Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn ar ryddhau adar hela yng Nghymru, dyma ein cyngor i Lywodraeth Cymru.
Rydym hefyd yn rhannu ymatebion (wedi'u golygu) rhai o'n rhanddeiliaid allweddol.
Pam rydym yn ymgynghori?
Mae niferoedd sylweddol o adar hela estron, yn enwedig ffesantod a phetris coesgoch, yn cael eu rhyddhau yng Nghymru bob blwyddyn. O fewn ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), fel arfer mae angen caniatâd ar gyfer rhyddhau o'r math hwn. Fodd bynnag, yng Nghymru, ychydig iawn o reoleiddio sydd y tu allan i safleoedd gwarchodedig ar hyn o bryd.
Mae hyn wedi arwain at bryderon ynghylch gallu asiantaethau fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i fonitro a rheoli effeithiau amgylcheddol posibl y rhyddhau hwn yn effeithiol, gan gynnwys eu heffeithiau posibl ar safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd.
Yn 2021, cyflwynodd DEFRA ddull rheoleiddio interim ar gyfer trwyddedu rhyddhau adar hela yn Lloegr. Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ac CNC ystyried opsiynau ar gyfer rheoleiddio rhyddhau adar hela yng Nghymru.
Yn 2022, gwahoddwyd rhanddeiliaid a’r cyhoedd i gyflwyno tystiolaeth i lywio ein hadolygiad o’r sefyllfa yng Nghymru a chawsom ymatebion gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos y gall gweithgareddau rheoli a gyflawnir gan y sector saethu anifeiliaid hela fod o fudd i fioamrywiaeth, ond y gall rhyddhau adar hela hefyd arwain at niwed, yn enwedig pan fydd hyn yn digwydd mewn lleoliadau sensitif neu ar lefelau anghynaladwy.
Rydym bellach am gael eich barn ar ddull rheoleiddio newydd arfaethedig. Ein nod yw rhoi system effeithiol, ymarferol a chymesur ar waith a fydd yn helpu’r sector saethu anifeiliaid hela i weithredu’n gynaliadwy.
Wrth ddatblygu’r cynnig hwn, rydym wedi ystyried ein dyletswyddau tuag at safleoedd gwarchodedig yn ogystal ag i rywogaethau a chynefinoedd a warchodir o dan ddeddfwriaeth Cymru, yn enwedig y rhai a restrir o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 fel rhai o brif bwys i gynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru.
Nid ymgynghoriad yw hwn ynghylch p’un a ddylid parhau i ganiatáu saethu ysglyfaethau byw ai peidio yng Nghymru.
Beth ydym yn ei gynnig?
Rydym wedi cynghori Gweinidogion Cymru i gymryd y camau angenrheidiol i ychwanegu ffesantod a phetris coesgoch at Ran 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Byddai hyn yn golygu y byddai angen i unrhyw ryddhad o’r rhywogaethau hynny yng Nghymru gael ei wneud o dan drwydded a roddwyd gan CNC.
Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn gyfle i ddarparu gwrthwynebiadau neu sylwadau am y cynnig i ychwanegu’r rhywogaethau hyn at Atodlen 9 i Ddeddf 1981.
Rydym yn cynnig y bydd rhyddhau adar hela sydd 500m neu fwy o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu safle gwarchodedig Ewropeaidd sensitif, ac sy'n dilyn arferion da a dderbynnir yn eang, yn cael eu caniatáu o dan delerau trwydded gyffredinol. Mae trwydded gyffredinol yn drwydded yr ydym yn ei chyhoeddi ar ein gwefan ac sydd ar gael i unrhyw un ei defnyddio ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’i thelerau ac amodau. Rydym yn cynnig defnyddio Canllawiau'r Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Chadwraeth Bywyd Gwyllt ar gyfer Rhyddhau Adar Hela yn Gynaliadwy fel sail eang i delerau ac amodau’r drwydded gyffredinol hon.
Rydym yn cynnig y bydd angen trwydded benodol gan CNC ar gyfer rhyddhau o fewn safleoedd gwarchodedig sensitif, neu o fewn 500m i’w ffiniau. Rhaid gwneud cais am drwyddedau penodol, rhaid iddynt gael eu hystyried yn unigol gan CNC, a rhaid iddynt eu rhoi i unigolyn penodol. Bydd angen trwydded benodol hefyd ar gyfer rhyddhau mewn ardaloedd eraill nad ydynt yn bodloni telerau ac amodau'r drwydded gyffredinol. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried yr achosion hynny o ryddhau sy'n peri'r risgiau mwyaf yn unigol. Gofynnir i ymgeiswyr am drwyddedau penodol ddangos sut y byddant yn sicrhau na fydd eu rhyddhau yn niweidio'r amgylchedd, ac yn ddelfrydol yn darparu buddion i fioamrywiaeth.
Rydym yn cynnig nodi safleoedd gwarchodedig lle byddai rhyddhau adar hela yn annhebygol iawn o gael effaith ar unrhyw un o'r nodweddion dynodedig. Bydd y drwydded gyffredinol ar gael i'w defnyddio yn y safleoedd hyn. Rydym yn cynnig cynnwys rhestr o'r safleoedd hyn fel rhan o'r drwydded gyffredinol.
Gweithredu ac adolygu
Rydym yn cynnig y byddai’r dull newydd yn dod i rym mewn pryd ar gyfer tymor 2024-25.
Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle mae’r dystiolaeth yn datblygu’n gyflym. Rydym felly wedi ymrwymo i barhau i adolygu unrhyw ddull newydd ac ymateb i unrhyw dystiolaeth newydd.
Share
Share on Twitter Share on Facebook