Hysbysiad o Gais ar gyfer gosod slabiau dros hen slabiau ar Bont Afon Dyfrdwy A494
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 - Hysbysiad o Gais ar gyfer gosod slabiau dros hen slabiau ar Bont Afon Dyfrdwy A494
Hysbysir drwy hyn fod Jones Bros Civil Engineering wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) am drwydded forol i gynnal gweithgaredd rheoledig o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer gosod slabiau dros hen slabiau ar Bont Afon Dyfrdwy A494.
Gallwch weld dogfennau’r cais yn rhad ac am ddim, yn https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2461.
Give us your views
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i Cyfoeth Naturiol Cymru, Tîm Trwyddedu Morol, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ, neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 20/11/2024, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2461.
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Coastal Group Members
Diddordebau
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Marine Area Statement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook