Rhaglen Dalgylch Arddangos Teifi

Yn cau 1 Tach 2032

Wedi agor 1 Tach 2023

Trosolwg

Prosiect ar y cyd yw Rhaglen Dalgylch Arddangos Teifi a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Afon Teifi a’i dalgylch o ran ansawdd dŵr. Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd bartneriaeth o dros 20 o sefydliadau allweddol sydd â’r nod o ddod o hyd i atebion amgylcheddol arloesol.

Byddwn yn ceisio gwella ansawdd dŵr, gwella gwydnwch yr afon yn wyneb newid hinsawdd a rhoi hwb i’w bioamrywiaeth drwy archwilio ffyrdd newydd o gydweithio. Drwy ddysgu o’r llwyddiannau a welir yn nalgylch Afon Teifi, ein bwriadu yw ehangu cwmpas y dull i’w roi ar waith mewn systemau afonydd eraill ledled Cymru.

Newyddion

Mynd i'r afael â'r Afon Teifi – tirfeddianwyr, diwydiannau a rheoleiddwyr yn ymuno ar gyfer prosiect peilot ‘dalgylch arddangos’

Digwyddiad Hacathon ar drywydd atebion arloesol i broblemau llygredd Afon Teifi

Pam Afon Teifi?

Mae Afon Teifi yn un o’n naw o afonydd yng Nghymru sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Fe’i dynodwyd yn ACA am y rhywogaethau prin y mae’n eu cynnal, gan gynnwys llysywod pendoll, eogiaid, dyfrgwn a llyriad-y-dŵr arnofiol.

Mae hi’n ymdroelli 122km trwy dri awdurdod lleol – Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro – yn ogystal â thrwy Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Yn anffodus, mae rhannau o ddalgylch Afon Teifi mewn cyflwr anffafriol, ac mae ymchwil diweddar wedi dangos bod niferoedd pysgod salmonid yn dirywio’n gyflym. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n achosi’r problemau hyn ar gael yn Adolygiad Tystiolaeth Prosiect Arddangos Teifi.

Er gwaethaf y problemau hyn, mae dalgylch Afon Teifi yn cael ei gydnabod fel un o’r dalgylchoedd yng Nghymru lle mae’r cyfle gorau i wneud gwelliannau yn yr amgylchedd dŵr sydd hefyd yn gwella lles cymunedau Cymru. Drwy gyfrwng Prosiect Arddangos Teifi bydd y cyfleoedd hyn yn cael eu gwireddu a’u defnyddio i wella afonydd ledled Cymru.

Sefydliadau Allweddol

 

Ein Gwaith Presennol

Ar hyn o bryd mae Prosiect Arddangos Teifi yn rhan o nifer o fentrau i wella dalgylch Afon Teifi (y sefydliad(au) arweiniol mewn cromfachau):

  • Cynllun Adfer Dalgylch Teifi (Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • Cynllun Peilot Fferm Tenant (Cyngor Sir Ceredigion)
  • Cynllun Peilot Datrysiadau Seiliedig ar Natur (Cyngor Sir Ceredigion)
  • Cynllun peilot data gweithfeydd trin preifat (Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • Gweithredu’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol (AMP8) (Dŵr Cymru)

Teifi Fyw – Pobl a Byd Natur Gyda’n Gilydd

Ochr yn ochr â’r camau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn nalgylch afon Teifi, mae grŵp craidd o sefydliadau o bartneriaeth Dalgylch Arddangos Teifi yn gwneud cais i gynllun Grant Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i ariannu menter drawsnewidiol: Teifi Fyw.

Bydd y bartneriaeth yn cael ei chefnogi gan amrywiaeth o randdeiliaid eraill, gan gynnwys Mentrau cymunedol; ysgolion lleol, prifysgolion a grwpiau ffermio.

Drwy gyfrwng cyfres o ymyriadau integredig ac wedi’u targedu ar raddfa tirwedd -yn cwmpasu’r dalgylch cyfan o ffynhonnell yr afon yn Llyn Teifi i lawr i’r môr ym Mae Ceredigion – byddwn yn:

  • lleihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd dŵr a achosir gan fwyngloddiau hanesyddol, afonydd a gorlifdiroedd wedi’u diraddio, a llygredd o ddefnydd tir gwledig.
  • monitro a chofnodi newid drwy gyfrwng dulliau cyfranogol sy’n cynnwys busnesau a chymunedau lleol, a chreu dalgylch sy’n barod ac yn groesawgar i ffrydiau ariannu sy’n cefnogi busnesau gwledig.
  • cydweithio â chymunedau i wella mynediad at fannau awyr agored, gan wella’r cysylltiad â byd natur a dathlu treftadaeth ddiwylliannol er budd pawb.

Gweithgareddau ac Adroddiadau

Adolygiad Tystiolaeth Prosiect Arddangos Teifi

Dangosfwrdd Ansawdd Dwr CNC ar gyfer Sondiau Afon Teifi

Gweithgareddau ac adroddiadau sefydliadau partner

Cynllun y Bobl ar gyfer y Teifi - Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

Dangosfwrdd Monitro Maethynnau Teifi - Cyngor Sir Ceredigion

 

Cysylltu

jon.goldsworthy@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Unrhyw un o unrhyw gefndir

Diddordebau

  • water planning
  • river basin planning
  • River restoration
  • Water Resources