Gweithio gyda’n Gilydd
Trosolwg
Oes gennych chi ddiddordeb yn nŵr Cymru?
Helpwch ni i lunio ei ddyfodol!
Mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn ymgysylltu â’r bobl gywir ar yr adeg gywir yn y ffordd gywir ynghylch cynlluniau ar gyfer dŵr yng Nghymru. Rhowch wybod i ni pwy sydd â diddordeb yn y gwaith hwn a sut y gallwn ymgysylltu â nhw a hysbysu pawb.
Rydym yn croesawu barn pawb felly a fyddech cystal â rhannu'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn ag eraill.
I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.
Ymgynghoriad y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd – ‘Gweithio gyda’n Gilydd’
Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd CNC yn nodi’r hyn a wyddom am ein hafonydd, llynnoedd, camlesi, dyfroedd daear, aberoedd a dyfroedd arfordirol, yr hyn y mae angen inni ei wneud i’w gwella, a sut y byddwn yn gwneud hyn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn a’n cyhoeddiadau blaenorol, ewch i’n gwefan – Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynlluniau rheoli basn afon.
Rydym yn dilyn y camau a nodir isod i ddiweddaru'r cynlluniau bob chwe blynedd, fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Rydym yn croesawu adborth ar sut rydym yn cyflawni'r camau hyn a byddwn yn ceisio ymgorffori hyn yn ein hymagwedd.
Gweithio gyda’n Gilydd
Mae'r ymgynghoriad hwn, o’r enw Gweithio gyda’n Gilydd, yn anelu at roi gwybod i bawb beth rydym yn ei wneud, pryd a pham. Mae'n ein helpu i ddarganfod pwy sydd eisiau cael eu cynnwys a'r ffordd orau i'w cynnwys yn y broses.
Heriau a Dewisiadau
Y cam nesaf yw'r ymgynghoriad heriau a dewisiadau, sydd i fod i ddechrau ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn rhannu'r hyn rydym yn ei wybod ac yn ei ddysgu gan eraill i'n helpu i nodi'r materion rheoli dŵr sylweddol. Byddwn yn ymgynghori ar yr hyn y gellir ei wneud yn eu cylch a phwy all ein helpu i wneud hyn
Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft ar ôl eu diweddaru
Cynhelir yr ymgynghoriadau terfynol ar y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft ar ôl eu diweddaru. Rydym yn disgwyl i’r ymgynghoriad hwn agor ym mis Mehefin 2026. Bydd y cynlluniau drafft yn dosbarthu cyrff dŵr ac yn gosod amcanion ar gyfer statws cyrff dŵr hyd at 2033. Byddwn yn nodi mesurau i fynd i'r afael â materion a sut y caiff y mesurau hyn eu cyflawni ar raddfa leol. Byddwch yn cael y cyfle i ymateb i ymgynghoriad ar y cynlluniau drafft hyn, gan gynnwys lefel eu huchelgais ar gyfer yr amgylchedd dŵr a’u hymrwymiad i gyflawni.
Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd wedi'u diweddaru
Erbyn Rhagfyr 2027, ein nod yw i Weinidogion fod wedi cymeradwyo'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd wedi'u diweddaru ac i'r cynlluniau fod wedi’u cyhoeddi. Mae’r rhain yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer sut y byddwn yn rheoli, diogelu a gwella ein hamgylchedd dŵr yng Nghymru hyd at 2033.
Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Bydd Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael eu cynnal ochr yn ochr â'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd er mwyn dylanwadu ar eu datblygiad a’i lywio. Mae'r rhain yn ofyniad cyfreithiol ac fe'u cynhelir i asesu a allai ein cynigion ar gyfer gwella'r amgylchedd dŵr gael canlyniadau bwriadol neu anfwriadol ar bobl neu'r amgylchedd ehangach.
Ein dull
Rydym am i Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd fod yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i bawb. Yn flaenorol, fe wnaethom gyhoeddi Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar ein gwefan fel dogfennau PDF. Rydym hefyd wedi nodi'r mesurau a ddefnyddir i wella ein dyfroedd a mapiau o'r wybodaeth ar wefan Arsylwi Dyfroedd Cymru.
Credwn y dylid cyflwyno Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn fwy gweledol, ar fapiau lle y gallwn. Rydym am ddangos gwybodaeth ar lefel Cymru yn ogystal â chyrff dŵr unigol. Rydym hefyd am ddarparu gwybodaeth am ddata arall sy’n berthnasol i ddŵr yng Nghymru, megis cynefinoedd gwarchodedig, dyfroedd ymdrochi, dyfroedd pysgod cregyn, a ffynonellau a ddefnyddir ar gyfer dŵr yfed.
Byddwn yn cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn unol â hygyrchedd digidol CNC a gofynion y Gymraeg ac mewn ffordd sy'n helpu ein rhanddeiliaid i ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd. Bydd angen i unrhyw newidiadau mewn ymagwedd gyd-fynd â gofynion cyfreithiol Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud asesiad economaidd a chyflwyno cyfleoedd ar gyfer ymyriadau i gyflawni'r canlyniadau dymunol.
Sut byddwn ni'n cydweithio?
Mae diddordeb y cyhoedd yn ein dyfroedd wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda materion fel llygredd a sychder yn y penawdau. Rydym eisiau cofleidio hyn a gweithio gyda phawb, gan gynnwys y rhai nad ydym wedi gweithio gyda nhw o'r blaen. Nid y broses ffurfiol a amlinellir uchod yw'r unig ffordd y gallwch ymgysylltu â ni.
Rydym am weithio gyda grwpiau cenedlaethol a lleol ac ymgysylltu â’r holl randdeiliaid sydd â diddordeb mewn dŵr. Mae hyn yn cynnwys cadwraeth, amaethyddiaeth, busnes, hamdden, llywodraeth leol a rhanbarthol, genweirio, y diwydiant dŵr, ynni, mordwyo, pysgodfeydd pysgod cregyn, trafnidiaeth, mwyngloddio, a sefydliadau academaidd. Rydym yn croesawu mewnbwn gan sefydliadau ac unigolion newydd i'n galluogi i ddysgu o brofiadau a gwybodaeth pawb am ein dyfroedd.
Cysylltiadau â chynlluniau a strategaethau eraill
Byddwn yn ceisio sicrhau bod cynlluniau a strategaethau perthnasol eraill, yn lleol ac yn genedlaethol, yn cael eu hystyried yn ein hadolygiad o Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn y tabl isod. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â pherchnogion cynlluniau a strategaethau perthnasol ar bob cam o'n proses.
Pwnc | Teitl Cynllun / Strategaeth | Corff Arweiniol |
Llifogydd ac erydu arfordirol | Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol | Llywodraeth Cymru |
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Cynlluniau Rheoli Traethlin | Grwpiau Arfordirol (dan arweiniad awdurdod lleol) | |
Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol | Awdurdodau Lleol | |
Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Newid yn yr hinsawdd | Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru (2010) | Llywodraeth Cymru |
Cynllun Cyflawni Carbon Isel Sero Net Cymru | Llywodraeth Cymru | |
Tystiolaeth Asesu Risg Newid Hinsawdd y DU ac Adroddiadau'r Llywodraeth (CCRA4) | Is-grŵp Addasu Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd | |
Rhaglen Addasu Genedlaethol y DU 2013 | Llywodraeth y DU | |
Strategaeth Genedlaethol Addasu Hinsawdd a Chynllun Addasu Hinsawdd y DU | Pwyllgor y Llywodraeth ar Newid Hinsawdd | |
Polisi Dŵr | Strategaeth Dŵr Cymru a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig | Llywodraeth Cymru |
Diwydiant Dŵr | Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr | Cwmnïau Dŵr |
Cynlluniau Sychder | Cwmnïau Dŵr | |
Cynlluniau Busnes Cwmnïau Dŵr | Cwmnïau Dŵr | |
Cynlluniau Draenio a Rheoli Dŵr Gwastraff | Cwmnïau Dŵr | |
Map ffordd gorlif storm Cymru | Tasglu Ansawdd Dŵr Afon Gwell | |
Bioamrywiaeth | Cynllun Gweithredu Adfer Natur | Llywodraeth Cymru |
Cynlluniau rheoli craidd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) / Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Cynllun Gweithredu Prif Weinidog Cymru ar gyfer Afonydd ACA | Llywodraeth Cymru | |
Cynlluniau Rheoli Maetholion ar gyfer Afonydd SAC | Byrddau Rheoli Maethynnau | |
Rhaglen Rhwydweithiau Natur | Llywodraeth Cymru | |
Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd | Llywodraeth Cymru | |
Cynlluniau Thematig Prosiect LIFE + Natura 2000 a Chynlluniau Gwella â Blaenoriaeth (PIP) | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Cynlluniau Gweithredu Adfer Natur Partneriaethau Natur Lleol / Cynlluniau Gweithredu Partneriaethau Bioamrywiaeth lleol | Awdurdodau Lleol | |
Rhywogaethau estron goresgynnol | Strategaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain | Bwrdd Rhaglen rhywogaeth oresgynnol anfrodorol Prydain Fawr |
Amaethyddiaeth | Cynllun Ffermio Cynaliadwy | Llywodraeth Cymru |
Coedwigaeth | Coedwig Genedlaethol Cymru | Llywodraeth Cymru |
Strategaeth Coetiroedd i Gymru | Llywodraeth Cymru | |
Cynlluniau adnoddau coedwigoedd | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Hamdden | Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy | Awdurdodau Lleol |
Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) | Cynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol | Awdurdodau Parciau Cenedlaethol |
Cynlluniau Rheoli AHNE | Awdurdodau Lleol | |
Ansawdd aer | Cynlluniau gweithredu Ansawdd Aer | Awdurdodau Lleol |
Morol | Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru | Llywodraeth Cymru |
Rhaglen Mesurau Cyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol | Llywodraeth Cymru | |
Strategaeth Forol y DU | Llywodraeth y DU | |
Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru | Llywodraeth Cymru | |
Cynllun Gweithredu Rheoli Parthau Morol Gwarchodedig (MPA) ar gyfer Cymru | Llywodraeth Cymru | |
Datganiad Ardal Forol | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Cemegau | Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Defnyddio Plaladdwyr yn Gynaliadwy (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2013 | Llywodraeth Cymru |
Dull strategol y DU o fynd i'r afael â risgiau o gemegau niweidiol yn nyfroedd y DU | Llywodraeth y DU | |
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Confensiwn Stockholm ar lygryddion organig parhaus 2017 | Llywodraeth Cymru | |
Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) | SoNaRR 2025 | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Pysgodfeydd | Cynllun gweithredu eogiaid a brithyllod môr i Gymru | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Cynlluniau adfer cynefinoedd pysgodfeydd | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Cynlluniau Rheoli Llysywod | Cyfoeth Naturiol Cymru | |
Cynllun Gweithredu Strategol y Môr a Physgodfeydd | Llywodraeth Cymru | |
Mwyngloddiau Metel | Rhaglen Adfer Mwyngloddiau Metel | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Strategaeth Mwyngloddiau Metel i Gymru | Llywodraeth Cymru | |
Adfer Afonydd | Rhaglen Adfer Afonydd | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Gwaith trawsffiniol
Mae Cymru wedi’i rhannu’n dair Ardal Basn Afon, sef Gorllewin Cymru, Dyfrdwy a Hafren, a dangosir hyn yn y map isod. Mae ffiniau Ardaloedd Basn Afon Dyfrdwy a Hafren yn ymestyn i mewn i Loegr. Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ar y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd hyn. Mae CNC yn arwain ar yr ymgynghoriadau a’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd diweddaraf ar gyfer Ardaloedd Basn Afon Gorllewin Cymru a Dyfrdwy, ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn arwain ar Ardal Basn Afon Hafren.
Bydd ymgynghoriad ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ Asiantaeth yr Amgylchedd y nagor ym mis Hydref 2024 – fe rown ni ddolen at yr ymgynghoriad ar y dudalen hon bryd hynny.
Sut i ymateb?
Cwblhewch yr arolwg ar-lein trwy glicio ar y ddolen isod. Gallwch gael rhagolwg o’r cwestiynau yma.
Os nad ydych yn gallu cwblhau'r ymgynghoriad ar-lein ac yn dymuno cwblhau'r ymgynghoriad hwn ar bapur, anfonwch e-bost atom yn wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch 0300 065 3000.
Ymatebion i'r ymgynghoriad
Bydd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ein hymgynghoriad heriau a dewisiadau.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- Coastal Group Members
Diddordebau
- WFD
- water framework directive
- water planning
- Dee
- river basin planning
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook