Mae “Asesiad o stoc eogiaid a brithyllod y môr yn afon Hafren ac adolygiad o’r rheoliadau pysgodfeydd: Achos technegol ar gyfer is-ddeddfau pysgodfeydd” yn esbonio pam ein bod yn ymgynghori ar IS-DDEDDFAU GWIALEN A LEIN AFON HAFREN (EOGIAID A BRITHYLLOD Y MÔR) (CYMRU) 2021 - cyfres wedi’i diweddaru o is-ddeddfau i gyfyngu ar gorbysgota eogiaid a brithyllod y môr gan y pysgodfeydd gwialen er mwyn cadw stociau a sicrhau cynaliadwyedd pysgodfa eogiaid afon Hafren yn y dyfodol.
Rydyn ni'n ymgynghori ar y rheoliadau newydd arfaethedig (is-ddeddfau) ar gyfer y bysgodfa wialen: dal a rhyddhau eogiaid a brithyllod y môr a chyfyngiadau dull er mwyn sicrhau bod pysgod sy'n cael eu rhyddhau yn cael y siawns orau i oroesi a'r cyfle i gyfrannu at stociau silio. Nod yr is-ddeddfau hyn yw diogelu stociau eogiaid a brithyllod y môr yn afon Hafren am y deng mlynedd nesaf.
Rydym yn cydnabod yr angen am ddull cwbl integredig o weithredu ar gyfer ein hafonydd ffiniol, ac rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol.
O dan gytundeb rhwng CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn arwain ar reoli materion sy'n ymwneud â physgod mudol yn nalgylch trawsffiniol afon Hafren (fel y mae CNC ar gyfer afonydd trawsffiniol Gwy a Dyfrdwy). Mae hyn er mwyn sicrhau dull integredig ym mhob afon.
Mae pryderon parhaus ynghylch niferoedd yr eogiaid sy'n dychwelyd i'n hafonydd. Mae stociau wedi cyrraedd eu niferoedd isaf erioed yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae dyfodol llawer o bysgodfeydd dan fygythiad yn awr. Yn syml, nid oes digon o bysgod aeddfed yn silio i gynnal stociau ar eu lefelau presennol nac i atal dirywiad pellach.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, mae CNC yn cynnig nifer o gamau gweithredu a fydd yn helpu i wrthdroi'r duedd a sicrhau bod y rhywogaeth eiconig hon yn gallu parhau i chwarae rhan bwysig yn ein hamgylchedd a'n diwylliant.
Bydd yr is-ddeddfau yn berthnasol i ddalgylch afon Hafren (yng Nghymru yn unig) ac yn nodi'r canlynol:
Nod yr is-ddeddfau yw gwarchod stociau sydd mewn perygl wrth gynnal llawer o'r manteision pwysig sy'n gysylltiedig â'r pysgodfeydd.
Beth rydym yn ymgynghori arno?
Dyma ymgynghoriad statudol ar reoliadau arfaethedig newydd sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu stociau eogiaid a brithyllod y môr yn afon Hafren yng Nghymru:
(i) Is-ddeddfau Gwialen a Lein afon Hafren (Eogiaid a Brithyllod y Môr) (Cymru) 2021;
Cynhelir yr ymgynghoriad am 12 wythnos hyd at 11 Hydref 2021.
Sylwer bod yr ymgynghoriad hwn yn cyfeirio at afon Hafren yng Nghymru'n unig, gydag ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyfeirio i CNC.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymgynghori ar wahân ar eu cynigion ar gyfer afon Hafren yn Lloegr, yn gynharach yn 2021 Gorchymyn ac Is-ddeddfau Cyfyngu ar Rwydi afon Hafren 2021 - Asiantaeth yr Amgylchedd – Citizen Space (environment-agency.gov.uk).
Ein cynigion
Rydym am dderbyn sylwadau ar is-ddeddfau arfaethedig newydd ar gyfer pysgota am eogiaid a brithyllod y môr â gwialen ar afon Hafren yng Nghymru. Byddai'r is-ddeddfau hyn, os cânt eu cadarnhau, ar waith tan 31 Rhagfyr 2031.
Dyma'r opsiwn rheoli pysgodfa sy’n cael ei ffafrio ar gyfer pysgodfeydd gwialen afon Hafren:
Darllenwch Crynodeb Gweithredol - Cynigion Is-ddeddfau Afon Hafren (yng Nghymru)
Darllenwch "Severn Byelaw review - Technical Case Feb 2021" (Saesneg yn unig)
Darllenwch "Severn Byelaw review - Technical Case Appendices Feb 2021" (Saesneg yn unig)
Rydym am dderbyn eich barn am ein cynigion a hefyd unrhyw dystiolaeth berthnasol a allai gefnogi angen i ddiwygio'r mesurau arfaethedig yr ydym yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i ddiogelu stociau eogiaid a brithyllod y môr.
Rydym am glywed eich syniadau am ein hasesiadau o stociau eogiaid a brithyllod y môr, statws stociau eogiaid a'n rheoliadau arfaethedig i ddiogelu stociau. Dylech ddarparu tystiolaeth rydych yn credu sy'n berthnasol i gyfiawnhau unrhyw sylwadau rydych yn eu cyflwyno, ac a fydd o bosibl yn cyfiawnhau'r angen i ddiwygio, cryfhau neu ymlacio'r mesurau arfaethedig.
Os ydych yn dymuno darparu rhagor o dystiolaeth i gefnogi eich ymateb, e-bostiwch fisheries.wales@naturalresourceswales.gov.uk a chynnwys eich rhif adnabod unigryw (a nodir ar ddiwedd yr ymgynghoriad).
Share
Share on Twitter Share on Facebook