Daeth ein galwad am dystiolaeth i ben ar 22 Awst 2022. Cawsom ymatebion gan y sefydliadau canlynol:
Hefyd, cafwyd ymatebion oddi wrth nifer o unigolion.
Rydym yn ystyried yr ymatebion hyn ar hyn o bryd a byddwn yn adolygu'r holl dystiolaeth yn ystod y misoedd nesaf gyda'r bwriad o ddatblygu opsiynau ar gyfer unrhyw ddull rheoleiddio yn y dyfodol. Fel rhan o'r broses hon, rydym wedi bod yn nodi unrhyw bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid a amlygwyd gan y rhai a ymatebodd i'n galwad am dystiolaeth ac nad oedd wedi'u hystyried gan ddau adolygiad cynhwysfawr yn 2020. Hyd yn hyn, rydym wedi nodi tua 25 o bapurau newydd a adolygwyd gan gymheiriaid, ac ystyriwn fod nifer ohonynt yn hynod berthnasol. Rydym hefyd wedi derbyn cryn dipyn o lenyddiaeth arall, gan gynnwys erthyglau, blogiau, adroddiadau, a thystiolaeth bersonol.
Bydd angen i ni nawr gasglu ac ystyried y cyflwyniadau hyn. Fel rhan o'r broses hon, byddwn yn:
Efallai y byddwn hefyd yn:
Yn eu cyflwyniadau, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn credu y dylen ni fod wedi cynnwys y papur Summary review and synthesis: effects on habitats and wildlife of the release and management of pheasants and red-legged partridges on UK lowland shoots (Sage et al. 2020) ochr yn ochr â'r ddau adolygiad arall yn 2020 y cyfeiriwyd atynt gennym yn ein galwad am dystiolaeth. Wedi ystyried, rydym yn cytuno â hyn, ac rydym yn bwriadu ei ystyried ochr yn ochr â’r adolygiadau eraill o 2020 yn ystod camau nesaf ein gwaith o adolygu'r dystiolaeth.
Wrth i ni symud ymlaen gyda'r gwaith hwn, byddwn yn gwahodd rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn gweithgorau.
Mae Gweinidog Cymru dros Faterion Gwledig wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru ystyried yr opsiynau ar gyfer rheoleiddio’r modd y rhyddheir adar hela yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, tra bod angen caniatâd fel arfer i ryddhau o fewn ffin Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ychydig o reoleiddio sy’n digwydd y tu allan i safleoedd gwarchodedig.
Mynegwyd pryderon ynghylch pa mor effeithiol yw’r darpariaethau rheoleiddio cyfredol i fonitro a rheoli effeithiau amgylcheddol posibl yn effeithiol, yn arbennig ar safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd. Yn dilyn her gyfreithiol, mae Defra wedi cyflwyno dull rheoleiddio dros dro. Fodd bynnag, mae’r dull hwn yn berthnasol yn unig i ryddhau yn Lloegr.
Rydym bellach yn adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael a byddwn yn datblygu cynigion ar gyfer dull rheoleiddio cymesur ar gyfer rhyddhau adar hela yng Nghymru. Wrth gyflawni’r gwaith hwn rydym yn bwriadu:
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn tystiolaeth na chafodd ei hystyried yn yr adolygiadau a restrir uchod ac sy’n gallu ein helpu i ddeall ac asesu’n well:
Ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am dystiolaeth sy’n ymwneud â’r materion canlynol, sydd y tu allan i gwmpas y gwaith hwn:
Rydym yn chwilio am dystiolaeth wyddonol neu anecdotaidd. Nid ymgynghoriad yw hwn ac felly nid ydym yn chwilio am syniadau nag unrhyw farn ar hyn o bryd.
Byddwn yn mynd ati i chwilio am dystiolaeth berthnasol a gyhoeddwyd na chafodd ei hystyried eto. Fodd bynnag, rydym hefyd yn awyddus i roi cyfle i randdeiliaid rannu tystiolaeth y maen nhw’n ymwybodol ohoni, neu dystiolaeth a ddelir ganddynt ac y maen nhw’n credu fyddai’n ddefnyddiol i gyfarwyddo ein dull gweithredu.
Gallwch anfon tystiolaeth drwy’r ebost i:
adarhela@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gallwch anfon tystiolaeth drwy’r post i:
Adar Hela - Galwad am Dystiolaeth/ Gamebirds Call for Evidence
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Share
Share on Twitter Share on Facebook