Arolwg canllawiau datgarboneiddio - anghenion defnyddwyr

Trosolwg

Wrth i'r DU brysuro tuag at ei thargedau sero net ar gyfer 2030 a 2050, disgwylir i gyflymder a graddfa datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel godi’n sylweddol. Fodd bynnag, mae cyfundrefnau cydsynio fel cynllunio a thrwyddedu yn aml yn cael eu crybwyll fel rhwystrau i gynnydd.

CNC gennym nifer o rolau o ran defnyddio cynlluniau cynhyrchu ynni yng Nghymru, gan gynnwys fel ymgynghorydd statudol a rheoleiddiwr. Rydym yn awyddus i wybod pa gyngor ac arweiniad yr hoffech ei weld ar ein gwefan i'ch helpu wrth benderfynu ble i leoli, sut i ddylunio eich cynllun a pha wybodaeth i'w chynnwys i gefnogi cais, a thrwy hynny symleiddio'r broses gydsynio a lleihau unrhyw oedi.

Er mwyn ein helpu gyda hyn, cymerwch amser i ateb y cwestiynau drwy'r ddolen isod. Mae'r arolwg yn cynnwys 25 o gwestiynau ac ni ddylai gymryd mwy na chwarter awr i'w gwblhau.  

Pam bod eich barn yn bwysig

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn gallwch ddylanwadu'n uniongyrchol ar y cyngor a'r canllawiau sydd eu hangen i symleiddio'r broses gydsynio ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel sy'n dod i'r amlwg.

Anghenion canllawiau datgarboneiddio

Yn cau 30 Meh 2026

Wedi agor 9 Meh 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Development