Heriau a dewisiadau – ymgynghoriad ar faterion rheoli dŵr sylweddol Cymru

Adborth wedi'i ddiweddaru 21 Gorff 2026

Gofynnon ni

Gofynnon ni sut y dylem olrhain, gwerthuso ac adrodd ar gynnydd.

Fe wnaethon ni rannu'r problemau rheoli dŵr sylweddol yr ydym yn credu sy'n effeithio ar Ardaloedd Basnau Afonydd Gorllewin Cymru, Dyfrdwy a rhannau Cymru o Afon Hafren a gofyn a ydych chi'n cytuno â nhw.

Fe wnaethon ni rannu ein hadroddiad cwmpasu drafft ar gyfer yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) a'n dull o Asesu'r Effaith ar Iechyd (AEI) a gofyn a ydych chi'n cytuno â'r meini prawf asesu ac a oes unrhyw wybodaeth ychwanegol y dylid ei chynnwys.

Gofynnon ni am ein Map Stori ac a oeddech chi'n meddwl ei fod yn ddefnyddiol.

Dywedoch chi

Hoffem fynegi ein diolch i'r 54 o sefydliadau ac unigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad.

Olrhain, gwerthuso ac adrodd

Un o'r meysydd allweddol yr oedd ymatebwyr yn dymuno gweld newid ynddo oedd olrhain ac adrodd ar newid ar raddfa cyrff dŵr. Dywedoch chi eich bod chi'n meddwl y dylid blaenoriaethu hyn yn glir. Roedd themâu hefyd ynghylch adrodd ar gynnydd dros amser, yr angen am dargedau mesuradwy mwy penodol sy'n cyd-fynd â metrigau Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Dylai fod mwy o atebolrwydd am gyflawni camau gweithredu.

Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith y dylai penderfyniadau gael eu llywio gan dystiolaeth gadarn sy'n deillio o fonitro o ansawdd uchel. Dywedoch chi hefyd y dylai'r wybodaeth hon fod yn fwy hygyrch i bobl nad ydynt yn arbenigwyr. Cynigiodd rhai ymatebwyr gymryd rhan mewn grwpiau rhanddeiliaid, a chynnal gwaith monitro gwyddoniaeth dinasyddion.

Rhaglen o Fesurau (PoM)

Cyflwynodd llawer ohonoch awgrymiadau ar gyfer y rhaglen o fesurau. Roedd y rhain yn cynnwys mynd i'r afael â llawer o'r materion mawr a nodwyd yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd megis newid hinsawdd, rheoli defnydd tir, dŵr gwastraff, adfer afonydd, effeithlonrwydd dŵr, llygredd dŵr mwyngloddiau, heriau i'n hamgylchedd morol a chemegau.

Problemau Rheoli Dŵr Sylweddol

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno â’r heriau a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at bryderon, llawer o'r rhain yn ymwneud ag effeithiau dŵr gwastraff a gorlifoedd storm, ffermio, coedwigaeth, cemegau, pysgodfeydd a lefelau uwch o faetholion. Ar y cyfan, roeddech chi’n croesawu cynnwys pwysau ychwanegol fel lefelau uwch o faetholion a chemegau, ond roedd pryderon hefyd bod hyn yn cymysgu hierarchaethau ffynonellau a phwysau.

Cytunai’r rhan fwyaf o'r ymatebwyr fod yr argyfyngau hinsawdd a natur yn bryderon, ond awgrymon nhw y dylid integreiddio newid hinsawdd yn benodol ar draws Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ac na ddylid ei ddefnyddio fel rheswm dros ystyried bod mesurau'n anymarferol yn dechnegol.

Dywedoch chi na ddylid gwneud gwaith mewn modd ynysig, mae cysylltiadau rhwng y problemau a welir yn ein dyfroedd. Mae hefyd yn angenrheidiol gweithio mewn partneriaeth i wella ein dyfroedd.

Ymatebion i Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad o’r Effaith ar Iechyd

Ymatebodd rhanddeiliaid gyda chefnogaeth i'r fframwaith AAS arfaethedig a bod AAS ac AEI yn cael eu cynnal. Roedd pryder ynghylch y diffyg manylion yn y dull gweithredu ar gyfer hyn o ystyried adolygiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol a dyfarniad Upper Costa Beck (dyfarniad yr Uchel Lys ar Gymdeithas Pysgodfa Pickering), R (Ar Gais) v Asiantaeth yr Amgylchedd [2023].

Yn ôl ymatebion rhanddeiliaid eraill, roedd yr adroddiadau Cwmpasu drafft yn hir, yn gymhleth ac yn anodd eu deall. Roedd pryder gan randdeiliaid ynghylch yr ystyriaeth o gemegau a llygredd carthffosiaeth yn yr amgylchedd dŵr sy'n effeithio ar fywyd gwyllt a phobl. Roedd ffocws cryf yn yr ymatebion ar ansawdd dŵr gwael a mynediad gwael at yr amgylchedd dŵr, gan effeithio ar iechyd a lles pobl a chymunedau.

Roedd cydnabyddiaeth hefyd o'r heriau a achosir gan newid hinsawdd i'r amgylchedd dŵr, yn enwedig adnoddau dŵr gan gynnwys cyflenwadau dŵr preifat.

Roedd rhai rhanddeiliaid yn dadlau dros y dull seiliedig ar ddalgylchoedd i sicrhau cysylltedd cynefinoedd, dull seiliedig ar natur a gwydnwch ecosystemau wrth gefnogi canlyniadau Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd. Awgrymwyd hefyd y dylai partneriaid gydlynu rhaglenni seilwaith i greu ymyriadau mwy cynaliadwy, effeithiol a chost-effeithlon.

Map Stori

Cafodd y Map Stori a ddatblygwyd gennym i ategu'r ymgynghoriad dderbyniad da, ond gellid ei gryfhau i wella hygyrchedd ac ymgysylltiad, gwella defnyddioldeb, darparu tystiolaeth gliriach a mwy tryloyw (gan gynnwys tueddiadau, dosraniad ffynonellau a hyder o ran data), cysylltiad gwell rhwng pwysau a chamau gweithredu, a chynnig mwy o gyd-destun ar lefel dalgylch.

Gwnaethom ni

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn bwydo i'n dull gweithredu ar gyfer Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd Cylch 4. Cyhoeddir y cynlluniau drafft ddiwedd mis Tachwedd 2026.

Olrhain, gwerthuso ac adrodd

Byddwn yn adeiladu ar Adolygiad Cynnydd Interim y Rhaglen o Fesurau a gyhoeddwyd gennym yn 2025 ac ochr yn ochr â'r adborth a dderbyniwyd yn sicrhau ein bod yn rhannu mwy o'r gwaith hwn ar gyfer y Cynllun Rheoli Basn Afon nesaf. Gyda ffocws penodol ar sut y gall cynnydd fod yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach, gan ddefnyddio metrigau adrodd a chytuno ar amlder diweddariadau a gweld sut y gallwn wella cyfathrebu ar hyn. Byddwn yn gweithio gydag eraill i lywio cynnydd a dealltwriaeth o faterion. Gwneir ymdrech i ddod o hyd i ffyrdd o integreiddio data gwyddoniaeth dinasyddion yn well i gefnogi hyn.

Rhaglen o Fesurau

Defnyddiwyd yr awgrymiadau a gyflwynwyd i'n helpu i ddiweddaru ein Rhaglen o Fesurau a fydd yn cael ei nodi'n fanylach yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft yn ddiweddarach yn 2026. Yn ogystal â'ch awgrymiadau ar fesurau penodol, mae rhai o'ch ymatebion wedi tynnu sylw at y ffaith bod gennym fwy i'w wneud o hyd i wella ein naratif ategol ac edrych ar sut mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i ystod eang o randdeiliaid.

Problemau Rheoli Dŵr Sylweddol

Roedden ni’n teimlo bod y pryderon a amlygwyd gan yr ymatebwyr yn cyd-fynd â’r categorïau a rannwyd gennym ni drwy’r ymgynghoriad. Er ein bod yn ei chael hi'n ddefnyddiol categoreiddio'r materion, rydym yn deall eu bod yn gysylltiedig â'i gilydd a byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei gynnwys. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatrys y problemau sy'n wynebu ein dyfroedd.

Rydym wedi mynd i'r afael â phryderon bod gorgyffwrdd rhwng rhai categorïau a byddwn yn arddangos y problemau rheoli dŵr sylweddol mewn Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd fel ffynonellau, pwysau a materion trawsbynciol.

Ymatebion i Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad o’r Effaith ar Iechyd

Mae’r adroddiadau cwmpasu AAS wedi'u diwygio yn sgil sylwadau a dderbyniwyd a bydd hyn yn bwydo i gam asesu'r AASau a'r AEI o'r cynlluniau drafft. Bydd yr Adroddiadau Amgylcheddol a fydd yn cyd-fynd â chyhoeddiad drafft y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn crynhoi'r ymatebion a dderbyniwyd a sut rydym wedi gweithredu arnynt.

Wrth i ni ddatblygu ein dulliau ar gyfer yr asesiadau AAS, AEI a Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC), rydym yn parhau i drafod ac ymgysylltu ag ymgyngoreion statudol i sicrhau bod yr asesiadau effaith yn briodol ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft sy'n cael eu datblygu.

Mae effeithiau ansawdd dŵr gwael ar iechyd a lles pobl a mynediad at amgylcheddau naturiol yn cael eu hystyried drwy'r AAS a'r AEI a byddant yn cael eu defnyddio i asesu effeithiau mesurau'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar ansawdd dŵr, iechyd a mynediad, yn ogystal â goblygiadau amgylcheddol ehangach. Bydd yr AAS a'r AEI hefyd yn nodi cyfleoedd i sicrhau manteision i bobl a'r amgylchedd. Bydd natur strategol yr Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a'r asesiadau yn hwyluso’r broses o nodi dulliau seiliedig ar ddalgylchoedd a chyfleoedd ar gyfer integreiddio a chydweithio rhwng partneriaid.

Map Stori

Rydym yn croesawu'r adborth hwn a byddwn yn ei ddefnyddio i lywio datblygiad parhaus Mapiau Stori yn y dyfodol. Byddwn yn archwilio cyfleoedd i wella hygyrchedd a defnyddioldeb, cryfhau tryloywder tystiolaeth a sut y caiff ei chyflwyno, gwella cysylltiadau rhwng pwysau sylweddol ar reoli dŵr a'r Rhaglen o Fesurau, ac ymgorffori gwybodaeth gyd-destunol gliriach i gefnogi dealltwriaeth ac ymgysylltiad.

Ar gau 21 Ebr 2026

Wedi agor 21 Hyd 2025

Trosolwg

Afon yn llifo dros greigiau wedi'u hamgylchynu gan goed

Mae dŵr yn adnodd naturiol hanfodol i’r amgylchedd a phobl. Mae dŵr yn creu ac yn cynnal yr ecosystemau y mae pob peth byw yn dibynnu arnynt. Mae’n hanfodol i’r economi ac ar gyfer iechyd ac fe’i defnyddir i gynhyrchu pŵer, rhedeg diwydiannau a thyfu bwyd. Mae addasiadau ffisegol yn lleihau amrywiaeth a gwydnwch ein dyfroedd yn ddifrifol. Mae ardaloedd gwledig, dŵr gwastraff, trefi, trafnidiaeth a mwyngloddiau segur yn ffynonellau llygredd megis cemegion, metelau, maetholion a bacteria ac, yn ogystal â hyn, gall plastigion a microplastigion fod yn niweidiol i bobl a byd natur. Gall presenoldeb rhywogaethau estron goresgynnol gael effeithiau ecolegol ac economaidd sylweddol.. Rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn achosi tymereddau cynyddol, glawiad mwy dwys a chyfnodau estynedig o dywydd sych.

Mae effaith gyfunol y materion hyn a’r galw cystadleuol am ddŵr yn golygu bod ein hecosystemau dŵr dan bwysau. Mae rhywogaethau eang eu lledaeniad, gan gynnwys eogiaid a brithyllod môr, yn profi dirywiad trychinebus; rhagwelir y bydd eogiaid wedi diflannu’n lleol o rai o afonydd Cymru erbyn 2030.

Mae ein hymchwiliadau a’n hymchwil drwy’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn dweud wrthym beth yw’r heriau, ac rydym am rannu hyn â chi. Mae angen i ni barhau i gydweithio i gymryd camau brys a chydweithredol i fynd i’r afael â’r materion hyn. Drwy rannu beth yw’r prif heriau sy’n wynebu ein hamgylchedd dŵr, rydym am glywed gennych chi am sut y gellir gwella ein dyfroedd.

Dweud eich dweud ar ddyfodol dŵr yng Nghymru

Dyma lle rydym yn ceisio eich barn ar y materion allweddol sy’n effeithio ar ein hamgylchedd dŵr a’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio dyfodol rheoli dŵr yng Nghymru.

Mae copi PDF o’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys y cwestiynau, ar gael yma.

 

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Adfer afonydd
  • Anglers
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Citizens
  • citizens
  • Coal Authority
  • Coal Tip Safety
  • Coastal Group Members
  • Cockles
  • Community Volunteers
  • DCWW
  • Designated Landscapes
  • Educators
  • EPR and COMAH facilities
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • Flooding
  • Fly-fishing
  • Forest Management
  • Gwent
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • IMPEL Network
  • Llifogydd
  • marine developers
  • marine planners
  • Metal mines
  • Mine recovery specialists
  • MSs and MPs
  • Mwyngloddiau metel
  • National Access Forum
  • Natur am Byth!
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Newport Green and Safe Spaces
  • NFU
  • Rheoli coedwigoedd
  • River restoration
  • Rivers
  • SoNaRR2020
  • South West Stakeholder group
  • Tirweddau dynonedig
  • Wales Biodiversity Partnership
  • Wales Biodiversity Partnership
  • water companies
  • Water Resources
  • Woodland Opportunity Map users

Diddordebau

  • Abstraction Licences
  • Acorn Antics / Miri Mes
  • Adfer afonydd
  • Adfer mwyngloddiau
  • Adnoddau Dwr
  • Bioamrywiaeth
  • Biodiversity
  • Climate change adaptation measures
  • Coal Tip Safety
  • Community Engagement
  • Community Voulnteering
  • Consultation
  • Customer Experience
  • Customer Journey Mapping
  • Cynllunio dwr
  • Datganiad Ardal De Orllewin
  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Dee
  • Development
  • Dysgu proffesiynnol
  • EIA
  • Engagement
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol
  • Fishing
  • Flooding
  • Forest Management
  • Fruitful Orchard Project
  • Gwastraff
  • Gwent
  • Gwerthu Pren
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • IMPEL Network
  • Landscapes
  • Llais Rheoleiddio
  • Llifogydd
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel
  • National Access Forum
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Permits
  • Professional learning
  • Pysgota
  • Regulation
  • Regulatory Voice
  • resources
  • Rheoli Coedwig
  • river basin planning
  • River restoration
  • South West Area Statement
  • Species Licence
  • Stakeholder Management
  • Strategic review of charging
  • Terrestrial ecosystems and species
  • The Hub
  • Timber sales
  • Tirweddau
  • Trwydded Rhywogaeth
  • Trwyddedau
  • Waste
  • water framework directive
  • water planning
  • Water Resources
  • WFD
  • Woodland Opportunity Map
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
  • Ymgysylltu cymunedol