd yr A4109.
Mae’r lan ar y dde i Gamlas Castell-nedd yn gollwng i gyfeiriad ochr ddwyreiniol safle Calor Gas ac mae bwa’r rheilffordd rhwng basn y gamlas a Heol Dulais Fach yn llifo.
4. Gollyngiadau Camlas Tennant
Wrth i gyfaint a chyflymder yr afon gynyddu mae Camlas Tennant yn darparu ar gyfer llif y glannau ac yn gorlifo dros y lan ar y chwith ar ddiwedd Ochr y Gamlas.
Bellach mae gan Calor Gas ddŵr yn llifo drwy’r safle wrth iddo barhau i dderbyn llifddwr o’r lan ar y dde i Afon Nedd i fyny’r afon o bont Dulais Fach a bwa’r rheilffordd a’r lan ar y dde i Gamlas Castell-nedd.
Mae Afon Nedd yn torri’r lan ar y dde yn Heol yr Orsaf ac yn dechrau llifo tuag at dafarn y Lleng Brydeinig Frenhinol.
5. Mae’r eiddo yn Ochr y Gamlas bellach o dan ddŵr
Os bydd y digwyddiad yn parhau i ddatblygu, rhyw ddwy awr a hanner ar ôl i’r afon dorri ei glannau i fyny’r afon, mae eiddo yn Ochr y Gamlas yn dechrau dioddef llifogydd. Mae’r prif lif yn mynd i mewn i Ochr y Gamlas trwy Heol yr Orsaf gan fod cyffordd Heol Dulais Fach/Heol yr Orsaf dan ddŵr, sy’n golygu bod Ochr y Gamlas i bob pwrpas yn cael ei dorri i ffwrdd.
Camau’r prosiect
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno fesul cam a bydd yn dilyn proses arfarnu a gwerthuso Trysorlys Ei Fawrhydi. Mae’r prosiect ar hyn o bryd wedi cyrraedd Cam 2.
Cam 1 - Achos Busnes Strategol
Nodwyd yn y cam hwn yr angen am fodel hydrolig newydd ar gyfer ardal yr astudiaeth i adlewyrchu’n gywir effaith asedau’r seilwaith yn yr ardal. Nodwyd rhestr hir o opsiynau hefyd ond ni ellid eu hasesu’n gywir nes bod y model wedi’i gwblhau.
Cam 2 - Achos Busnes Amlinellol
Byddwn yn gwerthuso manteision a risgiau pob opsiwn drwy ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost.
Bydd angen i ni hefyd werthuso’r opsiynau o wneud dim a chynnal y lefel bresennol o reoli perygl llifogydd trwy ein rhaglen cynnal a chadw.
Bydd yr holl opsiynau dichonadwy yn cael eu rhoi ar restr fer ac yn cael eu harchwilio ymhellach yn ystod y cam achos busnes amlinellol.
Os ydyw’n ymarferol, byddwn yn argymell yr opsiwn a ffefrir ac yn gofyn am adborth gan y gymuned leol. Os cytunir arno, byddwn yn argymell ei gyflwyno o fewn ein hachos busnes llawn.
Opsiynau i reoli’r risg
Mae’r rhestr ganlynol o opsiynau rheoli llifogydd a nodwyd ar gyfer Aberdulais wedi’u profi gyda’r model newydd.
- Tynnu’r draphont ddŵr i ffwrdd yn llwyr – cynyddu cludiad dŵr yn y sianel trwy gael gwared ar y draphont ddŵr yn llwyr
- Tynnu’r draphont ddŵr i ffwrdd yn rhannol – cynyddu cludiad dŵr yn y sianel trwy dynnu’r draphont ddŵr i ffwrdd yn rhannol
- Wal gorlif/codi glannau Afon Nedd – codi cloddiau yn ardal yr astudiaeth i un safon uchel o warchodaeth
- Gwaredu cored – cynyddu cludiad dŵr yn y sianel drwy gael gwared ar y gored
- Wal yn Ochr y Gamlas a chludo’r llifddwr yn y gamlas – adeiladu wal o flaen teras Ochr y Gamlas, gyda Chamlas Tennant yn derbyn llif gormodol o Afon Nedd
- Storio i fyny’r afon – cronni dŵr i fyny’r afon i reoli llif brig
Digwyddiad risg uchel
Mae’r model yn dangos, yn ystod digwyddiad risg uchel (tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%) nad yw’n bosibl gwella effaith llifddwr ar barth llifogydd heb achosi niwed i barth cyfagos
Dyfnder Mwyaf y Dŵr – Presennol ac Opsiynau 1-4 (tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%)
Newid Dyfnder – Presennol ac Opsiynau 1-4 (tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%)
Digwyddiad risg ganolig
Gall fod yn bosibl lleihau effaith llifogydd o fewn y gymuned yn ystod digwyddiad risg is.
Dyfnder Mwyaf y Dŵr – Presennol ac Opsiynau 1-4 (tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%)
Newid Dyfnder – Presennol ac Opsiynau 1-4 (tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 3.33%)
Opsiwn 5: Wal ar hyd Ochr y Gamlas
Yn ogystal â’r uchod, rydym hefyd wedi modelu effaith addasu’r wal lifogydd bresennol ar hyd Afon Nedd a darparu amddiffynfa newydd o flaen y tai ar hyd Ochr y Gamlas. Dangosodd y canlyniadau leihad yn nyfnder llifogydd i bob eiddo ledled ardal yr astudiaeth ac nad oedd y cartrefi ar hyd Ochr y Gamlas yn parhau i gael eu heffeithio yn ystod digwyddiad risg ganolig â thebygolrwydd gormodiant blynyddol o 3.33%.
Fodd bynnag, arweiniodd y wal at gynnydd mewn dyfnder llifddwr a difrod i’r tai yn ystod digwyddiad risg uchel â thebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% gan nad yw’r dŵr yn gallu llifo i ffwrdd mor gyflym pan fydd lefelau’n dechrau gostwng.
Opsiwn 6: Storio i fyny’r afon
Yn ystod digwyddiad â thebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% rydym yn gwybod y byddai angen cynhwysedd storio rhwng 3 milimetr ciwbig a 10 milimetr ciwbig – mae’r opsiwn wedi’i brofi o fewn y model ond mae’r canlyniadau’n dangos nad yw hyn yn hyfyw oherwydd y niwed a’r effaith ar ddefnydd tir.
Meithrin cydnerthedd cymunedol
Mae’n bwysig cydnabod ein bod yn annhebygol o allu dileu perygl llifogydd i gymuned Aberdulais yn gyfan gwbl.
Bydd angen inni archwilio cyfuniad o fesurau lliniaru i helpu i feithrin cydnerthedd; i helpu’r gymuned i ddychwelyd i’w cartrefi a’u busnesau yn gyflymach ar ôl digwyddiad ac i sicrhau bod pobl yn gwybod am y camau y gallant eu cymryd eu hunain i leihau effaith llifogydd.
Mae mesurau ychwanegol yn debygol o ddefnyddio dull dalgylch cyfan a gallant gynnwys dulliau gwell o rybuddio a hysbysu, atebion seiliedig ar natur yn ogystal ag amddiffynfeydd peirianyddol.
Digwyddiad galw heibio rheoli perygl llifogydd yn Aberdulais
Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus ar Faes Ymarfer Golff Glan-yr-Afon ddydd Iau, 7 Rhagfyr, i amlinellu ei ganfyddiadau a thrafod opsiynau gyda’r gymuned.
Cafwyd presenoldeb da iawn yn y digwyddiad a chafodd aelodau’r gymuned gyfle i gwrdd â thîm y prosiect yn ogystal â Binnies, yr ymgynghorydd dylunio.
Cyflwynwyd darnau o’r model hydrolig newydd yn y digwyddiad gan alluogi trafodaethau am sylfaen y model a chanlyniadau’r opsiynau lliniaru.
Beth nesaf?
Bydd tîm y prosiect yn parhau i gysylltu â’r gymuned bob tro y bydd angen gwneud penderfyniad.
Yn dilyn rhyddhau’r model hydrolig, rydym yn gofyn i’r gymuned adolygu’r opsiynau lliniaru perygl llifogydd a gyflwynwyd a darparu adborth. Bydd y prosiect yn ystyried yr adborth hwn ar gyfer y cam nesaf.
Bydd diweddariadau prosiect yn y dyfodol yn cael eu darparu yma ond cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.
Beth sy'n digwydd nesaf
Bydd tîm y prosiect yn parhau i gysylltu â'r gymuned ar bob cam penderfynu.
Yn dilyn cyhoeddi’r model hydrolig, rydym yn gofyn i’r gymuned edrych ar yr opsiynau lliniaru perygl llifogydd a gyflwynwyd a darparu adborth y bydd y prosiect yn ei ystyried ar gyfer y cam nesaf.
Bydd diweddariadau’r prosiect yn y dyfodol yn cael eu darparu yma ond mae croeso i chi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun.
Ardaloedd
- Aberdulais
Cynulleidfaoedd
- Flooding
Diddordebau
- Flooding
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook