Heriau a dewisiadau – ymgynghoriad ar faterion rheoli dŵr sylweddol Cymru
Heriau a dewisiadau
Dyma’r ail ymgynghoriad mewn cyfres o dri ymgynghoriad a fydd yn helpu i lywio’r gwaith o ddiweddaru’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar gyfer y cyfnod rhwng 2027 a 2033. Bydd y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd hyn yn amlinellu’r mesurau sydd eu hangen i amddiffyn ac adfer dŵr, o’r ffynhonnell i’r môr. Disgwylir i fersiynau drafft o’r cynlluniau wedi’u diweddaru gael eu rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad yn 2026. Byddwn hefyd yn cyhoeddi trosolwg o’n canfyddiadau drwy ein tudalen Gofynnon Ni, Dwedoch Chi, Gwnaethom Ni ar ôl i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben.
Cyhoeddwyd adolygiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol o’r sector dŵr ar 21 Gorffennaf 2025. Argymhellodd hwn adolygiad o Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut mae’n dymuno gweithredu argymhellion y Comisiwn Dŵr Annibynnol.Gallai hyn newid sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyflawni Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd Cylch 4, sy’n cwmpasu 2027 i 2033, y bydd yr ymgynghoriad hwn yn eu llywio. Nid yw canfyddiadau’r Comisiwn Dŵr Annibynnol yn newid yr ymgynghoriad hwn, sy’n ymwneud â’n materion rheoli dŵr sylweddol a’r hyn y mae’n ei olygu, ond byddant yn effeithio ar sut a phryd y bydd camau gweithredu’n cael eu cymryd. Bydd CNC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â DEFRA ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer cyrff dŵr sy’n ymestyn dros i ffin i Loegr, i sicrhau bod ein Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn y dyfodol yn cyflawni’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer ein hamgylchedd dŵr.
Mae’n ddefnyddiol edrych ar yr ymgynghoriad hwn ar y cyd â’n Map Stori.
Ardaloedd basn afon yng Nghymru
Dyma’r ymgynghoriad statudol ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy (gan gynnwys cyrff dŵr Lloegr) ac Ardal Basn Afonydd Gorllewin Cymru.
Mae Ardal Basn Afon Hafren yn cynnwys ardaloedd o ddalgylchoedd afon Gwy ac afon Hafren sydd yng Nghymru, yn ogystal ag afon Wysg, afon Taf ac afon Elái, ac rydym wedi rhannu data ar gyfer yr ardal hon â chi. Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n rheoli’r ymgynghoriad statudol ar gyfer Ardal Basn Afon Hafren, gan gynnwys cyrff dŵr Cymru, drwy ei hymgynghoriad cyfochrog, a fydd ar agor o fis Tachwedd 2025. Mae rhagor o wybodaeth am faterion rheoli dŵr sylweddol yn Lloegr ar gael yma.
Fodd bynnag, os ydych chi’n byw neu’n gweithio yn y rhan o Ardal Basn Afon Hafren sydd yng Nghymru a bydd well gennych ymateb i gwestiynau ymgynghori CNC, yna parhewch i gwblhau’r ymgynghoriad hwn.