Rheolaethau newydd ar bysgota â rhwydi ar Afon Dyfrdwy (Cymru)
Trosolwg
English page can be seen here.
Rheolaethau newydd ar bysgota â rhwydi ar afon Dyfrdwy
Rydym yn ymgynghori ar gynnig ar gyfer rheoliadau pysgota newydd ar gyfer pysgodfeydd rhwydi afon Dyfrdwy ac aber afon Dyfrdwy i helpu i ddiogelu’r stociau o eogiaid a brithyllod y môr.
Mae’r gorchymyn cyfyngu ar rwydi presennol ar afon Dyfrdwy ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr wedi bod yn ei le ers deng mlynedd. Nid oes unrhyw drwyddedau rhwydi wedi’u rhoi o dan y gorchymyn hwn ers 2009, sy’n golygu nad oes unrhyw bysgota â rhwydi wedi digwydd am y 15 mlynedd diwethaf. Caiff y gorchymyn ei adnewyddu bob deg mlynedd a disgwylir ei adnewyddu ym mis Mehefin 2025.
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae niferoedd eogiaid a brithyllod y môr yn afon Dyfrdwy wedi gostwng, gyda llai o bysgod llawndwf yn dychwelyd i’r afon. Mae hyn wedi arwain at boblogaethau llai a llai gwydn sy'n fwy agored i weithgareddau dynol a phwysau amgylcheddol.
Ein prif flaenoriaeth yw gwarchod y pysgod Cymreig eiconig hyn fel y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i’w mwynhau.
Ar beth yr ydym yn ymgynghori?
Mae hwn yn ymgynghoriad statudol ar y newid arfaethedig i reolaeth y bysgodfa rhwydi ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yn afon Dyfrdwy ac aber afon Dyfrdwy yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhedeg am 12 wythnos o 18 Rhagfyr 2024 tan 12 Mawrth 2025.
Noder: Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyfeirio at afon Dyfrdwy yng Nghymru, a gwnaed ymatebion i’r ymgynghoriad i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar wahân ar ei chynigion ar gyfer afon Dyfrdwy yn Lloegr.
Ein cynigion
Rydym yn cynnig is-ddeddfau newydd ar gyfer diogelu eogiaid a brithyllod y môr yn afon Dyfrdwy.
Byddai’r is-ddeddfau newydd arfaethedig yn cau’r bysgodfa rhwydi ar afon Dyfrdwy, yn lle rheoli’r stociau drwy orchymyn cyfyngu ar rwydi.
Cwestiynau cyffredin
Beth yw cylch bywyd eogiaid a brithyllod y môr?
Eogiaid: Mae eogiaid (Salmo salar) yn dechrau eu bywyd mewn llawer o afonydd Cymru. Mae wyau'n cael eu dodwy a'u ffrwythloni (silio) yn yr hydref a'r gaeaf. Gall eog benyw ddodwy tua 1,000 i 2,000 o wyau wedi'u ffrwythloni (ofa) fesul cilogram o bwysau ei chorff. Mae wyau'n cael eu dyddodi mewn nyth (cladd) yng ngwely graean afonydd.
Y gwanwyn canlynol bydd yr wyau hyn yn deor. Mae'r eogiaid ifanc yn dod allan o'r gro fel silod, pan fyddant yn dechrau bwydo. Mae'r eogiaid ifanc hyn (a elwir yn bariaid ar ôl un mlwydd oed) yn aros yn yr afon am hyd at dair blynedd, pan fydd eu lliw, ymddygiad a chyrff yn newid wrth iddynt ddod yn leisiaid. Mae'r newidiadau hyn yn caniatáu iddynt addasu i'w bywyd mewn dŵr halen. Mae’r gleisiaid yn ymfudo o'r afonydd i'r môr ac, ar ôl dwy neu dair blynedd yn y môr, dychwelant i'r afonydd y cawsant eu geni ynddynt, yn oedolion yn barod i silio.
Mae'r rhan fwyaf o eogiaid yn marw ar ôl silio, ond gall ychydig bach ddychwelyd i'r môr a silio eto.
Brithyllod: Mae brithyllod a brithyllod y môr yn rhan o’r un rhywogaeth (Salmo trutta). Mae brithyllod y môr yn mynd i'r môr i fwydo a thyfu cyn dychwelyd i afonydd i fridio. Yng Nghymru, mae brithyllod y môr hefyd yn cael eu hadnabod fel sewin. Brithyllod yw’r enw ar y pysgod sy'n aros yn yr afonydd ar hyd eu hoes. Mae'r amgylchedd a genynnau yn chwarae rhan o ran a yw brithyll yn troi'n frithyll y môr ai peidio.
Yn debyg i’r eog, mae wyau'n cael eu dodwy a'u ffrwythloni yn yr hydref a'r gaeaf. Gall brithyll benyw ddodwy tua 800 a 1,600 o wyau fesul cilogram o bwysau ei chorff. Mae wyau'n cael eu dyddodi mewn nyth yng ngwely graean nentydd ac afonydd. Bydd wyau'n deor yn y gwanwyn ac yn dod allan o'r graean. Bydd brithyllod ifanc yn tyfu am tua dwy flynedd cyn iddynt naill ai newid i fod yn frithyllod y môr trwy droi’n leisiaid (fel eogiaid) a mudo i'r môr, neu ddewis aros mewn afonydd, lle maent yn bwydo ac yn tyfu fel brithyllod.
Yn gyffredinol, mae gleisiaid brithyllod môr yn mudo i'r môr yn y gwanwyn. Gallant aros yn y môr am rai misoedd cyn i rai ddychwelyd i’r afonydd y cawsant eu geni ynddynt (gelwir y rhain yn ‘whitling’), neu gallant aros yn y môr am flwyddyn. Nid yw'r rhan fwyaf o frithyllod y môr yn marw ar ôl silio, ac mae tua 75% yn dychwelyd i'r môr i fwydo a silio eto, weithiau dros sawl blwyddyn.
Beth yw stoc o bysgod?
Stoc o bysgod yw grŵp o bysgod sydd o'r un rhywogaeth, yn byw yn yr un ardal ddaearyddol ac yn rhyngfridio, y gellir eu cynaeafu gan bysgodfa.
Pam fod stociau eogiaid a brithyllod y môr yn bwysig yn afon Dyfrdwy?
Mae eogiaid a brithyllod y môr wedi’u dosbarthu’n eang o amgylch Cymru ac mae afon Dyfrdwy yn ‘brif afon eogiaid’ ac yn ‘brif afon brithyllod y môr’. Mae eogiaid hefyd yn rhywogaeth ddynodedig ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid.
Mae eogiaid a brithyllod y môr wedi'u rhestru fel rhywogaethau â blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig ac, ar hyn o bryd, yn cael eu hystyried fel bod dan y bygythiad mwyaf ac yn gofyn am weithredu cadwraethol.
Pan fyddant yn gynaliadwy, mae stociau eogiaid a brithyllod y môr yn cynnal pysgodfeydd pwysig yng Nghymru.
Pam fod niferoedd eogiaid a brithyllod y môr wedi gostwng?
Mae llai o bysgod llawndwf yn dychwelyd i afon Dyfrdwy i fridio a silio ac mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at hyn, gan gynnwys:
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eu cynefinoedd morol a dŵr croyw. Gall hyn gyfrannu at gyfraddau goroesi llai yn y môr, trwy newidiadau mewn ffynonellau bwyd. Gall tymheredd uwch mewn dŵr croyw gyfrannu at straen ychwanegol ar eu systemau mewnol ac effeithio ar eu hymdrechion i fridio.
Mae gweithgareddau dynol, megis amaethyddiaeth, mwy o drefoli ac echdynnu dŵr, i gyd yn newid ansawdd a maint y dŵr sydd ar gael ac yn lleihau'r cynefin sydd ar gael i bysgod llawn dwf ac ifanc.
Mae rhwystrau o fewn afonydd fel coredau ac argaeau yn atal pysgod rhag cyrraedd ardaloedd i fyny'r afon lle gallant silio a bridio.
Mae ysglyfaethu yn ffenomen naturiol ond gellir ei gynyddu lle mae rhwystrau i fudo neu gynefinoedd gwael. Pan fo poblogaethau'n isel, gall hyn ddod yn fwy o bryder.
Gor-ecsbloetio, pan fydd gormod o bysgod yn cael eu tynnu o boblogaeth.
Beth yw’r ‘Cynllun Gweithredu ar gyfer Eogiaid a Brithyllod y Môr’?
Mae’r cynllun hwn yn ymrwymiad Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu ac adfer poblogaethau eogiaid a brithyllod y môr yn afonydd Cymru. Mae'n nodi materion a chamau gweithredu y gallwn eu cymryd.
Mae angen cynefin dŵr croyw o ansawdd uchel ar y ddwy rywogaeth i fyw. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd pwysig ar gyfer hamdden a mynediad i’n ‘mannau glas’.
Darllenwch 'Cynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod môr yng Nghymru 2020'
Mae poblogaethau eogiaid a brithyllod y môr Gogledd yr Iwerydd ac Ewrop wedi gostwng dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Y ‘cynllun gweithredu’ yw ein dealltwriaeth ar y cyd (Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, partneriaid a rhanddeiliaid) o’r materion cymhleth sy’n wynebu poblogaethau a difrifoldeb y sefyllfa. Dyna sut, gyda'n gilydd, y byddwn yn cymryd camau i newid y rhain.
A oes digon o stociau eogiaid a brithyllod y môr yn afon Dyfrdwy i gynnal y bysgodfa rhwydi?
Ar hyn o bryd, mae stociau eogiaid a brithyllod y môr ‘mewn perygl’ ac nid ydynt yn bodloni eu terfynau cadwraeth na’u hamcanion rheoli yn afon Dyfrdwy. Mae llai o bysgod llawndwf yn dychwelyd i silio ac mae hyn yn golygu y bydd llai o wyau yn cael eu dodwy. Rhagwelir y bydd stociau eogiaid a brithyllod y môr yn parhau i fod ‘mewn perygl’ tan 2028. Mae hyn yn golygu nad oes digon o bysgod i gynnal y boblogaeth naturiol yn yr afon ac yn dal i ganiatáu i bysgod gael eu cynaeafu. Pe bai pysgod yn cael eu cynaeafu â rhwydi, efallai na fydd poblogaeth eogiaid neu frithyllod y môr yn yr afon Dyfrdwy yn y dyfodol.
Pam ydych chi'n bwriadu cau'r bysgodfa rhwydi?
Rydym yn cynnig cau’r bysgodfa rhwydi er mwyn diogelu stociau eogiaid a brithyllod y môr sy’n agored i niwed. Mae’r bysgodfa rhwydi ar afon Dyfrdwy i bob pwrpas wedi bod ar gau ers 15 mlynedd. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae stociau eogiaid a brithyllod y môr wedi gostwng ymhellach. Ystyrir bellach fod yr eog ‘mewn perygl’ gan restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Mae pwysau cynyddol ar boblogaethau pysgod ac mae eogiaid a brithyllod y môr yn cael eu heffeithio yn yr amgylcheddau morol a dŵr croyw. Gyda'r ansicrwydd a wynebir gan y stociau hyn, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni ddarparu amddiffyniad hirdymor ar gyfer eu cadwraeth a chenedlaethau'r dyfodol.
Sut bydd hyn yn digwydd?
Bydd y bysgodfa rhwydi yn cael ei chau gan ddefnyddio is-ddeddfau. Mae hyn yn benodol i afon Dyfrdwy (Cymru). Gellir dod o hyd i'r is-ddeddfau hyn trwy ddolen ar dudalennau’r ymgynghoriad.
Os caiff yr is-ddeddfau hyn eu cadarnhau, byddant yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2025.
Pam bod eich barn yn bwysig
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r asiantaeth arweiniol ar gyfer rheoli stociau eogiaid a brithyllod y môr.
Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn am ein newidiadau arfaethedig i reoli a rheoleiddio pysgodfa rhwydi afon Dyfrdwy (Cymru), i ddiogelu stociau eogiaid a brithyllod y môr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
A allwch chi ddarparu unrhyw dystiolaeth sy'n berthnasol yn eich barn chi i gefnogi unrhyw sylwadau a wnewch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn neu os hoffech ddarparu tystiolaeth bellach i gefnogi eich ymateb, cysylltwch â ni yn fisheries.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a chynnwys eich dull adnabod unigryw (a ddarperir ar ddiwedd yr ymgynghoriad).
Rhowch eich sylwadau i ni
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Rivers
- Anglers
Diddordebau
- Customer Journey Mapping
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook