Datganiad o fwriad i beidio a pharatoi Datganiad Amgylcheddol: Llanfair Talhaearn

Closed 14 Jul 2021

Opened 14 Jun 2021

Overview

Rheoliad 12B o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) O.S. 1999/1783 fel y’u diwygiwyd 

Cam 2 Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanfair Talhaearn 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn hysbysu ei fod yn cynnig cynnal gwaith gwella i'r amddiffynfa rhag llifogydd ar Nant Barrog yn Llanfair Talhaearn. Mae lleoliad y gwaith ar hyd y rhan o sianel yr afon sydd o fewn tiriogaeth Capel Soar ar y gyffordd rhwng Ffordd Ddinbych a Stryd y Dŵr (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SH 927 700) a Than y Geulan. Mae’r gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys disodli muriau presennol yr afon â muriau uwch a rheiliau. Bydd y muriau newydd wedi'u ffurfio o goncrit cyfnerthedig ac arglawdd llifogydd o bridd. Mae'r muriau wedi'u lleoli'n uniongyrchol i fyny’r afon o fewnfa cwlfer Stryd y Dŵr ac wedi'u ffurfio o gladin cerrig ar hyd wynebau agored. Mae'r arglawdd pridd yn dechrau tua 25 metr i fyny'r afon o fewnfa’r cwlfer ac mae dan orchudd o lystyfiant er mwyn gweddu i'r cynefin cyfagos. 

Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn rhagori ar y trothwy / meini prawf perthnasol yng Ngholofn 2 o Atodlen 2 o'r Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â datblygiad Categori 10(h) (gwaith adeiladu ar ddyfrffordd fewndirol nad yw wedi'i gynnwys yn Atodlen 1, camlesu, a gwaith lliniaru llifogydd). Nid yw'r datblygiad arfaethedig wedi'i leoli yn yr hyn a ddiffinnir o dan y Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol fel ‘ardal sensitif’. Felly nid yw'n ofynnol sgrinio'r datblygiad arfaethedig o dan y Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol. 

Mae CNC wedi cynnal arfarniad amgylcheddol ac mae o'r farn na fydd y gwaith arfaethedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, ac, o ganlyniad, nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith. Cafodd hyn ei gadarnhau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae adroddiad amgylcheddol sy'n cynnwys Cynllun Gweithredu Amgylcheddol wedi'i lunio ac mae'n crynhoi'r camau gweithredu sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni'r mesurau lliniaru a chanlyniadau amgylcheddol mewn perthynas â gwaith cynllunio, adeiladu a gweithredu'r cynllun arfaethedig. Mae hefyd yn nodi rolau a chyfrifoldebau'r bobl hynny a fydd ynghlwm wrth y prosiect ac yn cyfeirio at bob rhan o'r gwaith dros dro a pharhaol.

Areas

  • Conwy

Audiences

  • Flooding

Interests

  • Flooding