Datblygwyd trwyddedau rheolau safonol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Maen nhw’n ein galluogi ni i gynnig trwyddedau safonol sy’n lleihau’r baich gweinyddol ar fusnesau, gan gynnal safonau amgylcheddol yr un pryd. Maen nhw’n seiliedig ar gyfresi o reolau safonol y gallwn ni eu cymhwyso’n eang.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig:
Rydyn ni’n defnyddio’r term ‘dirymu’ pan fo trwydded rheolau safonol yn cael ei thynnu. Nid yw ar gael mwyach er mwyn wneud cais ar ei chyfer ac nid oes ganddi unrhyw ddeiliaid.
Mae gan rai trwyddedau rheolau safonol ddeiliaid ond nid ydynt ar gael ar gyfer ceisiadau newydd. Dywedwn fod y rhain ‘wedi’u tynnu’n ôl a’u harchifo’.
Gallwch weld y trwyddedau rheolau safonol yn adran ‘Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig’ rheolau safonol ac asesiadau risg ar gyfer cyfarpar hylosgi canolig a generaduron penodol.
Rydyn ni’n cynnig dirymu’r trwyddedau rheolau safonol. Nid ydynt yn cael eu defnyddio ac nid oes ganddynt unrhyw ddeiliaid:
Rydyn ni’n cynnig tynnu’n ôl ac archifo’r ddwy drwydded rheolau safonol ganlynol. Er bod rhai deiliaid o hyd, ni ellir gwneud cais ar eu cyfer bellach:
Does dim yn newid. Byddai eich trwydded yn parhau mewn grym, a byddech yn dal i allu parhau â'ch gweithgaredd. Byddech yn parhau i weithredu yn unol â’r amodau a geir yn eich set o reoliadau safonol yn eich trwydded.
Share
Share on Twitter Share on Facebook