Galwad am dystiolaeth i lywio gwaith CNC o ddatblygu dull rheoleiddio i ryddhau adar hela (ffesantod a phetris coesgoch ) yng Nghymru

Ar gau 22 Awst 2022

Wedi'i agor 11 Gorff 2022

Canlyniadau wedi'u diweddaru 4 Hyd 2022

Eich ymateb i’n galwad am dystiolaeth

Daeth ein galwad am dystiolaeth i ben ar 22 Awst 2022. Cawsom ymatebion gan y sefydliadau canlynol:

  • Partneriaeth Aim to Sustain
  • Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid
  • Cymorth i Anifeiliaid
  • Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain
  • British Game Assurance
  • Y Gynghrair Cefn Gwlad
  • Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt Cymru
  • Y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon
  • Sefydliad Cenedlaethol y Ciperiaid
  • RSPB Cymru

Hefyd, cafwyd ymatebion oddi wrth nifer o unigolion.

 

Rydym yn ystyried yr ymatebion hyn ar hyn o bryd a byddwn yn adolygu'r holl dystiolaeth yn ystod y misoedd nesaf gyda'r bwriad o ddatblygu opsiynau ar gyfer unrhyw ddull rheoleiddio yn y dyfodol. Fel rhan o'r broses hon, rydym wedi bod yn nodi unrhyw bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid a amlygwyd gan y rhai a ymatebodd i'n galwad am dystiolaeth ac nad oedd wedi'u hystyried gan ddau adolygiad cynhwysfawr yn 2020. Hyd yn hyn, rydym wedi nodi tua 25 o bapurau newydd a adolygwyd gan gymheiriaid, ac ystyriwn fod nifer ohonynt yn hynod berthnasol. Rydym hefyd wedi derbyn cryn dipyn o lenyddiaeth arall, gan gynnwys erthyglau, blogiau, adroddiadau, a thystiolaeth bersonol.

Y Camau Nesaf

Ystyried y dystiolaeth

Bydd angen i ni nawr gasglu ac ystyried y cyflwyniadau hyn. Fel rhan o'r broses hon, byddwn yn:

  • Parhau i nodi a rhoi sylw i unrhyw bapurau newydd a adolygwyd gan gymheiriaid sydd wedi'u dyfynnu neu eu hatodi i'r cyflwyniadau a dderbyniwyd.
  • Ystyried unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd sy’n bersonol, anecdotaidd neu sydd heb ei chyhoeddi, gan asesu ei phwysigrwydd.
  • Adolygu tystiolaeth a gyflwynwyd gan staff CNC.
  • Adolygu unrhyw dystiolaeth newydd rydym wedi ei nodi yn annibynnol ar yr alwad am dystiolaeth.

Efallai y byddwn hefyd yn:

  • Comisiynu tystiolaeth ychwanegol lle rydyn ni'n teimlo bod yna fylchau tystiolaeth a fyddai'n ein helpu i asesu'r sefyllfa yng Nghymru, a lle bo modd llenwi’r bylchau hyn o fewn ein hamserlenni.
  • Ceisio cyngor a chymorth arbenigol annibynnol wrth ddadansoddi tystiolaeth bresennol ac unrhyw dystiolaeth newydd.

Yn eu cyflwyniadau, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn credu y dylen ni fod wedi cynnwys y papur Summary review and synthesis: effects on habitats and wildlife of the release and management of pheasants and red-legged partridges on UK lowland shoots (Sage et al. 2020) ochr yn ochr â'r ddau adolygiad arall yn 2020 y cyfeiriwyd atynt gennym yn ein galwad am dystiolaeth. Wedi ystyried, rydym yn cytuno â hyn, ac rydym yn bwriadu ei ystyried ochr yn ochr â’r adolygiadau eraill o 2020 yn ystod camau nesaf ein gwaith o adolygu'r dystiolaeth.

Cyfranogiad rhanddeiliaid

Wrth i ni symud ymlaen gyda'r gwaith hwn, byddwn yn gwahodd rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn gweithgorau.

 

Trosolwg

Mae Gweinidog Cymru dros Faterion Gwledig wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru ystyried yr opsiynau ar gyfer rheoleiddio’r modd y rhyddheir adar hela yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, tra bod angen caniatâd fel arfer i ryddhau o fewn ffin Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ychydig o reoleiddio sy’n digwydd y tu allan i safleoedd gwarchodedig.

Mynegwyd pryderon ynghylch pa mor effeithiol yw’r darpariaethau rheoleiddio cyfredol i fonitro a rheoli effeithiau amgylcheddol posibl yn effeithiol, yn arbennig ar safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd. Yn dilyn her gyfreithiol, mae Defra wedi cyflwyno dull rheoleiddio dros dro. Fodd bynnag, mae’r dull hwn yn berthnasol yn unig i ryddhau yn Lloegr.

 

Rydym bellach yn adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael a byddwn yn datblygu cynigion ar gyfer dull rheoleiddio cymesur ar gyfer rhyddhau adar hela yng Nghymru. Wrth gyflawni’r gwaith hwn rydym yn bwriadu:

  • Adolygu canfyddiadau Rapid Evidence Assessment for Natural England and the British Association of Shooting and Conservation (Madden J.R. & Sage, R.B. 2020. gweler dolen isod)
  • Adolygu canfyddiadau adroddiad tystiolaeth RSPB rhif 66 - The impacts of non-native gamebird release in the UK: an updated evidence review (Mason et al 2020. gweler dolen isod)
  • Nodi ac ystyried unrhyw dystiolaeth berthnasol na chafodd ei hystyried yn yr adolygiadau hynny – megis tystiolaeth a gyhoeddwyd ers iddynt ddod i ben, neu dystiolaeth a oedd yn berthnasol yn benodol i Gymru.
  • Adolygu casgliadau Defra wrth ddatblygu eu trefn drwyddedu dros dro ar gyfer Lloegr.
  • Ystyried y ffodd orau o reoli unrhyw risgiau ecolegol yng Nghymru heb beryglu manteision ecolegol, cymdeithasol ac economaidd saethu gêm yn anghymesur.
  • Ymgynghori ar yr opsiwn/opsiynau sy’n cael eu ffafrio gennym yn 2023 ac ystyried unrhyw ymatebion a gafwyd
  • Gweithredu unrhyw ddull rheoleiddio newydd a darparu canllawiau i helpu ein cwsmeriaid i gydymffurfio ag ef.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn tystiolaeth na chafodd ei hystyried yn yr adolygiadau a restrir uchod ac sy’n gallu ein helpu i ddeall ac asesu’n well:

  • Graddfa a dosbarthiad achosion o ryddhau adar hela yng Nghymru ac unrhyw dueddiadau cysylltiedig.
  • Effeithiau ecolegol rhyddhau adar hela a’r ffactorau sy’n cyfrannu at yr effeithiau hynny
  • Effeithiau ecolegol gweithgareddau rheoli sy’n gysylltiedig â saethu gêm yng Nghymru.
  • Effeithiau economaidd-gymdeithasol saethu gêm yng Nghymru

Ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am dystiolaeth sy’n ymwneud â’r materion canlynol, sydd y tu allan i gwmpas y gwaith hwn:

  • Y defnydd o beledi plwm
  • A ddylid caniatáu magu adar hela neu weithgareddau saethu eraill ar ystâd CNC
  • Moeseg saethu gêm

Rydym yn chwilio am dystiolaeth wyddonol neu anecdotaidd. Nid ymgynghoriad yw hwn ac felly nid ydym yn chwilio am syniadau nag unrhyw farn ar hyn o bryd.

Byddwn yn mynd ati i chwilio am dystiolaeth berthnasol a gyhoeddwyd na chafodd ei hystyried eto. Fodd bynnag, rydym hefyd yn awyddus i roi cyfle i randdeiliaid rannu tystiolaeth y maen nhw’n ymwybodol ohoni, neu dystiolaeth a ddelir ganddynt ac y maen nhw’n credu fyddai’n ddefnyddiol i gyfarwyddo ein dull gweithredu.

Gallwch anfon tystiolaeth drwy’r ebost i:

adarhela@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Gallwch anfon tystiolaeth drwy’r post i:

Adar Hela - Galwad am Dystiolaeth/ Gamebirds Call for Evidence

Cyfoeth Naturiol Cymru

Maes y Ffynnon

Penrhosgarnedd 

Bangor

Gwynedd

LL57 2DW

 

 

Ardaloedd

  • Aber Valley
  • Aber-craf
  • Aberaeron
  • Aberaman North
  • Aberaman South
  • Aberavon
  • Aberbargoed
  • Abercarn
  • Abercynon
  • Aberdare East
  • Aberdare West/Llwydcoed
  • Aberdaron
  • Aberdovey
  • Aberdulais
  • Abererch
  • Abergele Pensarn
  • Abergwili
  • Aberkenfig
  • Abermaw
  • Aberporth
  • Abersoch
  • Abersychan
  • Aberteifi/Cardigan-Mwldan
  • Aberteifi/Cardigan-Rhyd-y-Fuwch
  • Aberteifi/Cardigan-Teifi
  • Abertillery
  • Aberystwyth Bronglais
  • Aberystwyth Canol/Central
  • Aberystwyth Gogledd/North
  • Aberystwyth Penparcau
  • Aberystwyth Rheidol
  • Acton
  • Adamsdown
  • Aethwy
  • Allt-wen
  • Allt-yr-yn
  • Alway
  • Ammanford
  • Amroth
  • Argoed
  • Arllechwedd
  • Aston
  • Badminton
  • Bagillt East
  • Bagillt West
  • Baglan
  • Bala
  • Banwy
  • Bargoed
  • Baruc
  • Beaufort
  • Beddau
  • Bedlinog
  • Bedwas, Trethomas and Machen
  • Beechwood
  • Beguildy
  • Berriew
  • Bethel
  • Bettws
  • Betws
  • Betws yn Rhos
  • Betws-y-Coed
  • Beulah
  • Bigyn
  • Bishopston
  • Blackmill
  • Blackwood
  • Blaen Hafren
  • Blaenavon
  • Blaengarw
  • Blaengwrach
  • Blaina
  • Bodelwyddan
  • Bontnewydd
  • Bonymaen
  • Borras Park
  • Borth
  • Botwnnog
  • Bowydd and Rhiw
  • Brackla
  • Brithdir and Llanfachreth/Ganllwyd/Llanelltyd
  • Briton Ferry East
  • Briton Ferry West
  • Bro Aberffraw
  • Bro Rhosyr
  • Bronington
  • Bronllys
  • Broughton North East
  • Broughton South
  • Brymbo
  • Bryn
  • Bryn and Cwmavon
  • Bryn Cefn
  • Bryn-coch North
  • Bryn-coch South
  • Bryn-crug/Llanfihangel
  • Bryncethin
  • Bryncoch
  • Brynford
  • Brynmawr
  • Brynna
  • Bryntirion, Laleston and Merthyr Mawr
  • Brynwern
  • Brynyffynnon
  • Buckley Bistre East
  • Buckley Bistre West
  • Buckley Mountain
  • Buckley Pentrobin
  • Builth
  • Burry Port
  • Burton
  • Butetown
  • Buttrills
  • Bwlch
  • Bynea
  • Cadnant
  • Cadoc
  • Cadoxton
  • Caerau
  • Caergwrle
  • Caergybi
  • Caerhun
  • Caerleon
  • Caersws
  • Caerwent
  • Caerwys
  • Caldicot Castle
  • Camrose
  • Canolbarth Môn
  • Canton
  • Cantref
  • Capel Dewi
  • Capelulo
  • Carew
  • Carmarthen Town North
  • Carmarthen Town South
  • Carmarthen Town West
  • Cartrefle
  • Castle
  • Castleland
  • Cathays
  • Cefn
  • Cefn Cribwr
  • Cefn Fforest
  • Cefn Glas
  • Cenarth
  • Ceulanamaesmawr
  • Chirk North
  • Chirk South
  • Church Village
  • Churchstoke
  • Cilcain
  • Cilfynydd
  • Cilgerran
  • Ciliau Aeron
  • Cilycwm
  • Cimla
  • Clydach
  • Clydau
  • Clynnog
  • Cockett
  • Coed Eva
  • Coedffranc Central
  • Coedffranc North
  • Coedffranc West
  • Coedpoeth
  • Coity
  • Colwyn
  • Connah's Quay Central
  • Connah's Quay Golftyn
  • Connah's Quay South
  • Connah's Quay Wepre
  • Conwy
  • Cornelly
  • Cornerswell
  • Corris/Mawddwy
  • Corwen
  • Court
  • Cowbridge
  • Coychurch Lower
  • Craig-y-Don
  • Creigiau/St. Fagans
  • Criccieth
  • Crickhowell
  • Croesonen
  • Croesyceiliog North
  • Croesyceiliog South
  • Crosskeys
  • Crucorney
  • Crumlin
  • Crwst
  • Crymych
  • Crynant
  • Cwm
  • Cwm Clydach
  • Cwm-twrch
  • Cwm-y-Glo
  • Cwmbach
  • Cwmbwrla
  • Cwmllynfell
  • Cwmtillery
  • Cwmyniscoy
  • Cyfarthfa
  • Cymmer
  • Cyncoed
  • Cynwyl Elfed
  • Cynwyl Gaeo
  • Dafen
  • Darren Valley
  • Deganwy
  • Deiniol
  • Deiniolen
  • Denbigh Central
  • Denbigh Lower
  • Denbigh Upper/Henllan
  • Devauden
  • Dewi
  • Dewstow
  • Diffwys and Maenofferen
  • Dinas Cross
  • Dinas Powys
  • Disserth and Trecoed
  • Dixton with Osbaston
  • Dolbenmaen
  • Dolforwyn
  • Dolgellau North
  • Dolgellau South
  • Dowlais
  • Drybridge
  • Dunvant
  • Dyfan
  • Dyffryn
  • Dyffryn Ardudwy
  • Dyffryn Ceiriog/Ceiriog Valley
  • Dyserth
  • East Williamston
  • Ebbw Vale North
  • Ebbw Vale South
  • Efail-newydd/Buan
  • Efenechtyd
  • Eglwysbach
  • Eirias
  • Elli
  • Ely
  • Erddig
  • Esclusham
  • Ewloe
  • Faenor
  • Fairwater
  • Fairwood
  • Felin-fâch
  • Felindre
  • Felinfoel
  • Ferndale
  • Ffynnongroyw
  • Fishguard North East
  • Fishguard North West
  • Flint Castle
  • Flint Coleshill
  • Flint Oakenholt
  • Flint Trelawny
  • Forden
  • Gabalfa
  • Gaer
  • Garden Village
  • Garnant
  • Garth
  • Gele
  • Georgetown
  • Gerlan
  • Gibbonsdown
  • Gilfach
  • Gilfach Goch
  • Glanamman
  • Glantwymyn
  • Glanymor
  • Glasbury
  • Glyder
  • Glyn
  • Glyncoch
  • Glyncorrwg
  • Glynneath
  • Godre'r graig
  • Goetre Fawr
  • Gogarth
  • Goodwick
  • Gorseinon
  • Gorslas
  • Gower
  • Gowerton
  • Graig
  • Grangetown
  • Green Lane
  • Greenfield
  • Greenmeadow
  • Gresford East and West
  • Groeslon
  • Grofield
  • Gronant
  • Grosvenor
  • Guilsfield
  • Gurnos
  • Gwaun-Cae-Gurwen
  • Gwenfro
  • Gwernaffield
  • Gwernyfed
  • Gwernymynydd
  • Gwersyllt East and South
  • Gwersyllt North
  • Gwersyllt West
  • Gwynfi
  • Halkyn
  • Harlech
  • Haverfordwest: Castle
  • Haverfordwest: Garth
  • Haverfordwest: Portfield
  • Haverfordwest: Prendergast
  • Haverfordwest: Priory
  • Hawarden
  • Hawthorn
  • Hay
  • Heath
  • Hendre
  • Hendy
  • Hengoed
  • Hermitage
  • Higher Kinnerton
  • Hirael
  • Hirwaun
  • Holt
  • Holywell Central
  • Holywell East
  • Holywell West
  • Hope
  • Hundleton
  • Illtyd
  • Johnston
  • Johnstown
  • Kerry
  • Kidwelly
  • Kilgetty/Begelly
  • Killay North
  • Killay South
  • Kingsbridge
  • Kinmel Bay
  • Knighton
  • Lampeter
  • Lampeter Velfrey
  • Lamphey
  • Landore
  • Langstone
  • Lansdown
  • Larkfield
  • Laugharne Township
  • Leeswood
  • Letterston
  • Lisvane
  • Liswerry
  • Litchard
  • Little Acton
  • Llanaelhaearn
  • Llanafanfawr
  • Llanarmon-yn-Ial/Llandegla
  • Llanarth
  • Llanbadarn Fawr
  • Llanbadarn Fawr-Padarn
  • Llanbadarn Fawr-Sulien
  • Llanbadoc
  • Llanbedr
  • Llanbedr Dyffryn Clwyd/Llangynhafal
  • Llanbedrog
  • Llanberis
  • Llanboidy
  • Llanbradach
  • Llanbrynmair
  • Llandaff
  • Llandaff North
  • Llanddarog
  • Llandderfel
  • Llanddulas
  • Llandeilo
  • Llandinam
  • Llandough
  • Llandovery
  • Llandow/Ewenny
  • Llandrillo
  • Llandrillo yn Rhos
  • Llandrindod East/Llandrindod West
  • Llandrindod North
  • Llandrindod South
  • Llandrinio
  • Llandybie
  • Llandyfriog
  • Llandyrnog
  • Llandysilio
  • Llandysilio-gogo
  • Llandysul Town
  • Llanegwad
  • Llanelly Hill
  • Llanelwedd
  • Llanengan
  • Llanfair Caereinion
  • Llanfair Dyffryn Clwyd/Gwyddelwern
  • Llanfarian
  • Llanfihangel
  • Llanfihangel Aberbythych
  • Llanfihangel Ystrad
  • Llanfihangel-ar-Arth
  • Llanfoist Fawr
  • Llanfyllin
  • Llanfynydd
  • Llangadog
  • Llangattock
  • Llangeinor
  • Llangeitho
  • Llangeler
  • Llangelynin
  • Llangennech
  • Llangernyw
  • Llangewydd and Brynhyfryd
  • Llangollen
  • Llangollen Rural
  • Llangors
  • Llangunllo
  • Llangunnor
  • Llangwm
  • Llangybi
  • Llangybi Fawr
  • Llangyfelach
  • Llangyndeyrn
  • Llangynidr
  • Llangynwyd
  • Llanharan
  • Llanharry
  • Llanhilleth
  • Llanidloes
  • Llanishen
  • Llanllyfni
  • Llannon
  • Llanover
  • Llanrhaeadr-ym-Mochnant/Llansilin
  • Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch
  • Llanrhian
  • Llanrhystyd
  • Llanrug
  • Llanrumney
  • Llansamlet
  • Llansanffraid
  • Llansannan
  • Llansantffraed
  • Llansantffraid
  • Llansteffan
  • Llantarnam
  • Llantilio Crossenny
  • Llantrisant Town
  • Llantwit Fardre
  • Llantwit Major
  • Llanuwchllyn
  • Llanwddyn
  • Llanwenarth Ultra
  • Llanwenog
  • Llanwern
  • Llanwnda
  • Llanwrtyd Wells
  • Llanybydder
  • Llanyrafon East and Ponthir
  • Llanyrafon West
  • Llanyre
  • Llanystumdwy
  • Llay
  • Lledrod
  • Lliedi
  • Llifôn
  • Lligwy
  • Llwyn-y-pia
  • Llwynhendy
  • Llysfaen
  • Lower Brynamman
  • Lower Loughor
  • Machynlleth
  • Maenclochog
  • Maerdy
  • Maescar/Llywel
  • Maesteg East
  • Maesteg West
  • Maesycwmmer
  • Maesydre
  • Malpas
  • Mancot
  • Manorbier
  • Manordeilo and Salem
  • Marchog
  • Marchwiel
  • Mardy
  • Marford and Hoseley
  • Margam
  • Marl
  • Marshfield
  • Martletwy
  • Mawr
  • Mayals
  • Meifod
  • Melindwr
  • Menai (Bangor)
  • Menai (Caernarfon)
  • Merlin's Bridge
  • Merthyr Vale
  • Milford: Central
  • Milford: East
  • Milford: Hakin
  • Milford: Hubberston
  • Milford: North
  • Milford: West
  • Mill
  • Minera
  • Mitchel Troy
  • Mochdre
  • Mold Broncoed
  • Mold East
  • Mold South
  • Mold West
  • Montgomery
  • Morfa
  • Morfa Nefyn
  • Morgan Jones
  • Moriah
  • Morriston
  • Mostyn
  • Mountain Ash East
  • Mountain Ash West
  • Mynyddbach
  • Nant-y-moel
  • Nantmel
  • Nantyglo
  • Narberth
  • Narberth Rural
  • Neath East
  • Neath North
  • Neath South
  • Nefyn
  • Nelson
  • New Brighton
  • New Broughton
  • New Inn
  • New Quay
  • New Tredegar
  • Newbridge
  • Newcastle
  • Newport
  • Newton
  • Newtown Central
  • Newtown East
  • Newtown Llanllwchaiarn North
  • Newtown Llanllwchaiarn West
  • Newtown South
  • Neyland: East
  • Neyland: West
  • Northop
  • Northop Hall
  • Nottage
  • Offa
  • Ogmore Vale
  • Ogwen
  • Old Radnor
  • Oldcastle
  • Onllwyn
  • Overmonnow
  • Overton
  • Oystermouth
  • Pandy
  • Pant
  • Pant-yr-afon/Penmaenan
  • Panteg
  • Park
  • Peblig (Caernarfon)
  • Pelenna
  • Pembrey
  • Pembroke Dock: Central
  • Pembroke Dock: Llanion
  • Pembroke Dock: Market
  • Pembroke Dock: Pennar
  • Pembroke: Monkton
  • Pembroke: St. Mary North
  • Pembroke: St. Mary South
  • Pembroke: St. Michael
  • Pen-parc
  • Pen-y-fai
  • Pen-y-graig
  • Pen-y-waun
  • Penally
  • Penbryn
  • Penclawdd
  • Penderry
  • Pendre
  • Pengam
  • Penisarwaun
  • Penllergaer
  • Penmaen
  • Pennard
  • Penprysg
  • Penrhiwceiber
  • Penrhyn
  • Penrhyndeudraeth
  • Pensarn
  • Pentir
  • Pentre
  • Pentre Mawr
  • Pentwyn
  • Pentyrch
  • Penycae
  • Penycae and Ruabon South
  • Penydarren
  • Penyffordd
  • Penygroes
  • Penylan
  • Penyrheol
  • Peterston-super-Ely
  • Pillgwenlly
  • Plas Madoc
  • Plasnewydd
  • Plymouth
  • Ponciau
  • Pont-y-clun
  • Pontamman
  • Pontardawe
  • Pontardulais
  • Pontllanfraith
  • Pontlottyn
  • Pontnewydd
  • Pontnewynydd
  • Pontprennau/Old St. Mellons
  • Pontyberem
  • Pontycymmer
  • Pontypool
  • Pontypridd Town
  • Port Talbot
  • Porth
  • Porthcawl East Central
  • Porthcawl West Central
  • Porthmadog East
  • Porthmadog West
  • Porthmadog-Tremadog
  • Portskewett
  • Prestatyn Central
  • Prestatyn East
  • Prestatyn Meliden
  • Prestatyn North
  • Prestatyn South West
  • Presteigne
  • Priory
  • Pwllheli North
  • Pwllheli South
  • Pyle
  • Quarter Bach
  • Queensferry
  • Queensway
  • Radyr
  • Raglan
  • Rassau
  • Resolven
  • Rest Bay
  • Rhayader
  • Rhigos
  • Rhiw
  • Rhiwbina
  • Rhiwcynon
  • Rhondda
  • Rhoose
  • Rhos
  • Rhosnesni
  • Rhuddlan
  • Rhydfelen Central/Ilan
  • Rhyl East
  • Rhyl South
  • Rhyl South East
  • Rhyl South West
  • Rhyl West
  • Ringland
  • Risca East
  • Risca West
  • Riverside
  • Rogerstone
  • Rogiet
  • Rossett
  • Ruabon
  • Rudbaxton
  • Rumney
  • Ruthin
  • Saltney Mold Junction
  • Saltney Stonebridge
  • Sandfields East
  • Sandfields West
  • Sarn
  • Saron
  • Saundersfoot
  • Scleddau
  • Sealand
  • Seiont
  • Seiriol
  • Seven Sisters
  • Severn
  • Shaftesbury
  • Shirenewton
  • Shotton East
  • Shotton Higher
  • Shotton West
  • Sirhowy
  • Six Bells
  • Sketty
  • Smithfield
  • Snatchwood
  • Solva
  • Splott
  • St. Arvans
  • St. Asaph East
  • St. Asaph West
  • St. Athan
  • St. Augustine's
  • St. Bride's Major
  • St. Cadocs and Penygarn
  • St. Cattwg
  • St. Christopher's
  • St. Clears
  • St. David Within
  • St. David's
  • St. Dials
  • St. Dogmaels
  • St. Ishmael
  • St. Ishmael's
  • St. James
  • St. John
  • St. Julians
  • St. Kingsmark
  • St. Martins
  • St. Mary
  • St. Mary's
  • St. Thomas
  • Stansty
  • Stanwell
  • Stow Hill
  • Sully
  • Swiss Valley
  • Taffs Well
  • Tai-bach
  • Talbot Green
  • Talgarth
  • Talybolion
  • Talybont-on-Usk
  • Talysarn
  • Tawe-Uchaf
  • Teigl
  • Tenby: North
  • Tenby: South
  • The Elms
  • The Havens
  • Thornwell
  • Tirymynach
  • Ton-teg
  • Tonna
  • Tonypandy
  • Tonyrefail East
  • Tonyrefail West
  • Town
  • Townhill
  • Towyn
  • Trallwng
  • Trawsfynydd
  • Trealaw
  • Trebanos
  • Tredegar Central and West
  • Tredegar Park
  • Trefeurig
  • Trefnant
  • Treforest
  • Trefriw
  • Tregaron
  • Tregarth & Mynydd Llandygai
  • Treharris
  • Treherbert
  • Trelawnyd and Gwaenysgor
  • Trelech
  • Trellech United
  • Tremeirchion
  • Treorchy
  • Treuddyn
  • Trevethin
  • Trewern
  • Trimsaran
  • Troedyraur
  • Trowbridge
  • Tudno
  • Tudweiliog
  • Two Locks
  • Twrcelyn
  • Twyn Carno
  • Tycroes
  • Tyisha
  • Tylorstown
  • Tyn-y-nant
  • Tywyn
  • Uplands
  • Upper Cwmbran
  • Upper Loughor
  • Usk
  • Uwch Conwy
  • Uwchaled
  • Vaynor
  • Victoria
  • Wainfelin
  • Waunfawr
  • Welshpool Castle
  • Welshpool Gungrog
  • Welshpool Llanerchyddol
  • Wenvoe
  • West Cross
  • West End
  • Whitchurch and Tongwynlais
  • Whitegate
  • Whitford
  • Whitland
  • Wiston
  • Wyesham
  • Wynnstay
  • Y Felinheli
  • Ynys Gybi
  • Ynysawdre
  • Ynyscedwyn
  • Ynysddu
  • Ynyshir
  • Ynysybwl
  • Yscir
  • Ystalyfera
  • Ystrad
  • Ystrad Mynach
  • Ystradgynlais
  • Ystwyth

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Trwydded Rhywogaeth