Pwrpas Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod ein hadnoddau naturiol a’n hamgylchedd yn cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio mewn modd cynaliadwy sy’n fuddiol i bobl, i'r amgylchedd ac i'r economi.
Mae ein cylch gwaith yn eang ac yn cynnwys darparu ystod o wasanaethau rheoleiddiol. Yn unol â gofynion y llywodraeth, mae'n rhaid i ni adennill costau’r gwasanaethau rheoleiddio hyn oddi wrth y rhai sy’n cael eu rheoleiddio gennym, yn hytrach na thrwy drethiant cyffredinol. Mae'r ffioedd a thaliadau sy'n cael eu codi i gwmpasu’r costau rheoleiddiol yn gyfrifol am tua 18% o gyfanswm cyllid 2021/22 Cyfoeth Naturiol Cymru, sef £202 miliwn.
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein Cynlluniau Ffioedd a Thaliadau ar sail flynyddol er mwyn sicrhau ein bod yn adennill ein costau ac yn bodloni unrhyw ofynion technegol. Rydym hefyd yn adolygu'r ffordd rydym yn gweithio, gan sicrhau bod ein prosesau yn effeithlon ac effeithiol, i gadw taliadau mor isel â phosibl.
Wrth osod ffioedd a thaliadau, rydym yn dilyn y gofynion a nodir yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', gan sicrhau mai dim ond costau cymwys sy'n cael eu cynnwys o fewn cyfrifiadau. Mae ein cynlluniau codi tâl cyfredol ar gael ar ein gwefan.
Rydym yn cyfarfod yn aml ac yn trafod ein cynigion gyda'r Grŵp Ymgynghorol Talwyr Taliadau, sy'n cynnwys rhanddeiliaid amrywiol o sefydliadau masnach a chynrychioliadol. Mae hyn yn ein helpu i ddatblygu ein strategaeth a chynlluniau codi tâl ar gyfer y dyfodol. Hoffem ddiolch i'r rhai yn y grŵp am eu hymrwymiad i gynrychioli safbwyntiau eu haelodau ac am barhau i weithio gyda ni yn y ffordd hon, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydym yn adolygu aelodaeth y grŵp hwn yn flynyddol er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym aelodau perthnasol i'r newidiadau arfaethedig. Mae rhestr o'r aelodaeth bresennol wedi'i hatodi yn Atodiad 1.
Yn ogystal â dilyn ein hegwyddorion rheoleiddio y Cod Rheoleiddwyr a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, rydym yn ymrwymedig i ddilyn yr egwyddorion codi tâl canlynol:
Rydym yn parhau i fonitro'r effaith ar ein taliadau yn dilyn ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd (UE), nawr ac yn y dyfodol, yn enwedig mewn meysydd ble mae deddfwriaeth yr UE yn penderfynu neu’n dylanwadu ar ein rheoleiddio.
Rydym eisiau eich barn a'ch sylwadau ar ein cynigion ar gyfer ein taliadau rheoleiddiol o 1 Ebrill 2022, fel y nodir yn adran 3 isod. Byddwn yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau terfynol, yr ydym yn bwriadu eu gweithredu o 1 Ebrill 2022, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.
Share
Share on Twitter Share on Facebook