Mae disgwyl i’r is-ddeddfau cyfredol sy'n gweithredu dal a rhyddhau ar Afon Wysg yn achos eogiaid, a hynny bob amser, ac yn achos unrhyw frithyll môr a ddaliwyd cyn 1 Mai; ac ar Afon Gwy yn achos yr holl eogiaid a brithyllod môr, a hynny bob amser, ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2021. Gallai hyn ddod i ben ag unrhyw ofyniad i ryddhau eog a brithyll môr a ddaliwyd ar wialen yn y ddwy afon (ac eithrio brithyll y môr sy’n fwy na 60cm yn Afon Wysg).
Mae angen adnewyddu a diweddaru'r is-ddeddfau hyn er mwyn sicrhau bod stociau'n parhau i gael eu diogelu'n ddigonol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y pysgodfeydd hynny sy'n parhau i ecsbloetio'r stociau hyn yn gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy er mwyn cefnogi adfer stoc cyn gynted â phosibl.
Mae'r asesiad diweddaraf o'n stociau eogiaid yn dangos bod stoc Afon Wysg ar hyn o bryd ‘Mewn Perygl yn ôl pob tebyg’ a bod stoc Afon Gwy 'Mewn Perygl' o fethu â chyflawni eu hamcanion rheoli (yn 2020), a rhagwelir y bydd y naill a’r llall ‘Mewn Perygl yn ôl pob tebyg’ ymhen 5 mlynedd' (yn 2025).
Mae statws eog fel nodweddion dynodedig ACA yn Afon Wysg ac Afon Gwy fel ei gilydd yn cael ei ystyried yn anffafriol.
At hynny, mae gan CNC bryderon difrifol ynghylch statws stociau eogiaid ifanc, yn enwedig yn nalgylch Afon Wysg lle nad yw'r niferoedd wedi gwella ers y cwymp yn 2015/2016.
Mae'r asesiad diweddaraf o'n stociau brithyll môr yn dangos bod stoc Afon Wysg ar hyn o bryd 'Mewn Perygl' o fethu â chyrraedd ei derfynau cadwraeth a rhagwelir y bydd yn parhau i fod 'Mewn Perygl' yn 2025. Mae stoc Afon Gwy ar hyn o bryd ‘Mewn Perygl yn ôl pob tebyg’ o fethu â chyrraedd ei derfynau cadwraeth, a rhagwelir y bydd yn dal i fod felly ymhen 5 mlynedd.
Ar beth rydym ni'n ymgynghori?
Dyma'r ymgynghoriad statudol ar reoliadau newydd arfaethedig sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn stociau eog a brithyll môr yn Afon Gwy yng Nghymru ac yn Afon Wysg:
Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhedeg am 12 wythnos hyd at 11 Hydref 2021.
Sylwch fod yr ymgynghoriad hwn ond yn cyfeirio at Afon Wysg ac Afon Gwy yng Nghymru, gydag’r ymatebion ymgynghori yn cael eu cyflwyno i CNC.
Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar wahân ar eu cynigion nhw mewn perthynas ag Afon Gwy yn Lloegr, a rhaid cyfeirio ymatebion ar yr ymgynghoriad hwnnw at sylw Asiantaeth yr Amgylchedd pan mae'r ymgynhoriad pedair wythnos yn dechrau ym mis Medi.
Ein cynigion
Rydym yn ceisio sylwadau i is-ddeddfau newydd arfaethedig ar gyfer pysgota gwialen mewn perthynas ag eogiaid a brithyllod môr ar Afon Wysg ac ar Afon Gwy yng Nghymru. Byddai’r is-ddeddfau hyn, pe baent yn cael eu cadarnhau, yn rhedeg tan 31 Rhagfyr 2029, ac yn gydamserol â diwedd yr is-ddeddfau ‘Cymru Gyfan’ a ‘Thraws Ffiniol’ presennol.
Afon Wysg
Pysgota dal a rhyddhau statudol bob amser.
Pysgota dal a rhyddhau statudol cyn 1 Mai.
Afon Gwy
Pysgota dal a rhyddhau statudol bob amser
Tymor pysgota eogiaid i redeg rhwng 3 Mawrth a 17 Hydref ar gyfer Afon Gwy gyfan a holl lednentydd Afon Gwy.
Pysgota dal a rhyddhau statudol bob amser
Mae CNC yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ar achos technegol ac is-ddeddfau pysgota gwialen newydd mewn perthynas ag Afon Gwy, i sicrhau bod is-ddeddfau cyfatebol ar gyfer Gwy yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Byddai hyn yn sicrhau patrwm cyson o weithredu fel dalgylch yn achos yr afon drawsffiniol hon.
Darllenwch y Grynodeb Weithredol - Cynigion is-ddeddfau Wysg a Gwy
Darllenwch Cwestiynau Cyffredin Is-ddeddfau Afon Wysg ac Afon Gwy
Darllenwch "Technical case for Usk and Wye byelaw proposals" (Saesneg yn unig)
Darllenwch "Technical case Annex 1 Salmon stock management system" (Saesneg yn unig)
Darllenwch "Technical case Annex 2 Sea trout SR stock assessment" (Saesneg yn unig)
Darllenwch "Technical case Annex 3 Usk and Wye juvenile salmonid monitoring" (Saesneg yn unig)
Darllenwch "Technical case Annex 4 Cross Border Rivers (England) Byelaws 2017" (Saesneg yn unig)
Darllenwch "Technical case Annex 5 Assessment of management options" (Saesneg yn unig)
Rydym yn dymuno cael eich barn ar ein cynigion, a hefyd unrhyw dystiolaeth berthnasol a allai gefnogi angen i addasu'r mesurau arfaethedig rydym yn eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn stociau eog a brithyll môr.
Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau ynghylch ein hasesiadau stoc eog a brithyll môr, statws stociau eogiaid a'n rheoliadau arfaethedig i amddiffyn stociau. Os gwelwch yn dda, rhowch inni dystiolaeth y credwch sy'n berthnasol er mwyn cyfiawnhau unrhyw sylwadau a wnewch, ac a allai gyfiawnhau'r angen i addasu, cryfhau neu lacio'r mesurau arfaethedig.
Efallai y byddwch yn dewis ymateb i'r cwestiynau naill ai ar Afon Wysg neu Afon Gwy, a hynny ar wahân, neu ar y ddwy afon gyda'i gilydd.
Os ydych am ddarparu tystiolaeth bellach i gefnogi'ch ymateb yma, os gwelwch yn dda e-bostiwch hwn atom yn fisheries.wales@naturalresourceswales.gov.uk a dylech gynnwys eich rhif adnabod unigryw (a roddir ar ddiwedd yr ymgynghoriad).
Share
Share on Twitter Share on Facebook