Hysbysiad o Gais am Brosiect Wystrys Gwyllt Bae Conwy – Ail-lefelu Haenau Cytrefu

Closes 16 Sep 2024

Opened 16 Aug 2024

Overview

Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009
- Hysbysiad o Gais am Brosiect Wystrys Gwyllt Bae Conwy – Ail-lefelu Haenau Cytrefu

Hysbysir drwy hyn fod Cymdeithas Sŵolegol Llundain wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer Prosiect Wystrys Gwyllt Bae Conwy – Ail-lefelu Haenau Cytrefu (‘Gwalfa’).

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais DEML2449.

Give us your views

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r Tîm Trwyddedu Morol, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ,  neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y 16/09/2024, gan ddyfynnu cyfeirnod: DEML2449.

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Areas

  • All Areas

Audiences

  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Coastal Group Members

Interests

  • EIA
  • Development
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Marine Area Statement